Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

 Rwyf am roi diweddariad i chi ar y rhaglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol a'm hymrwymiad i sicrhau bod gan bob ysgol yng Nghymru fynediad at y lefel gywir o fand eang ar gyfer yr ystafell ddosbarth fodern.  Yn dilyn fy niweddariad ym mis Rhagfyr 2016 ar argaeledd band eang i ysgolion, mae'n bleser gennyf eich hysbysu bod gwasanaeth band eang yr ysgolion cynradd a oedd yn weddill bellach wedi'i uwchraddio er mwyn bodloni'r cyflymder gofynnol o 10 megabit yr eiliad.  

Yn ogystal, fel rhan o'm Cytundeb Blaengar â Phrif Weinidog Cymru, rwyf hefyd wedi ymrwymo i fuddsoddi mwy mewn band eang ar gyfer ysgolion i sicrhau bod pob ysgol yn gallu gweithredu'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol a manteisio ar yr offer a'r adnoddau rydym wedi'u rhoi ar lwyfan Hwb. Rwyf hefyd am sicrhau bod ysgolion yn barod ar gyfer y profion addasol ar-lein newydd pan fyddant yn cael eu cyflwyno'n raddol dros dair blynedd o 2018/19.

I gefnogi cynnydd mewn cyflymder band eang yn y dyfodol, cyhoeddais £5 miliwn ar gyfer cam nesaf y buddsoddiad mewn band eang ysgolion ym mis Tachwedd 2016.  Dros y misoedd diwethaf, mae fy swyddogion wedi bod yn gwneud gwaith cwmpasu gyda'r awdurdodau lleol a BT a byddwn yn dechrau archebu'r gwasanaethau hyn yn nes ymlaen y mis hwn.

Byddaf yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ddatblygiadau drwy roi diweddariadau rheolaidd i chi ar y rhaglen hon dros y misoedd nesaf.