Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mehefin 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Rwyf am drafod y datblygiadau diweddaraf ynghylch yr hyn sy’n cael ei wneud fel ymateb i’r adolygiad annibynnol o addysgu yn y dosbarth digidol. Comisiynais yr adolygiad yn 2011. 
Cynhaliwyd yr adolygiad annibynnol gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen o dan gadeiryddiaeth Janet Hayward, pennaeth Ysgol Gynradd Tregatwg. Roedd cynrychiolwyr o fyd addysg a busnes yn aelodau o banel yr adolygiad.
Cyhoeddodd y grŵp ei adroddiad Canfod, gwneud, defnyddio, rhannu: dysgu yn y Gymru ddigidol ar 29 Mawrth 2012. Rwyf bellach wedi ystyried yr argymhellion eang eu cwmpas yn yr adroddiad a chytuno hefyd ar gynllun gweithredu ar gyfer defnyddio technoleg ddigidol i wella perfformiad ysgolion.

Y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol

Rwy’n sefydlu Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol i roi arweiniad arbenigol a strategol ar ddefnyddio technoleg ddigidol ym maes dysgu ac addysgu yng Nghymru. Gwaith y Cyngor fydd tywys y broses o roi’r rhaglen dysgu yn y Gymru ddigidol ar waith ac annog a chefnogi dysgwyr ac athrawon i ddefnyddio adnoddau a thechnolegau digidol. Bydd y Cyngor yn cydweithio’n glos â’r Panel Ymarferwyr Ysgolion a gyhoeddais ym mis Mawrth 2012.

Bydd y Cyngor yn dechrau ar ei waith ym mis Medi 2012. Daw aelodau’r Cyngor o ysgolion, addysg bellach a’r sector sgiliau yng Nghymru. Er mwyn sicrhau bod cynrychiolaeth gref gan ddysgwyr ar y Cyngor, rwyf wedi cytuno hefyd fod cronfa o aelodau cysylltiol yn cael ei sefydlu, gyda dysgwyr o ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd a cholegau addysg bellach yn aelodau ohoni.

Hefyd, bydd nifer o gynghorwyr proffesiynol o faes addysg uwch a diwydiant yn helpu’r Cyngor gyda’i waith.


Hwb

Ym mis Rhagfyr 2012, byddaf yn lansio platfform dysgu dwyieithog newydd i Gymru. Ei enw am y tro yw Hwb.

Mae llawer o ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru eisoes yn defnyddio rhyw fath o blatfform dysgu i gynnal adnoddau dysgu ac addysgu a chefnogi gweithgareddau addysg . Bydd Hwb yn blatfform i addysgwyr a dysgwyr o bob rhan o Gymru allu rhannu adnoddau, gwybodaeth a phrofiad. Bydd hefyd yn e-bortffolio personol y gall dysgwyr ei ddefnyddio gydol eu haddysg – gan roi’r modd iddynt greu ‘cyfrif am oes’ trwy gysylltu eu gwaith ar Hwb â’u rhif unigryw’r dysgwr.

Bydd adeiladwaith Hwb yn golygu y bydd modd datblygu’r platfform i ymgorffori technolegau a gwasanaethau newydd dros amser. Bydd Hwb yn rhedeg ar amrywiaeth o ddyfeisiau digidol gan gynnwys ffonau symudol, iPads ac Android ymhlith pethau eraill, yn ogystal ag ar gyfrifiaduron personol a Macs. Bydd y platfform yn hygyrch bob amser ym mhob man.

Un o nodweddion arbennig Hwb yw’r ffaith y bydd y platfform yn integreiddio’r defnydd o wasanaethau sydd ar gael ar y we beth bynnag – gan gynnwys gwefannau megis YouTube a TED – fel nad ydyn ni’n ailddyfeisio’r olwyn ond yn defnyddio technolegau sydd wedi hen ennill eu plwyf. Bydd Hwb hefyd yn defnyddio meddalwedd ffynhonnell agored lle bo hynny’n briodol.

O ran datblygu Hwb a rhoi cefnogaeth dechnegol iddo, bydd hynny’n cael ei gaffael trwy Fframwaith Caffael Platfformau Dysgu’r DU fel ein bod yn gallu rhoi’r contract i gwmni sydd eisoes â phrofiad yn y maes hwn.


Casgliad Digidol Cenedlaethol

Bydd Hwb yn gartref i storfa genedlaethol o adnoddau dysgu ac addysgu. Bydd honno’n cynnwys y miloedd o adnoddau sy’n ymwneud â’r cwricwlwm ac arferion da a ddatblygwyd ar gyfer y Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu (NGfL Cymru) wedi i hwnnw gael ei drosglwyddo i Hwb ym mis Rhagfyr.

