Neidio i'r prif gynnwy

Ieuan Wyn Jones, Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mawrth 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Heddiw, am 3:00pm, byddaf yn cyhoeddi fy mhenderfyniad ar ddyrannu cronfeydd i roi cymorth i Gonsortia Trafnidiaeth Rhanbarthol yn 2011–12.

Ar ôl i'r pedwar Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol gael eu cymeradwyo ym mis Rhagfyr 2009, a’r dyraniadau cyllid gael eu cymeradwyo ym mlwyddyn ariannol 2010-11, mae'r Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol wedi cyflwyno cylch arall o gynigion i wireddu'r dyheadau a nodir yn eu cynlluniau ar gyfer blwyddyn ariannol 2011-12, gan gynnwys cynigion i wella diogelwch ffyrdd.

Rwy'n falch o gyhoeddi y caiff Grant y Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol o £27.01 miliwn ei ddosrannu fel a ganlyn:

  • Sewta             £11.456 miliwn
  • SWWITCH     £6.128 miliwn
  • Taith                £6.067 miliwn
  • TraCC                        £3.359 miliwn

Defnyddir yr arian i gynnal cynlluniau i gefnogi'r Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol a gwella diogelwch ffyrdd Cymru