Neidio i'r prif gynnwy

Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mawrth 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Rwy’n falch o gyhoeddi bod £9 miliwn ychwanegol wedi’i neilltuo gan Bwyllgor Monitro’r Rhaglen i gefnogi gweithgarwch o dan Echel 1 o Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-13; Gallu i Gystadlu. Bydd yr arian ychwanegol hwn yn cael ei ddefnyddio i fuddsoddi ymhellach o dan y Cynllun Grant Prosesu a Marchnata a’r Cynllun Arbedion yn y Gadwyn Gyflenwi.

Diben y Cynllun Grant Prosesu a Marchnata yw galluogi cynhyrchwyr cynradd ym maes amaethyddiaeth a choedwigaeth yng Nghymru i ychwanegu gwerth at eu cynnyrch. Bwriedir iddo hefyd wella perfformiad eu busnesau a’u gwneud yn fwy abl i gystadlu ac i ymateb i alw gan ddefnyddwyr. Nod arall yw annog cynhyrchwyr i arallgyfeirio; ac i nodi marchnadoedd newydd, marchnadoedd sy’n bodoli eisoes a’r rheini sy’n dod i’r amlwg, yn ogystal â manteisio ar y marchnadoedd hynny a’u cyflenwi.

Diben y Cynllun Arbedion yn y Gadwyn Gyflenwi yw helpu partneriaethau cadwyn gyflenwi newydd i ddatblygu nes eu bod yn fwy hyderus yn eu gallu i fabwysiadu proses newydd o ran y gadwyn gyflenwi, gan arwain at fwy o fanteision cwbl amlwg a llai amlwg. Y nod yw meithrin gallu cynhyrchwyr i leihau costau’r gadwyn gyflenwi, meithrin eu gallu i farchnata a sicrhau eu bod yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Bu’r ddau Gynllun hyn yn llwyddiannus, a chafodd y cyllid sydd ar gael ar hyn o bryd ei neilltuo yn ei gyfanrwydd yn gynnar yn ystod Cyfnod y Rhaglen. Rwy’n rhagweld y bydd tipyn o alw am gymorth o’r cronfeydd ychwanegol. O ganlyniad, rwyf wedi sefydlu proses i sicrhau bod y cronfeydd yn cael eu neilltuo ar gyfer gweithgareddau a fydd yn cyfrannu fwyaf at y gwaith o gyflawni nodau’r Cynllun Datblygu Gwledig. 

Er mwyn sicrhau bod y broses yn un dryloyw a theg, bydd yr arian ychwanegol ar gyfer y Grant Prosesu a Marchnata yn cael ei neilltuo drwy gylch ceisiadau cystadleuol. Bydd panel arbenigol yn datblygu’r meini prawf manwl, ond byddant yn rhoi pwyslais ar ychwanegu gwerth i gynnyrch cynradd ym maes amaethyddiaeth a choedwigaeth. Wrth bwysoli’r meini prawf, bydd sgôr uwch yn cael ei roi i geisiadau arloesol.

Bydd prosiectau Arbedion yn y Gadwyn Gyflenwi sy’n bodoli eisoes yn cael eu gwahodd i gyflwyno cais i ymestyn eu gweithgarwch. Yn ystod y cam hwn o’r Cynllun Datblygu Gwledig, ni fyddai sefydlu prosiectau Arbedion yn y Gadwyn Gyflenwi newydd yn ddewis costeffeithiol.

Rwyf wedi gofyn i’r Bartneriaeth Cynghori ar Fwyd a Diod ystyried ymhellach  sut orau i fuddsoddi’r cronfeydd newydd hyn, ac i ddarparu canllawiau ar feysydd sydd i gael blaenoriaeth. Pan fydd y gwaith hwnnw wedi’i gwblhau, bydd y canllawiau terfynol yn cael eu dosbarthu i ymgeiswyr posibl erbyn diwedd mis Mai. Bydd gan ymgeiswyr dri mis i drafod a datblygu eu cynigion ar gyfer prosiectau, a’r bwriad yw y bydd y cyfnod cyflwyno ceisiadau yn dechrau ym mis Medi.