Bydd Hwb hefyd yn ffordd i gael gafael ar amrywiaeth o offer a chynnwys addysgol ar drwydded, a bydd telerau hynny’n cael eu trafod yn 2013 fel rhan o ffrwd waith newydd ‘prynu unwaith i Gymru’. Mae’n bosib i hyn arwain at sicrhau arbedion sylweddol o ran gwariant ar feddalwedd addysgol yng Nghymru, yn ogystal â sicrhau bod pob athro, athrawes a dysgwr yn gallu elwa.

Bydd Hwb yn gyfleuster ar gyfer athrawon a dysgwyr, lle gallant lanlwytho a rhannu eu cynnwys digidol eu hunain, a chydweithio i greu offer a deunyddiau newydd. Y rhagdybiaeth yw y bydd adnoddau sy’n cael eu comisiynu a’u cyhoeddi trwy Hwb yn agored i drefn drwyddedu Creative Commons fel ei bod yn haws eu hailddefnyddio a’u datblygu. Un o’r prif egwyddorion yw bod athrawon a dysgwyr yn mynd ati i greu eu hunain gyda’r offer digidol, nid dim ond yn defnyddio cynnwys sydd wedi ei greu’n barod. 

Bydd defnyddwyr yn gallu rhoi sgôr i’r adnoddau sy’n cael eu rhannu ar Hwb, a rhoi adborth amdanynt.


iTunes U

Bydd Hwb yn gartref i adnoddau y gellir eu defnyddio ar amrywiaeth o blatfformau. Ond un elfen o Hwb fydd defnyddio’r platfform rhad ac am ddim, iTunes University (iTunes U), a hynny er mwyn arddangos yr adnoddau a’r gweithgareddau addysgol gorau sydd i’w cael yng Nghymru. Byddaf hefyd yn annog ysgolion a cholegau yng Nghymru i ystyried sut y gallant ddefnyddio hyn, ynghyd â gwasanaethau eraill sydd ar y we, i ennyn diddordeb dysgwyr ac fel bod modd i ragor o bobl gael gafael ar adnoddau dysgu.


Microsoft Partners in Learning

Bydd Hwb hefyd yn darparu ffordd i gael gafael ar yr amrywiaeth eang o offer ac adnoddau addysgol rhad ac am ddim sydd wedi cael eu datblygu trwy’r fenter Microsoft Partners in Learning.


Datblygiad Proffesiynol: Technoleg Ddigidol a Chyfrifiadureg

Fel bod y dechnoleg yn cael ei defnyddio’n effeithiol i gael gwell deilliannau dysgu, mae’n rhaid inni, wrth fuddsoddi yn Hwb, gefnogi hynny trwy gynnig datblygiad proffesiynol i athrawon a staff eraill yn y byd addysg. Byddaf felly yn sefydlu tîm o Arweinwyr Digidol o blith yr ymarferwyr gorau sy’n defnyddio technoleg ddigidol yn yr ystafell ddosbarth. Bydd yr Arweinwyr Digidol yn cefnogi’r arferion gorau yn yr ystafell ddosbarth, a hefyd yn hybu gweithio’n ddigidol trwy gyfryngau cymdeithasol.

Caiff yr Arweinwyr Digidol eu recriwtio trwy gystadleuaeth gyfyngedig, ac mae disgwyl iddynt ddechrau ar eu gwaith yn Rhagfyr 2012.

Er mwyn codi proffil technoleg ddigidol mewn addysg, a thynnu sylw at lwyddiant Cymru yn y maes hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn noddi Digwyddiad Digidol Cenedlaethol. Bydd cysylltiad agos rhwng y digwyddiad hwn a mentrau megis CDP Ar-lein a gweithgareddau annibynnol megis #addcym.

Fy mwriad o fis Medi 2013 ymlaen yw sefydlu rhaglen ledled Cymru i gynnig datblygiad proffesiynol i athrawon a staff eraill mewn ysgolion er mwyn cefnogi’r gwaith o ddysgu cyfrifiadureg a thechnoleg gwybodaeth. Byddaf yn ceisio barn y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol ynglŷn â ffyrdd i ddatblygu’r rhaglen hon. Fodd bynnag, rwy’n awyddus i sicrhau ein bod yn manteisio ar y momentwm a’r brwdfrydedd sy’n gysylltiedig ag ymddangosiad nwyddau megis y Raspberry Pi a’r Dot Net Gadgeteer er mwyn meithrin diddordeb o’r newydd mewn cyfrifiadureg ymhlith plant a phobl ifanc, a’u hannog i ystyried astudio a gweithio yn y dyfodol mewn maes sydd mor bwysig i economi Cymru.

