Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Ionawr 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Rhagfyr 2011, cytunais i roi arian i’r awdurdodau lleol a oedd wedi cyflwyno ceisiadau llwyddiannus i gael arian o dan Grant Adnewyddu Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr 2011-12.

Ym mis Gorffennaf 2011, lansiwyd blwyddyn pump o’r Rhaglen Grant Adnewyddu Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr a gwahoddwyd awdurdodau lleol i gyflwyno ceisiadau am ddyraniad o’r grant cyfalaf hwn sy’n werth £2m.

Yn y gorffennol, roddwyd arian ar gyfer 75% o gostau prosiect, gyda’r awdurdod lleol yn cyfrannu’r 25% arall. Ym 2011-12, cynyddais y grant fel ei fod yn talu 100% o gostau’r prosiect.

Daeth 6 chais i law oddi wrth 6 awdurdod lleol, sef cyfanswm o £4,343,570, ac ar ôl i swyddogion eu hasesu, penderfynwyd bod tri chais yn gymwys i gael arian.

Nid oedd yn bosibl i’r swyddogion gymeradwyo’r tri chais arall gan nad oeddent yn bodloni meini prawf y grant. Nid oedd rhai o’r ceisiadau wedi sicrhau’r caniatâd perthnasol, gan gynnwys caniatâd cynllunio, sef rhywbeth y mae’n ofynnol i bob ymgeisydd ei wneud.

Bydd swyddogion yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i alluogi ymgeiswyr i gyflwyno ceisiadau effeithiol a chadarn o dan y rhaglen hon.

Cymeradwywyd arian ar gyfer adnewyddu tri safle Sipsiwn a Theithwyr o eiddo awdurdodau lleol, un yn Sir Gaerfyrddin, un ym Merthyr Tudful, ac un yn Abertawe. Cyfanswm yr elfen hon y cytunwyd arni oedd £1,244,210.

Hefyd cytunais y dylid rhoi £171,600 ychwanegol i Gyngor Sir Powys ar gyfer dod i ben â phroblem sydd wedi codi wrth wneud gwaith adnewyddu, sef gwaith a chostau na chawsant eu rhagweld gan eu bod yn ychwanegol i’r gwaith cychwynnol y cynlluniwyd ar ei gyfer.

Cyfanswm yr arian ar gyfer prosiectau newydd yn 2011-12 oedd £1.4m. Gyda’r taliadau gwerth £400,000 sydd heb eu gwneud hyd yn hyn ond a fydd yn cael eu talu i’r prosiectau adnewyddu hynny o 2010-11 sy’n dal i fynd rhagddynt, amcangyfrifir mai £1.8m fydd cyfanswm y gwariant o dan Grant Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn y flwyddyn ariannol hon.

Bydd y grant yn sicrhau ei bod yn bosibl gwella cyfleusterau sylfaenol byw nes iddynt gyrraedd safonau derbyniol. Bydd y gwaith yn cynnwys gwella diogelwch a gosod goleuadau stryd, creu blociau amwynderau a mannau byw, adnewyddu cyfleusterau a gwella glanweithdra a’r system ddraenio, a hefyd creu mannau chwarae.

Bydd hyn yn sicrhau mwy o gydraddoldeb rhwng preswylwyr safleoedd Sipsiwn a Theithwyr a phobl sefydlog sy’n byw mewn tai o eiddo’r awdurdod lleol. Bydd y gwelliannau hyn yn gwella iechyd a diogelwch ar safleoedd, a hefyd yn gwella glanweithdra a safonau byw yn gyffredinol ar gyfer poblogaeth lle mae lefel uchel o ddamweiniau a chyfraddau marwolaethau babanod uwch, yn ogystal â bod y disgwyliad oes yn is.

Rhaid cwblhau’r gwaith a nodir yn y cynigion erbyn diwedd Mawrth 2012.