Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynlluniau llynedd i gyflwyno newidiadau pellach i gynlluniau pensiwn sector cyhoeddus o fis Ebrill 2019 ymlaen, ar ben newidiadau a gyhoeddwyd yn flaenorol adeg Cyllideb 2016. 

Mae'r newidiadau hyn yn ymwneud yn bennaf â'r gyfradd ddisgownt SCAPE, ac fe fyddant yn arwain at gyfraniadau pensiwn uwch gan gyflogwyr o'r mis nesaf ymlaen. Maent yn rhoi mwy o bwysau ariannol ar ein gwasanaethau cyhoeddus sydd eisoes dan bwysau sylweddol o ganlyniad i bolisi cyni parhaus Llywodraeth y DU. 

Cyn i Lywodraeth y DU gyhoeddi Cyllideb yr Hydref 2018, ysgrifennodd Llywodraeth Cymru atynt er mwyn tynnu sylw at ein pryderon y byddai'r newidiadau arfaethedig hyn i'r gyfradd ddisgownt SCAPE, ynghyd ag effaith ffactorau ehangach yn ymwneud ag ailbrisio pensiynau, yn gosod pwysau ychwanegol ac anghynaliadwy ar y sector cyhoeddus.

Roeddem yn gofyn am gadarnhad ar fyrder y byddai Llywodraeth y DU yn cwrdd â'r costau cysylltiedig â'r newidiadau hyn i gynlluniau datganoledig a heb eu datganoli, er mwyn sicrhau na fyddai cyllid hanfodol yn cael ei ddargyfeirio oddi wrth wasanaethau cyhoeddus rheng flaen. 

Neilltuodd Llywodraeth y DU £4.7bn yng Nghyllideb yr Hydref er mwyn helpu sefydliadau sector cyhoeddus i dalu'r costau hyn yn 2019-20, ond ni roddwyd unrhyw fanylion ynghylch sut y byddai'r cyllid hwn yn cael ei ddyrannu. 

Bu Llywodraeth Cymru, ynghyd â Llywodraeth yr Alban ac arweinwyr awdurdodau lleol, yn pwyso ar Lywodraeth y DU am sicrwydd buan am y goblygiadau i sefydliadau sector cyhoeddus, er mwyn iddynt fedru gosod eu cyllidebau ar gyfer 2019-20 yn hyderus.

Er hynny, dim ond yn yr ychydig wythnosau diwethaf y darparodd Llywodraeth y DU ragor o fanylion am gyllid canlyniadol Barnett i Gymru. Gofynnodd Gweinidog Cyllid yr Alban a minnau am ragor o eglurder a sicrwydd am y ffigurau yn dilyn cyfarfod pedairochrog y gweinidogion cyllid gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yng Nghaerdydd y mis diwethaf.

Gallaf gadarnhau heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ychwanegol i sefydliadau sector cyhoeddus yn 2019-20 er mwyn eu galluogi i dalu’r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r newidiadau pensiwn hyn. 

Byddaf yn ysgrifennu at fy nghyd-weinidogion cyn hir er mwyn cadarnhau'r cyllid ychwanegol sydd ar gael ar gyfer pob cynllun pensiwn sector cyhoeddus. Bydd cyllid y blynyddoedd nesaf yn cael ei drafod fel rhan o'n paratoadau ar gyfer yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant eleni.