Diwylliant Dinasyddiaeth Ddigidol

Mae’r we yn adnodd dysgu gwych ar gyfer plant a phobl ifanc. Yn ogystal â bod yn ffordd o gael amrywiaeth eang o wybodaeth ac offer addysgol, mae’n gyfle i ddysgwyr o wahanol rannau o’r byd rannu eu syniadau, eu profiadau a’u creadigrwydd. Mae angen inni helpu dysgwyr i ddatblygu’r sgiliau, yr hyder a’r aeddfedrwydd i lywio’u ffordd trwy’r byd newydd yma ac i fanteisio ar y cyfleoedd sy’n dod gyda hynny. Yn anad dim, rydym eisiau gofalu bod ein plant yn ddiogel ar y we.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu plant a phobl ifanc yng Nghymru. Rwy’n gwbl gefnogol i’r mesurau i atal plant rhag cael gafael ar gynnwys niweidiol ac anghyfreithlon ar y we, ac rwy’n cydnabod gwaith gwerthfawr sefydliadau fel Canolfan Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP) sy’n ceisio amddiffyn plant rhag pobl sy’n ceisio cysylltiad amhriodol gyda nhw ar y we. Ar blatfform Hwb bydd botwm i roi gwybod i’r Ganolfan honno – rhyw fath o ‘fotwm panig’. Bydd Hwb hefyd yn cynnwys canllawiau ynglŷn â bod yn ddiogel a chyfrifol wrth ddefnyddio’r we, gan gynnwys gwefannau rhwydweithio cymdeithasol.

Fodd bynnag, bydd y rhaglen dysgu digidol newydd ar gyfer Cymru yn dilyn dull newydd o drin technolegau rhwydweithio cymdeithasol mewn addysg. Trwy’r rhaglen hon, a thrwy Hwb, byddwn yn annog ysgolion i wneud defnydd llawn o dechnolegau cymdeithasol er mwyn ennyn diddordeb dysgwyr a gwella’r deilliannau dysgu.

Yn y blynyddoedd a fu, gofynnwyd i awdurdodau lleol rwystro mynediad i wefannau rhwydweithio cymdeithasol mewn ysgolion, llyfrgelloedd a chlybiau ieuenctid, a hynny oherwydd bod pryderon dealladwy ynghylch pobl amhriodol ar-lein, seiberfwlio a’r perygl y gallai darfu ar weithgareddau’r ystafell ddosbarth. Ond gall y polisi hwn gael effeithiau gwbl groes. Mae’n amddifadu ysgolion o’r gallu i ddefnyddio offer ac adnoddau y gellid eu defnyddio’n greadigol ac yn adeiladol ym myd addysg, a hynny o fewn yr ystafell ddosbarth a’r tu allan iddi. Yn fwy pwysig, mae’n golygu bod plant yn fwy tebygol o ddefnyddio’r gwefannau hyn y tu allan i’r ysgol, hynny yw gartref neu ar declynnau symudol, sef mewn amgylchiadau lle nad oes neb efallai yn eu goruchwylio a lle mae llai o ganllawiau a chefnogaeth ynglŷn â bod yn ddiogel ar y we.

Yn 2008, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i wneud y defnydd diogel a chyfrifol o’r we yn rhan o gwricwlwm ysgolion cynradd ac uwchradd. Sail hynny oedd ein bod ni, yn y lle cyntaf, yn dysgu plant i ddefnyddio’r we yn ofalus dan oruchwyliaeth, ac yna’n eu cynorthwyo i ddatblygu’r sgiliau a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen er mwyn iddynt allu rheoli eu risg eu hunain wrth ddefnyddio’r we ar eu pen eu hunain. Bydd caniatáu defnyddio gwefannau rhwydweithio cymdeithasol mewn ysgolion yn gyson â hyn, ac yn rhoi cyfle i ddisgyblion ddysgu sut i ymddwyn yn ddiogel, cyfrifol ac ystyriol ar y we yng nghyd-destun gweithgareddau addysgol lle ceir cymorth. Bydd hefyd yn ffordd i ysgolion gynnwys rhieni yn y gweithgareddau.

Dros y misoedd nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio gydag awdurdodau lleol i ganfod y ffordd orau o weithredu’r dull newydd hwn ac i sicrhau bod pob athro, athrawes a disgybl yn gallu cael gafael ar yr amrywiaeth lawn o offer ac adnoddau a ddarperir ar eu cyfer trwy Hwb.