Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ionawr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn fy Natganiad Ysgrifenedig dyddiedig 5 Rhagfyr, amlinellais y goblygiadau bras i Gymru yn dilyn Datganiad yr Hydref gan Ganghellor y Trysorlys. Mae’r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn disgrifio’r dyraniadau i gyllidebau Gweinidogion Cymru yn sgil y cynnydd bach i gyllideb Llywodraeth Cymru a ddaeth drwy Ddatganiad yr Hydref.

Y dyraniad cyffredinol yn sgil Datganiad yr Hydref yw £76.502m yn 2014-15 a £115.147m yn 2015-16. Mae hyn yn cynnwys cyllid refeniw a chyfalaf, ac mae mwyafrif y cyllid cyfalaf ar gyfer ‘trafodion ariannol’ ad-daladwy. Mae’r cynnydd bach hwn, a ddaw ar ôl tair blynedd a hanner o doriadau i’r gyllideb, yn golygu bod angen i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau anodd o hyd ynghylch cyflawni’n blaenoriaethau ar gyfer twf a swyddi, trechu tlodi, amddiffyn pobl agored i niwed a sicrhau gwasanaethau o ansawdd uchel i ddinasyddion Cymru.  

O dan y ffigurau pennawd, mae’n bwysig deall bod cyllideb pob un o Adrannau Whitehall wedi cael ei brigdorri er mwyn ariannu rhai o gyhoeddiadau polisi’r Canghellor.  

Mae hyn yn golygu na allwn wneud pob un o’r cyhoeddiadau polisi y mae’r Canghellor yn Lloegr wedi’u gwneud heb frigdorri cyllidebau yn yr un modd.

Gwnaeth y Canghellor nifer o gyhoeddiadau ynghylch Ardrethi Annomestig (NDR). Mae Gweinidogion Cymru wedi lobïo Llywodraeth y DU ers cryn amser ar gyfer rhai o’r consesiynau hyn, sy’n cyd-fynd â’n ffocws ar dwf a swyddi. Rwyf felly wedi dyrannu’r swm canlyniadol llawn o £54.626m yn 2014-15 a £37.778m yn 2015-16 ar gyfer mesurau NDR yng Nghymru. Bydd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn gwneud cyhoeddiad pellach ynglŷn â’r dyraniad hwn.

Yn unol ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i barhau i godi safonau addysg, mae’r Prif Grŵp Gwariant Addysg a Sgiliau wedi cael dyraniad refeniw o £12.1m yn 2014-15. Bydd y Gweinidog yn gwneud cyhoeddiad ynghylch sut y caiff yr adnodd hwn ei ddefnyddio.

Cyfalaf ar gyfer Trafodion Ariannol yw’r rhan fwyaf o’r cyfalaf sydd wedi’i ddyrannu drwy Ddatganiad yr Hydref (sef £5.750m yn 2014-15 a £38.640m yn 2015-16).  Mae’r Gweinidogion yn datblygu cynigion i wneud y gorau posibl o’r cyllid hwn. Bydd y dyraniad cyfalaf sy’n weddill (£4.025m yn 2014-15 a £2.415m yn 2015-16) yn cael ei gadw ac yna’n cael ei ddyrannu’n unol â blaenoriaethau’r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru.