Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae gan Gymru enw da ar draws y byd am ei thraethau a'i ansawdd dŵr sydd ymhlith y gorau yn Ewrop. Yn 2023, roedd 98% o ddyfroedd ymdrochi dynodedig Cymru yn bodloni safonau ansawdd dyfroedd ymdrochi llym, gydag 80 o’r 109 o ddyfroedd ymdrochi yn sicrhau’r dosbarthiad uchaf, ‘rhagorol’. Mae'r safonau uchel hyn yn dyst i'r ymdrechion cydweithredol effeithiol rhwng Llywodraeth Cymru, rheoleiddwyr a chymunedau i ddiogelu ein hamgylchedd naturiol.

Yn gynharach eleni, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus i ystyried dynodi dau safle arall yn ddyfroedd ymdrochi, gan gynnwys darn o afon Gwy a elwir yn y Warin. Mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ystyried yn ofalus yr holl safbwyntiau a ddaeth i'r amlwg yn yr ymgynghoriad. Roedd y cais i ddynodi’r Warin yn ddŵr ymdrochi wedi wynebu gwrthwynebiad sylweddol gan randdeiliaid, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Ymddiriedolaeth Hay Warren a Chyngor Tref y Gelli oherwydd pryderon amgylcheddol am yr effaith bosibl ar yr ardal yn sgil cynnydd yn nifer yr ymwelwyr y mae dynodiad o’r fath yn debygol o'u denu.

Mae'r Warin wedi'i lleoli mewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), ardal a ddewiswyd yn unol â meini prawf gwyddonol ac a ddiogelir o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 oherwydd ei bod yn cynnwys bywyd gwyllt neu nodweddion daearegol o bwys cenedlaethol ar gyfer cadwraeth natur. Y safleoedd hyn yw'r rhai pwysicaf ar gyfer bioamrywiaeth Cymru. Cânt eu gwarchod i ddiogelu'r ystod, yr ansawdd a'r amrywiaeth o gynefinoedd, rhywogaethau a nodweddion daearegol, gan gynnwys effeithiau ar bysgod sy’n defnyddio’r brif ran o afon Gwy i silio rhwng mis Hydref a mis Mehefin. Mae gan bob SoDdGA restr o weithgareddau sy'n debygol o ddifrodi'r safle. Mae gweithgareddau hamdden fel ymdrochi yn un o'r gweithgareddau a restrir ar gyfer y Warin. Cyn caniatáu’r gweithgaredd, rhaid i'r tirfeddiannwr, cyn cyflawni’r gweithgaredd hwnnw, gael cydsyniad CNC i sicrhau bod asesiad effeithiol o effeithiau ymdrochi ar y cynefinoedd a'r rhywogaethau gwarchodedig wedi’i gynnal. Nid oes unrhyw system gydsynio ar waith ar gyfer y Warin ar hyn o bryd. 

Ar ôl rhoi sylw i ystyriaethau amgylcheddol penodol i’r safle, penderfynais beidio â dynodi'r Warin yn ddŵr ymdrochi nes y gallai CNC asesu'n drylwyr yr effaith amgylcheddol ar y cynefinoedd a'r rhywogaethau gwarchodedig. Ni wnaeth hyn atal Llywodraeth Cymru rhag ystyried cais newydd yn y dyfodol unwaith y byddai’r materion hyn yn cael sylw. Cafodd y penderfyniad ei gyfleu yn y Crynodeb o Ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus a gyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru ar 23 Ebrill 2024.

Mae'r ymgeisydd a gyflwynodd y cais i ddynodi'r safle yn ddŵr ymdrochi, Cyfeillion Afon Gwy, wedi gwrthwynebu fy mhenderfyniad. Mae Rheoliadau Dŵr Ymdrochi 2013 yn sefydlu fframwaith deddfwriaethol cul ar gyfer dynodi dŵr ymdrochi. Er gwaethaf pryderon a gwrthwynebiadau sylweddol gan randdeiliaid amrywiol, mae'r cais i ddynodi'r safle yn bodloni'r unig faen prawf i'w ddynodi o dan y Rheoliadau, sef bod tystiolaeth o nifer yr ymdrochwyr. O ganlyniad, rwyf wedi penderfynu dynodi'r Warin yn ddŵr ymdrochi. 

