Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n defnyddio fy mhwerau o dan Erthygl 18 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 i ddynodi un o’r Swyddogion Canlyniadau ar gyfer yr etholaethau o fewn rhanbarth etholiadol y Senedd yn Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol ar gyfer y rhanbarth etholiadol hwnnw. Mae angen gwneud hyn ar gyfer pedwar rhanbarth oherwydd ymddeoliad ac ailstrwythuro llywodraeth leol.

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi mai Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol y Senedd ar gyfer unrhyw etholiadau Senedd sydd i ddod fydd: 

Gogledd Cymru – Iwan Davies – Swyddog Canlyniadau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Canol De Cymru – Paul Orders, Swyddog Canlyniadau, Dinas a Sir Caerdydd

Dwyrain De Cymru – Christina Harrhy, Swyddog Canlyniadau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Gorllewin De Cymru – Karen Jones – Swyddog Canlyniadau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Yn Rhanbarth Etholiadol y Canolbarth a Gorllewin Cymru, bydd Eifion Evans, y Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol presennol yn parhau yn ei swydd.

Hoffwn ddiolch i’r swyddogion sy’n rhoi’r gorau i’w rolau, Colin Everett (Gogledd Cymru), Debbie Marles (Canol De Cymru), Michelle Morris (Dwyrain De Cymru) a Phil Roberts (Gorllewin De Cymru) am eu gwasanaeth.

Y Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol fydd yn gyfrifol am gydlynu’r trefniadau ar gyfer y bleidlais ranbarthol yn eu rhanbarth etholiadol perthnasol yn etholiadau’r Senedd.