Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Gorffennaf 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn ystod trafodaeth y cyfarfod llawn ar Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar yr Ymchwiliad i bolisi amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru ar 8 Mai 2013, dywedais y byddwn yn ystyried achos busnes ar ddyfodol y gwasanaethau a ddarperir gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru maes o law.

Roeddwn yn ffodus i ymweld â'r Comisiwn Brenhinol yn ddiweddar i weld drosof fy hun y gwaith a wneir ganddo ac yr wyf yn ymwybodol fod ganddo enw da a'i fod yn cael ei werthfawrogi'n fawr gan y rhanddeiliaid.

Cafodd yr achos busnes ei gomisiynu yn gynnar yn 2013 yn dilyn adroddiad gan Weithgor yn 2012. Roedd y Gweithgor wedi dod i'r casgliad bod achos dros newid ac roedd tri opsiwn yn benodol wedi bod yn destun craffu rhagarweiniol gan y Gweithgor. Roedd y rhain yn amrywio o ran maint o ailgyfansoddi'r Comisiwn fel corff modern hyd braich; cyfuno swyddogaethau'r Comisiwn Brenhinol gyda rhai Cadw o fewn Llywodraeth Cymru, ac uno swyddogaethau'r Comisiwn gyda rhai Cadw mewn corff newydd yn gweithredu o hyd braich y tu allan i'r Llywodraeth. Mae'r achos busnes wedi adeiladu ar adroddiad y Gweithgor ac wedi craffu ymhellach ar y ddau gyntaf o'r opsiynau hynny.

Wrth ystyried yr achos busnes, yr wyf wedi bod yn ymwybodol o'r pryderon a fynegwyd gan y rhanddeiliaid ynghylch dyfodol y Comisiwn Brenhinol, gan gynnwys adroddiad Ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i bolisi amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru. Rwyf hefyd wedi ystyried sylwadau gan Gomisiynwyr a staff y Comisiwn Brenhinol.

Yr wyf yn credu bod uno yn cynnig y cyfle i ddarparu gwasanaeth amgylchedd hanesyddol cenedlaethol mwy effeithiol a chydlynol sy'n gallu darparu arweinyddiaeth gydweithredol ar gyfer sector yr amgylchedd hanesyddol, gan sicrhau cynnydd ar wybodaeth, cadwraeth ac ymgysylltu â'r cyhoedd.

Yr wyf felly'n bwriadu uno'r Comisiwn Brenhinol gyda Cadw, ond yr wyf wedi gofyn am waith pellach mewn perthynas â manteision ac anfanteision cymharol eu huno y tu fewn i Lywodraeth Cymru a'r tu allan iddi.

Byddaf yn ymgynghori cyn hir ar fanteision ac anfanteision cymharol uno y tu fewn i’r Llywodraeth neu y tu allan iddi fel rhan o'r ymgynghoriad ehangach ar y ddeddfwriaeth dreftadaeth gyntaf erioed i gael ei hystyried gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Yr wyf yn falch bod Cadeirydd y Comisiwn Brenhinol yn cefnogi fy mhenderfyniad i ofyn am ragor o waith. Rwyf yn croesawu ei ymrwymiad llawn i helpu fy swyddogion i ddatblygu cyngor pellach i mi ei ystyried.

Yr wyf yn ymwybodol iawn y bydd y posibilrwydd o newid sefydliadol mawr yn gythryblus i staff y Comisiwn Brenhinol a Cadw. Byddaf yn sicrhau bod y staff yn parhau i gael cyfleoedd i gyfrannu a chymryd rhan yn y broses hon, tra hefyd yn parhau i ymgysylltu â'r undebau llafur perthnasol.

Byddaf yn gwneud penderfyniad terfynol ar sut i symud ymlaen ar ôl ystyried y gwaith pellach yr wyf wedi’i gomisiynu, ynghyd â'r ymatebion i'r broses ymgynghori.