Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Heddiw, rwyf yn dyrannu gwerth £32.9 miliwn o grantiau trafnidiaeth i awdurdodau lleol ledled Cymru ar gyfer cynlluniau sy'n cefnogi fy mlaenoriaethau economaidd i ar gyfer swyddi a thwf, sy'n hybu gweithgarwch economaidd drwy gynnig gwell cyfleoedd i fanteisio ar gyflogaeth, sy'n hyrwyddo teithio llesol a chynaliadwy ac sy'n cysylltu cymunedau. Gwahoddwyd yr holl awdurdodau lleol i gyflwyno ceisiadau am gyllid a daeth dros 100 o geisiadau i law.
Bydd bydd y Gronfa Trafnidiaeth Leol, sy'n werth £28.8 miliwn, yn cynnig cymorth i 52 o gynlluniau ar draws 21 o awdurdodau lleol a bydd y Gronfa Rhwydwaith Trafnidiaeth Leol, sy'n werth £4.1, yn cefnogi 14 o gynlluniau ar draws deuddeg o awdurdodau lleol.
Mae'r grantiau hyn yn cynnwys dros £20 i wella trafnidiaeth gyhoeddus integredig. Pleser o'r mwyaf yw cyhoeddi bod y swm hwn yn cynnwys £3.6 miliwn i ddechrau adeiladu'r gyfnewidfa fysiau newydd ym Merthyr Tudful. Yn y Gogledd, rwyf yn buddsoddi £3.6 miliwn i wella trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol i Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, ac rwyf yn dyrannu dros £3 miliwn i awdurdodau lleol ar draws y Canolbarth a'r De i wella coridorau trafnidiaeth gyhoeddus a chyfnewidfeydd.
Mae'r grantiau’n fuddsoddiad sylweddol i gefnogi twf cynaliadwy yn yr economi leol, i wella diogelwch ar y ffyrdd, i wella cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus, i greu ac i wella llwybrau a fydd yn annog rhagor o bobl Cymru i gerdded a beicio.
Mae’r buddsoddiad hwn mewn cynlluniau trafnidiaeth lleol yn hwb i’r grantiau a gyhoeddwyd gan y Dirprwy Weinidog wythnos ddiwethaf, gan gynnwys y £19m o’r Gronfa Teithio Llesol a’r £10.0m ar gyfer creu Llwybrau Diogel mewn Cymunedau a chynlluniau diogelwch ar y ffyrdd. Heddiw, rydym yn cyhoeddi’r cynlluniau sy’n elwa ar y £12.7m a fydd yn creu cyfleoedd i lawer mwy o bobl allu gwneud eu teithiau pob dydd ar feic ac ar droed, a’r gyfran y bydd pob awdurdod lleol yn ei chael o’r £6.3m ar gyfer gwaith dylunio a dichonoldeb ac i dalu am fân welliannau yn eu rhwydweithiau.
Caiff rhestr lawn o'r cynlluniau llwyddiannus ei chyhoeddi, fesul awdurdod lleol, ar wefan Llywodraeth Cymru.
Y gronfa trafnidiaeth leol: grantiau a ddyfarnwyd yn 2019 i 2020