Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Uchelgais Llywodraeth Cymru o hyd yw creu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig, gynaliadwy, gan gynnwys trafnidiaeth gymunedol, ar draws Cymru. Felly rhaid i ni weithredu nawr i sicrhau y bydd gennym rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus hyfyw pan fydd y pandemig COVID-19 presennol wedi dod i ben, er mwyn gwireddu'r uchelgais honno.

Mae ein darparwr masnachfraint rheilffyrdd, ynghyd â chwmnïau bysiau a gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus, sy'n fusnesau bach a chanolig neu'n elusennau gan fwyaf, yn wynebu her sylweddol na welwyd erioed ei thebyg o'r blaen. Gwelwyd gostyngiad sylweddol yn y galw am deithio yn dilyn y cyngor diweddaraf i bawb aros gartref oni bai fod amgylchiadau eithriadol yn codi, yr angen i gadw pellter cymdeithasol, a'r ffaith bod cynifer yn gweithio gartref a'r ysgolion a’r colegau wedi cau.

Dim ond gweithwyr allweddol, megis gweithwyr iechyd proffesiynol, i ddarparu cymorth hanfodol i'n cymunedau, a'r rheini heb gar i fynd i'r siop am fwyd hanfodol a nwyddau meddygol, ddylai ddefnyddio'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru bellach.

O ganlyniad i'r ymateb datblygol hwn i COVID-19, a'n cyngor ni a Llywodraeth y DU i'r cyhoedd beidio â theithio o gwbl os nad yw'n hanfodol, rwyf wedi gwneud cyfres o benderfyniadau ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus ar draws Cymru.

Yn gyntaf oll, mae'r pandemig coronafeirws eisoes wedi cael effaith ddifrifol ar y rheilffyrdd yng Nghymru. Mae nifer y teithwyr wedi syrthio cryn dipyn o ganlyniad i'n cyngor i gadw pellter neu hunanynysu a pheidio â theithio os nad yw'r siwrnai yn hanfodol.

Rhaid inni weithredu nawr i ddiogelu dyfodol gwasanaethau. Rwyf wedi cytuno i becyn o gymorth, werth hyd at £40 miliwn dros y misoedd nesaf i ganiatáu inni roi sicrwydd i deithwyr. Bydd y cyllid hwn yn sicrhau y gwasanaeth mwy cyfyng yr ydym bellach yn ei gynnig, a bydd yn diogelu dyfodol gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru a’r Gororau.

Rydym yn cydweithio’n agos gyda’n partneriaid yn Trafnidiaeth Cymru a Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru ar fanylion y dull o weithio, yr wyf yn disgwyl i ddatblygu ymhellach dros yr wythnosau nesa. Rwy’n bwriadu rhoi rhagor o fanylion i aelodau ar fanylion penodol y pecyn mewn cyhoeddiadau pellach.

Yn ail, mae'r pandemig coronafeirws wedi achosi ansicrwydd a chryn dipyn o her ar draws pob sector a diwydiant gan gynnwys y diwydiant bysiau.

Yn dilyn trafodaethau gyda busnesau a rhanddeiliaid i ddeall yr effeithiau’r pandemig COVID-19, gan gynnwys gostyngiad o 90% yn nifer y bobl sy’n defnyddio rhai o lwybrau TrawsCymru fel arfer, mae'n amlwg bod angen cymorth ar unwaith ar y diwydiant i barhau'n hyfyw hyd yn oed am yr ychydig fisoedd nesaf, wrth i fesurau tymor hirach gael eu datblygu.

Anfonais lythyr yn ddiweddar at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn argymell y dylai awdurdodau lleol barhau i dalu 75% o leiaf o werth contractau gwasanaethau ysgolion a gwasanaethau teithwyr lleol eraill sydd wedi'u contractio, fel man cychwyn ar gyfer sefydlogi'r diwydiant.

Bydd y cam nesaf yn helpu gweithredwyr bysiau yn ystod ansicrwydd anochel y 3 mis nesaf trwy ariannu o £29m. Bydd ein cymorth ariannol parhaus i'r diwydiant bysiau, drwy grantiau wedi'u gweinyddu gan awdurdodau lleol, yn cael ei dalu ymlaen llaw nes ein bod yn gallu rhoi datrysiad mwy cynaliadwy ar waith neu ddiwedd chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol, pa un bynnag yw'r gynharaf. Yn ystod yr amser hwn, bydd taliadau ar sail gwerth taliadau blaenorol y Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau, ad-daliadau Pris Siwrnai Consesiynol Gorfodol a thaliadau dan y cynllun Fy Ngherdyn Teithio sydd yn cael eu pennu yn ôl nifer y teithwyr a phellter y teithiau mewn adegau arferol. Bydd pob gweithredwr oedd yn gymwys i gael y taliadau hyn yn y ddau chwarter blaenorol, gan gynnwys gweithredwyr cludiant cymunedol, yn gymwys.