Nid yw'r penderfyniad hwn yn dileu'r gofyniad i’r tirfeddiannwr gael cydsyniad CNC i ganiatáu ymdrochi yn y Warin. Wrth ystyried unrhyw gais am gydsyniad, byddai angen i CNC asesu'r effaith bosibl i sicrhau nad yw'n niweidio'r cynefinoedd a'r rhywogaethau pwysig y mae'r ardal wedi'u dynodi i'w gwarchod. Mae'r Datganiad Rheoli Safle yn nodi "Gallai mwy o bwysau hamdden effeithio ar blanhigion ac anifeiliaid yr afon trwy ddifrod corfforol i gynefinoedd a mwy o aflonyddwch. Mae defnyddiau hamdden yn cynnwys canŵio, rafftio, pysgota, nofio a cherdded. Dylai'r cyrff statudol a gwirfoddol, perchnogion a meddianwyr gydweithredu i reoli defnydd hamdden er mwyn lleihau effaith hamdden ar fywyd gwyllt."

Felly, rwy'n annog pob aelod o'r cyhoedd sy'n dod i'r Warin i gydnabod eu rhwymedigaeth gyfreithiol a moesol i helpu i sicrhau bod cynefinoedd a nodweddion y SoDdGA yn parhau'n iach ac yn cael eu rheoli'n briodol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Fy nod wrth wneud y penderfyniad gwreiddiol oedd helpu i sicrhau bod afon sydd eisoes yn wynebu cymaint o heriau yn cael ei diogelu.  Er fy mod yn siomedig bod fy mhenderfyniad wedi cael ei herio a bod Cyfeillion Afon Gwy wedi gofyn imi ailystyried, ni fydd y canlyniad hwn yn fy rhwystro rhag cyflawni fy ymrwymiad i ddiogelu a gwella amgylchedd naturiol Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gadarn yn ei hymroddiad i ddiogelu'r amgylchedd drwy fframweithiau a rhaglenni deddfwriaethol. 

Mae colli bioamrywiaeth a dirywiad ecosystemau yn peri bygythiadau sylweddol i ddynoliaeth, gan fod ein llesiant a'n ffyniant economaidd yn dibynnu ar amgylchedd naturiol cynaliadwy.  Er mwyn gwarchod ein treftadaeth naturiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, rhaid inni gyflymu ymdrechion i atal bioamrywiaeth rhag dirywio. Mewn ymateb i fframwaith bioamrywiaeth fyd-eang Kunming-Montreal, rydym wedi ymrwymo i osod targedau uchelgeisiol i ddiogelu ac adfer bioamrywiaeth, gan gydnabod yr angen am weithredu parhaus, hirdymor i sicrhau trawsnewidiad.

Mae ein hafonydd mewn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) yn wynebu pwysau aruthrol yn sgil heriau amrywiol. Mae gwella iechyd ein hafonydd yn gyfrifoldeb a rennir ledled Cymru, ac mae'n hanfodol ein bod yn parhau i fabwysiadu dull cydweithredol sy'n cynnwys llywodraeth, rheoleiddwyr, a'r holl sectorau perthnasol. Edrychaf ymlaen at ailuno rhanddeiliaid yn y pumed Uwchgynhadledd Llygredd Afonydd sydd ar ddod yn Sioe Frenhinol Cymru, lle byddaf yn cyd-gadeirio ochr yn ochr â'r Prif Weinidog.

Wrth i nofio awyr agored a gweithgareddau hamdden yn y dŵr barhau i fynd yn fwy a mwy poblogaidd yng Nghymru, mae'n hanfodol bod ein rhaglen dŵr ymdrochi yn esblygu i adlewyrchu ymddygiadau sy'n newid. Yn anffodus, er bod y Rheoliadau yn gweithredu fel fframwaith ar gyfer rheoli dŵr ymdrochi, nid ydynt yn ystyried fframweithiau deddfwriaethol ehangach a phryderon sy'n dod i'r amlwg. Wrth inni weld newid yn agwedd y cyhoedd tuag at gadwraeth amgylcheddol a gweithgareddau dŵr hamdden, mae'n dod yn fwyfwy amlwg bod yn rhaid i'n fframwaith rheoleiddio addasu yn unol â hynny. 

Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod y rhaglen dŵr ymdrochi yng Nghymru yn cyd-fynd ag anghenion esblygol a dyheadau ein cymunedau, gan gynnal ar yr un pryd fframwaith cadarn ar gyfer diogelu trysorau naturiol Cymru.