Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Hydref 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016



Mae Deddf Diwygio Lles Llywodraeth y DU 2012 yn cyflwyno dau fudd-dal newydd: Credyd Cynhwysol, fydd yn y pen draw yn disodli nifer o fudd-daliadau yn seiliedig ar incwm ar gyfer pobl mewn gwaith a’r di-waith; a’r Taliad Annibyniaeth Bersonol, fydd yn disodli y Lwfans Byw i’r Anabl.  Bydd cyflwyno’r budd-daliadau newydd hyn yn arwain at oblygiadau sylweddol i fudd-daliadau a gwasanaethau Llywodraeth Cymru sydd wedi’u pasbortio, sydd ar hyn o bryd yn defnyddio neu’n seilio eu meini prawf cymhwysedd ar fudd-daliadau yr Adran Gwaith a Phensiynau sy’n cael eu disodli.  Bydd yn cael effaith hefyd ar ddeddfwriaeth arall Llywodraeth Cymru sy’n cyfeirio at y budd-daliadau hynny.  Bydd y newidiadau yn cael effaith hefyd ar y cynlluniau newydd y mae’n ofynnol i Lywodraeth Cymru eu datblygu o ganlyniad i’r diwygiadau lles.

Mae’r rhestr yn Atodiad 1 yn nodi budd-daliadau Llywodraeth Cymru sy’n cael eu pasbortio, a deddfwriaeth gyfredol arall Llywodraeth Cymru, sy’n cyfeirio at fudd-daliadau presennol yr Adran Gwaith a Phensiynau sy’n seiliedig ar incwm fydd angen eu diwygio.  

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio delio â’r her o ddiwygio ei deddfwriaeth ei hun i ymateb i’r diwygiadau lles radical hyn.  I grynhoi, o ganlyniad i newidiadau Llywodraeth y DU, mae angen inni ddatblygu atebion niwtral o ran cost i’r meini prawf cymhwysedd newydd ar gyfer budd-daliadau sy’n cael eu pasbortio.  Mae’r manylion ynghylch sut y bydd Credyd Cynhwysol yn cael ei weithredu yn parhau i gael eu datblygu ac nid ydym eto wedi derbyn data digon manwl ar lefel Cymru i’n galluogi i asesu effaith y meini prawf cymhwysedd newydd.  

Ar hyn o bryd, nid oes cadarnhad gan yr Adran Gwaith a Phensiynau o raddfa a chwmpas y Cynllun Braenaru ar gyfer Credyd Cynhwysol, mae’r cytundebau manwl eto i’w paratoi ar allu’r Adran Gwaith a Phensiynau i gynnal y gwaith gwirio cymhwysedd ar gyfer pasbortio, ac mae angen gwybodaeth gynhwysfawr ar gyfer y trefniadau terfynol o ran hysbysu y dyfarniadau Credyd Cynhwysol.  Rydym yn deall nad yw’r wybodaeth ar gael eto neu yn cael ei hadolygu.  

Mae’r angen am ragor o wybodaeth fanwl gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, yr angen i gadarnhau rheoliadau Credyd Cynhwysol, sydd eto i’w gosod gerbron y Senedd, a’r amserlen heriol, yn gwneud hon yn dasg sy’n fwyfwy anodd.  Er gwaetha hyn, byddwn yn parhau â’n hymdrechion i geisio sicrhau bod y diwygiadau yn dod i rym erbyn 1 Ebrill 2013.  

Wrth i Lywodraeth Cymru ddatblygu ei dulliau o weithredu, byddwn yn parhau i gydweithio’n glos â’n partneriaid ac yn cymryd camau pryd bynnag y bo’n bosib, i liniaru effeithiau negyddol diwygiadau Lles Llywodraeth y DU yng Nghymru.