Yn gyfnewid am y cymorth hwn, bydd pob gweithredwr sy'n ei dderbyn yn ymrwymo i'r canlynol am y tri mis nesaf:

  • Bydd gwasanaethau yn dilyn amserlen sylfaenol (contractau i'w cytuno gyda'r awdurdodau lleol), sy'n ddigonol i ganiatáu i weithwyr allweddol gyrraedd y gwaith ac i'r rhai heb geir gyrraedd y siopau i gael bwyd a chyflenwadau meddygol hanfodol.
  • Ni fydd unrhyw fws yn cludo dros 50% o uchafswm ei gapasiti.
  • Er mwyn cyfateb i'r cynnig a gyhoeddwyd ar gyfer ein gwasanaethau trên, bydd pob gweithiwr gyda'r GIG sy'n defnyddio gwasanaeth bws yn teithio am ddim.
  • Bydd pob darparwr yn rhoi adroddiad wythnosol i ni a'n partneriaid yn yr awdurdodau lleol, i ddangos sut mae pob bws yn y fflyd wedi bodloni'r gofynion. Bydd angen dweud pa deithiau gafodd eu cynnal, faint o'r gloch y cyrhaeddodd pob man aros, faint o deithwyr ddaeth ymlaen, pa ffi dalodd y teithiwr ac ati.

Rydym wedi nodi’n glir, yn ogystal â’r ymrwymiadau hyn, ein bod yn disgwyl i’r gweithredwyr bysiau leihau costau rhedeg, er enghraifft defnyddio Cynllun Cadw Swyddi Llywodraeth y DU ar gyfer staff nad oes eu hangen i redeg y gwasanaeth gostyngedig.

Gobeithio y bydd hyn yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i weithredwyr yn y tymor byr i barhau i ddarparu gwasanaethau a thalu gweithwyr ac isgontractwyr wrth i ni weithio gyda nhw i ddatblygu pecyn cynhwysfawr o fesurau, sy'n angenrheidiol yn sgil maint yr argyfwng, i sicrhau rhwydwaith bysiau effeithiol, cynaliadwy a chadarn.

Ar ben hynny, yn ystod y cyfnod hwn pan fyddwn yn gofyn i bobl beidio teithio oni bai fod hynny'n hanfodol, byddwn yn atal dros dro y cynnig o deithio am ddim ar y penwythnos ar rwydwaith Traws Cymru, ac yn caniatáu i holl staff y GIG deithio am ddim ar y rwydwaith drwy gydol yr wythnos o ddydd Llun ymlaen.  Byddaf yn rhoi gwybod i'r aelodau pan fydd modd ailddechrau teithio am ddim ar benwythnosau.

Bydd y cyhoeddiad hwn, ynghyd â chymorth arbenigol i'r gweithredwyr bysiau sydd ar gael drwy Busnes Cymru, rhyddhad ardrethi busnes Llywodraeth Cymru, a'r cynnig o gymhorthdal cyflog sydd ar gael gan Lywodraeth y DU, yn gwneud cryn dipyn i helpu'r diwydiant.

Mae'n gyfnod anodd, a rhaid i ni gydweithio er mwyn sicrhau bod modd i gwmnïau bysiau ddarparu'r gwasanaethau hanfodol hyn. Byddwn yn parhau i gydweithio'n agos gyda'r diwydiant i ddatblygu mesurau cymorth pellach, ac rwy'n gobeithio medru gwneud cyhoeddiadau eraill cyn hir.

Yn olaf, rhaid edrych ar y sector hedfanaeth. Mae'r pandemig a'r ffordd y mae'n rhaid i ni addasu ein ffordd o fyw am y dyfodol agos wedi effeithio'n sylweddol ar y farchnad awyrennau, ac mae nifer o deithwyr yn gwneud y penderfyniad cywir i beidio â hedfan. Mae nifer o gwmnïau hedfan eisoes wedi atal nifer o'u gwasanaethau masnachol, ac ar gyfer y gwasanaethau sy’n parhau i weithredu, nid yw’r mwyafrif o deithwyr am deithio.

O ganlyniad i hynny, ar ôl trafod gydag Eastern Airways, rydym wedi penderfynu atal dros dro gwasanaeth awyr y Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyhoeddus rhwng Caerdydd ac Ynys Môn am gyfnod cychwynnol o hyd at dri mis.

Bydd y penderfyniad i atal y gwasanaeth rhwng Caerdydd ac Ynys Môn dros dro yn cael ei adolygu wrth i ddatblygiad parhaus ac anrhagweladwy'r pandemig COVID-19 fynd rhagddo. Bydd fy swyddogion yn gweithio gyda'r awdurdodau perthnasol a gweithredwr y cwmni awyrennau er mwyn penderfynu ar y ffordd orau i ailddechrau'r gwasanaeth yn y ffordd fwyaf diogel posib, pan fydd yn briodol gwneud hynny.

Mae COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar feysydd awyr a’r diwydiant hedfanaeth. Mae’r diwydiant eisoes wedi gweld Thomas Cook a Flybe yn mynd i’r wal, ac mae bellach yn wynebu gostyngiad o 100% yn y niferoedd sy’n teithio ar draws holl feysydd awyr y DU. Mae’r sector i gyd yn teimlo’r effaith hon wrth i gwmnïau hedfan a theithwyr gydymffurfio â chyngor Llywodraeth y DU i beidio â theithio. Byddaf yn dweud mwy am Faes Awyr Caerdydd yn ystod y diwrnodau nesaf.

Ym mhob achos, byddwn yn galw ar gwmnïau trafnidiaeth gyhoeddus sydd am dderbyn cymorth gennym i edrych ar bob opsiwn arall o ran y cymorth ariannol sydd ar gael gan Lywodraeth y DU.