Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Dirprwy Weinidog Iechyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Tachwedd 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Cymru’n gwneud cynnydd da ym maes iechyd llygaid. Er bod mwy i’w wneud o hyd, mae pethau’n gwella’n gyffredinol. Mae Law yn Llaw at Iechyd: Cynllun Cyflawni ar gyfer Gofal Iechyd Llygaid yn gosod agenda glir at y dyfodol o ran yr hyn rydym yn ei wneud mewn partneriaeth ledled Cymru.

Mae nifer y bobl y nodir bod ganddynt nam ar eu golwg wedi lleihau yng Nghymru dros y 5 mlynedd diwethaf (o fis Ebrill 2008 i fis Mawrth 2013).
 

  • Ebrill 2008 – Mawrth 2009    1,737
  • Ebrill 2009 – Mawrth 2010    1,544
  • Ebrill 2010 – Mawrth 2011    1,425
  • Ebrill 2011 – Mawrth 2012    1,463
  • Ebrill 2012 – Mawrth 2013    1,362


Mae’r gostyngiad hwn mewn nam golwg yng Nghymru yn rhannol o ganlyniad i driniaethau fel y driniaeth ar gyfer dirywiad macwlaidd gwlyb sy’n gysylltiedig â henaint. Nid oedd triniaeth o’r fath ar gael yn 2007. Y llynedd (2013/2014), darparodd Llywodraeth Cymru gyllid o fwy nag £16m ar gyfer bron 15,000 o driniaethau i atal dallineb (gwybodaeth reoli Llywodraeth Cymru).

Mae’r canlyniadau gorau’n digwydd drwy gydweithio gan wasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd o amgylch anghenion dinasyddion, ar sail egwyddorion gofal iechyd darbodus. Rydym yn parhau i ddatblygu optometreg fel bod gwasanaethau a oedd unwaith yn wasanaethau ysbyty arbenigol yn unig yn cael eu darparu mewn cymunedau fel mater o drefn. Bydd hyn yn gryfder yn y GIG yng Nghymru, fel y nodir yn ein cynllun newydd ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol.

I gydnabod y cynnydd sydd wedi digwydd, symud y cyllid ar gyfer y driniaeth gan ddefnyddio’r cyffuriau Ranibizumab ac Aflibercept o Lywodraeth Cymru i’r byrddau iechyd. Isod, rwy’n nodi’n fanylach hanes a chefndir y driniaeth ar gyfer dirywiad macwlaidd gwlyb sy’n gysylltiedig â henaint.

Cefndir

Mae Llywodraeth Cymru wedi talu’n ganolog am y driniaeth ar gyfer dirywiad macwlaidd gwlyb sy’n gysylltiedig â henaint ers 2008.

Y bwriad ers y cychwyn oedd y byddai’r cyllid yn cael ei drosglwyddo i GIG Cymru wedi i hyn ddod yn driniaeth arferol. Mae tabl 1 yn amlinellu costau presennol y byrddau iechyd.

 
Mae dirywiad macwlaidd gwlyb sy’n gysylltiedig â henaint yn achosi dallineb yn gyflym. Mae angen i gleifion gael eu gweld o fewn pythefnos i’r atgyfeiriad a chael eu hadolygu bob pedair neu wyth wythnos gan ddibynnu ar y driniaeth a ddefnyddir. Ni fydd y newid yn y trefniant cyllid yn golygu bod gwasanaethau’n disgyn islaw safonau cenedlaethol.

Bydd y gwaith o fonitro gweithgarwch a sicrwydd bod cleifion yn cael eu gweld yn brydlon yn cael ei gryfhau. Bydd lefelau gweithgarwch, cyfran y cleifion sy’n cychwyn triniaeth o fewn pythefnos ar ôl atgyfeiriad a chyfran y cleifion sy’n cael eu trin o fewn y cyfnod dilynol gan y clinigydd sydd wedi’i ddyrannu iddynt yn cael eu monitro’n fisol, a bydd adrodd arnynt yn y cyfarfodydd ansawdd a diogelwch a thrwy gyfarfodydd y Cyd-dîm Gweithredol. Bydd byrddau iechyd yn darparu gwybodaeth yn fisol ac yn adrodd i Grŵp Llywio Gofal Llygaid Cymru (ac i mi i ddechrau) bob chwarter o fis Tachwedd 2014.

Byddwn yn parhau i weithio gyda’r holl bartneriaid i ymchwilio i’r posibilrwydd o symud y driniaeth dirywiad macwlaidd gwlyb sy’n gysylltiedig â henaint  er mwyn ei darparu mewn lleoliadau gofal sylfaenol yn y gymuned.

Mae cyfanswm nifer y cleifion sydd wedi cael pigiad dros y pum mlynedd diwethaf ledled Cymru i’w weld yn y tabl isod.