Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 7 Mawrth, cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig yn diweddaru’r Aelodau ynghylch dyrannu cyllid i ysgwyddo costau ychwanegol pensiynau sector cyhoeddus Cymru yn 2019-20. Yn fy natganiad, nodaf bod Llywodraeth Cymru, ynghyd â Llywodraeth yr Alban, wedi gofyn dro ar ôl tro am sicrwydd gan Lywodraeth y DU y byddai'r costau a gyhoeddwyd ganddynt sy'n gysylltiedig â'r newidiadau i gynlluniau pensiwn gwasanaethau gyhoeddus o fis Ebrill eleni, yn cael eu hariannu'n llawn er mwyn sicrhau na fyddai cyllid hanfodol yn cael ei dynnu oddi wrth wasanaethau rheng flaen. Mae Datganiad Polisi Cyllid y DU yn nodi'n glir iawn pan fydd penderfyniadau a wneir gan unrhyw un o'r gweinyddiaethau datganoledig neu gyrff o dan eu hawdurdodaeth yn arwain at oblygiadau ariannol i adrannau neu asiantaethau Llywodraeth y DU, neu, fel arall, pan fydd penderfyniadau adrannau neu asiantaethau Llywodraeth y DU yn arwain at gostau ychwanegol i unrhyw un o'r gweinyddiaethau datganoledig, lle nad oes trefniadau eraill yn bodoli yn awtomatig i addasu ar gyfer costau ychwanegol o'r fath, bydd y corff a wnaeth y penderfyniad a arweiniodd ar y gost ychwanegol yn ysgwyddo’r gost. Ar y sail hwn, roeddwn yn fodlon dyrannu'r cyllid ychwanegol i sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru.

Ers fy natganiad, mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau mai £219m yw'r dyraniad terfynol i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r costau hyn yn 2019-20. Cyfanswm cost y newidiadau hyn i gynlluniau pensiwn gwasanaethau cyhoeddus datganoledig a heb eu datganoli yng Nghymru yw £255m. Mae hynny yn fwlch o £36m mewn cyllid.

Rwyf wedi ysgrifennu ar y cyd â'r gweinyddiaethau datganoledig eraill at Brif Ysgrifennydd Trysorlys y DU yn mynegi fy mhryderon dwysaf nad yw'r cyllid arfaethedig yn diwallu'n llawn y costau sy'n gysylltiedig â'r newidiadau y mae Llywodraeth y DU wedi'u gosod. Mae hwn yn annerbyniol ac yn tanseilio Datganiad Polisi Cyllid a'r egwyddorion ar gyfer dyrannu cyllid o fewn y DU.

Pwysleisiwyd hefyd gennym pa mor bwysig yw bod yn dryloyw mewn perthynas â phenderfyniadau cyllid Llywodraeth y DU sydd â'r goblygiadau ar gyfer cyfrifoldebau'r gweinyddiaethau datganoledig. Mae'r diffyg tryloywder ac ymgysylltu mewn perthynas â’r newidiadau, sy’n golygu goblygiadau sylweddol o ran gwariant cyhoeddus, yn tanseilio ac yn difrïo fframwaith gwariant cyhoeddus sefydledig y DU.

Er gwaetha'r ffaith i ni bwyso ar Lywodraeth y DU am sicrwydd cynnar ynghylch beth y mae'r newidiadau hyn yn ei olygu i sefydliadau'r sector cyhoeddus, i'w galluogi i allu llunio eu cyllidebau ar gyfer 2019-20 yn hyderus, dim ond ychydig o wythnosau yn unig cyn dechrau'r flwyddyn ariannol hon y cafwyd gwybod am y cyllid ychwanegol i Gymru. Ac hyd yn oed wedyn, ni chafodd y trefniadau cyllido terfynol eu cadarnhau tan yn ddiweddar.

Yn y cyfamser, tra bod cyllideb Llywodraeth Cymru 5% yn is mewn termau real yn 2019-20 ar ôl degawd o fesurau cyni, sy’n gyfystyr â £800m yn llai i wario ar wasanaethau cyhoeddus, nid ydym yn barod i beryglu gwasanaethau rheng flaen yn sgil costau pensiwn uwch yng Nghymru. Rydym felly wedi darparu cyllid ychwanegol yn 2019-20 i dalu’r costau a fyddai fel arall yn cael ei ysgwyddo gan gyrff y sector cyhoeddus; fodd bynnag, drwy lenwi'r bwlch mewn cyllid a adawyd gan Lywodraeth y DU, mae'n anochel bod gennym lai i'w fuddsoddi yn ein blaenoriaethau ein hunain yn ystod y cyfnod hwn o gyni ac ansicrwydd fel na welwyd o'r blaen. Darparwyd manylion pellach am hyn yn y Gyllideb Atodol Gyntaf 2019-20 a gyhoeddwyd ar 18 Mehefin.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd cyllid ar gyfer y dyfodol yn cael ei ystyried fel rhan o'r Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant, ac rydym wedi pwysleisio bod angen cael eglurder ar y cynlluniau hyn.

Rydym wedi gofyn am gyfarfod brys gyda'r Prif Ysgrifennydd i'n galluogi ni i drafod golygiadau llawn dyraniadau cyllid pensiynau'r sector cyhoeddus. Os na byddwn yn gallu datrys y mater hwn cyn hir, byddwn yn dilyn trywydd mwy ffurfiol i geisio datrys yr anghydfod drwy gamau ffurfiol Cyd-bwyllgor y Gweinidogion.

Mae hyn yn unol â’r gweithdrefnau a amlinellir yn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhynglywodraethol presennol rhwng Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig, er gwaethaf ein pryderon am ddiffygion y trefniadau hynny y bydd angen mynd i'r afael â nhw fel rhan o'r Adolygiad Cysylltiadau Rhynglywodraethol a gwaith i gryfhau systemau cyllid llywodraethol.