Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Hoffwn roi'r newyddion diweddaraf i Aelodau ynghylch y budd economaidd anuniongyrchol sydd wedi deillio o gaffael y Partner Gweithredu a Datblygu newydd ar gyfer gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r Gororau. Amlinellais hyn i'r Aelodau yn gynharach yn yr wythnos hon.  

Fel y dywedais ar y pryd, rydym wedi cyrraedd carreg filltir hanesyddol i'r rheilffyrdd yng Nghymru.

Yr amcan a osodais i Drafnidiaeth Cymru oedd cynyddu i'r eithaf fanteision economaidd y broses gaffael unigol fwyaf erioed i'w chynnal yng Nghymru, i Gymru.  Heddiw, rydw i eisiau rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau ynghylch sut y bodlonwyd yr amcan hwn.

Yn yr un modd â’n Contract Economaidd newydd, buddsoddi cyhoeddus at bwrpas cymdeithasol yw conglfaen ein ffordd newydd o ymdrin â'r rheilffyrdd.

Yn gynharach yn yr wythnos hon, soniais sut y bydd dros hanner y trenau y bydd eu hangen ar gyfer y gwasanaeth newydd yn cael eu hadeiladu yng Nghymru.  Mae hyn yn newydd da o ran swyddi yn ffatri newydd CAF yng Nghasnewydd. Rhagwelir y bydd hyd at 300 o staff yn gweithio yno a bydd hyn yn darparu llif gwaith sylweddol iddynt yn gynnar.

Gwnaeth cyhoeddiad CAF eu bod wedi dewis Cymru'n ganolfan ar gyfer eu cyfleuster gweithgynhyrchu newydd yn y DU ennyn llawer o ddiddordeb yn y diwydiant rheilffyrdd.  Dyma'r tro cyntaf yn y cyfnod modern i drenau gael eu hadeiladu yma.  Ers y cyhoeddiad cyntaf hwnnw, mae CAF wedi ei gwneud yn amlwg i Lywodraeth Cymru eu bod yn gweld Cymru fel eu canolfan yn y DU ar gyfer amrywiaeth gynyddol o weithgareddau.

Sail y Contract Economaidd yw egwyddor rhywbeth er lles pawb, ac mae'r gwasanaeth rheilffyrdd newydd hwn yn glynu wrth hynny.

O ganlyniad, bydd KeolisAmey yn creu 600 o swyddi newydd dros oes y contract.

Yn ogystal, bydd KeolisAmey yn creu 30 o brentisiaethau'r flwyddyn.

Byddwn hefyd yn sicrhau y bydd y Cyflog Byw gwirioneddol ol yn cael ei raeadru drwy'r gadwyn gyflenwi, a bydd KeolisAmey'n dod yn gyflogwr Cyflog Byw achrededig erbyn 2021.

Pwysleisiodd ein Cynllun Gweithredu ar yr Economi bwysigrwydd annog mwy o gwmnïau i leoli eu pencadlys yng Nghymru.  Mae busnesau'n dueddol i leoli eu pencadlys lle mae busnesau eraill wedi gwneud hynny ac mae'r 'effaith luosi' hon yn un sylweddol. Rydym yn cydnabod bod hwn yn faes lle mae angen i ni wneud rhagor.

O ganlyniad i'n dull gweithredu mewn perthynas â'r broses gaffael a lefel y buddsoddi ac arloesi a welir yng Nghymru bydd Keolis ac Amey yn symud rhannau allweddol o'u busnesau i Gymru;

Bydd Keolis yn symud ei bencadlys yn y DU o Lundain i Gymru erbyn 2019. Bydd yn datblygu'r swyddfa newydd i fod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer holl is-gwmnïau Keolis yn y DU ac yn datblygu arbenigedd mewn technoleg newydd, bysiau, beicio a pharcio.

Bydd Keolis yn symud ei isadran rheilffyrdd byd-eang o Baris i Gymru erbyn 2020, gan ddarparu arbenigedd i holl weithgaredd Keolis o ran rheilffyrdd ledled y byd a helpu i arddangos Cymru fel canolfan arloesi ym maes technoleg rheilffyrdd.

Ategir y ddau dîm gan Amey, a fydd yn agor canolfan dylunio ac ymgynghori newydd yng Nghymru. Bydd yn cynnig atebion i broblemau peirianyddol ledled y DU.

Yn ogystal â'r prosiectau unigol hyn, bydd Keolis ac Amey yn agor canolfan cydwasanaethau newydd a chanolfan gyswllt newydd i gwsmeriaid ar y cyd.

Gyda'i gilydd, bydd y swyddfeydd hyn yn creu tua 130 o swyddi newydd o ansawdd uchel yng Nghymru, yn ogystal â'r 600 o swyddi newydd a'r 450 o brentisiaethau a gyhoeddwyd ddydd Llun.

Mae'r bob un o'r rhain yn gryn gamp a byddant yn rhoi hwb gwirioneddol i economi Cymru.  Mae hefyd yn tystio i’r modd y mae’r cynllun gweithredu ar yr economi’n  gweithio'n ymarferol wrth inni weld budd economaidd go iawn ochr yn ochr â'r amcanion trafnidiaeth ac adfywio amlwg.  

Mae lle Cymru yn hanes rheilffyrdd y byd wedi'i hen sefydlu.  Yn 1804,  yng ngwaith haearn Penydarren ger Merthyr Tudful digwyddodd y daith gyntaf yn y byd i'w gyrru gan ager, pan dynnodd locomotif ager Richard Trevithick drên ar hyd tramffordd y gwaith. Agorwyd y gwasanaethau rheilffordd cyntaf i deithwyr rhwng Abertawe a'r Mwmbwls yn 1807  

Ond mae mwy na hanes i Gymru.  Rydym ni eisiau i Gymru fod ar flaen y gad o ran dyfodol y diwydiant rheilffyrdd  hefyd.  Er bod Cymru'n parhau i fod yn gartref i nifer o sefydliadau sy'n gweithio yn y diwydiant, mae cyhoeddiad heddiw'n golygu ein bod yn datblygu'n ganolfan o bwys, sy'n cael effaith ymarferol ac yn gallu llywio digwyddiadau yn y dyfodol.  Dyma sylfeini ardderchog ar gyfer parhau i ddatblygu'r diwydiant  hwn, sy'n  cynyddu mewn pwysigrwydd yng Nghymru. Bydd yn ein galluogi i elwa ar ragor o fanteision economaidd wrth i'r sefydliadau hyn ddatblygu a ffynnu yn eu cartrefi newydd.