Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith
Mae'n bleser cael cyhoeddi heddiw pa geisiadau sydd wedi llwyddo i gael cyllid o'r Gronfa Datblygu Porthladdoedd a lansiwyd gennyf yn gynharach eleni. Mae'r Gronfa honno'n werth cyfanswm o £2 filiwn.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y cyfraniad sylweddol y mae porthladdoedd morol yng Nghymru − o bob math a maint − yn ei wneud i helpu i greu Cymru lewyrchus, ddiogel, unedig a chysylltiedig.
Mae’r rôl allweddol y maent yn ei chwarae o ran gwella cyfoeth economaidd, creu swyddi, a sicrhau bod gan Gymru gysylltiadau rhyngwladol, yn rhan hanfodol o'r gwaith o wireddu'r amcanion yn ein Rhaglen Lywodraethu 'Symud Cymru Ymlaen'.
Dyna pam y lansiwyd y Gronfa Datblygu Porthladdoedd ym mis Ebrill eleni er mwyn helpu porthladdoedd Cymru i ddatblygu eu rôl ac i wireddu eu potensial.
Rwyf yn hynod falch bod y ceisiadau a gyflwynwyd gan amrywiaeth eang o borthladdoedd o bob cwr o Gymru wedi’u cymeradwyo. Dyma'r porthladdoedd a fu'n llwyddiannus:
• Porthladd MostynAwdurdod Porthladd Castell-nedd
• Awdurdod Porthladd Castell-nedd
• Mae cais ar y cyd o borthladdoedd Awdurdod Lleol yng Ngheredigion
• Mae cais ar y cyd o borthladdoedd yr Awdurdod Lleol ar Ynys Môn
• Associated British Ports yn Sir Benfro - Abertawe
• Harbwr Conwy
• Harbwr Tenby
Roedd y ceisiadau a wnaed gan Grŵp Porthladdoedd Cymru yn llwyddiannus hefyd. Gwnaed cais am gyllid ar gyfer prosiectau cynllunio a marchnata yn y dyfodol a fydd o fudd i'r sector cyfan yng Nghymru.
Mae swm o £827,000 wedi'i ddyrannu o'r gyllideb o £2 filiwn, sy'n golygu bod swm o £1.173 miliwn ar gael o hyd. Mae'r ffaith bod y Rheoliadau Eithriad Bloc Cyffredinol ar Gymorth Gwladwriaethol wedi cael eu hestyn y mis hwn yn gyfle da i wella ac i gefnogi porthladdoedd mewn ffordd nad oedd yn bosibl ym mis Ebrill pan gafodd y grant ei lansio.
Gan fod y cyd-destun wedi newid, rwyf wedi penderfynu cynnal y gystadleuaeth eto er mwyn inni fedru ystyried prosiectau a allai gael effaith gadarnhaol ond nad oeddent yn gymwys o dan y rheolau Cymorth Gwladwriaethol ar y pryd.
Byddaf yn mynd ati eto yn ddiweddarach eleni i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau.