Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Awst 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 1 Mai 2018, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid y byddai £60 miliwn yn cael ei neilltuo i gynnal cynlluniau teithio llesol fel rhan o adolygiad canol cyfnod Cynllun Buddsoddi mewn Seilwaith Cymru 2018.

Bydd yr arian hwn ar gael dros y tair blynedd nesaf i greu llwybrau teithio llesol newydd ledled Cymru, gan gysylltu cartrefi ag ysgolion, swyddi a’r gymuned leol er mwyn annog mwy o bobl i gerdded neu feicio.

Heddiw, rwy’n dyrannu £10.36 miliwn i awdurdodau lleol ar draws Cymru ar gyfer cynlluniau i hyrwyddo teithio llesol. Gwahoddwyd yr holl awdurdodau lleol i gyflwyno un cynllun strategol ac un cynllun lleol neu gyfres o gynlluniau lleol. Daeth 35 o geisiadau i law, gan gynnwys 16 o geisiadau i gynnal cynlluniau strategol, ac 19 o geisiadau i gynnal cynlluniau lleol.

Bydd Cronfa Teithio Llesol yn ariannu 11 o gynlluniau strategol ac 13 o gynlluniau lleol ar draws 18 o awdurdodau lleol, i’w dylunio neu’u rhoi ar waith yn y flwyddyn ariannol hon.

Caiff rhestr lawn y cynlluniau llwyddiannus, yn ôl awdurdod lleol, ei chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.