Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae rhan fwyaf o swyddogaethau coedwigaeth yng Nghymru yn cael eu cyflawni gan Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.  Fodd bynnag mae rhai agweddau ar goedwigaeth, yn ôl eu natur, yn galw am gydlynnu rhwng y Gweinyddiaethau Datganoledig ym Mhrydain a Gogledd Iwerddon.

Mae’r rhain yn cynnwys comisiynu a darparu gwaith ymchwil ym maes coedwigaeth, diogelu coed rhag plâu a chlefydau, cytuno ar godau a safonau ar gyfer rheoli ein coedwigoedd yn gynaliadwy, creu ystadegau, stocrestr goedwigaeth a chyhoeddiadau ym maes coedwigaeth.  

Mae angen newid y trefniadau ar gyfer y swyddogaethau hyn o ganlyniad i’r penderfyniad gan Lywodraeth yr Alban i ddod â’r Comisiwn Coedwigaeth i ben fel corff cyhoeddus trawsffiniol.  

Rwyf wedi cytuno bydd fy swyddogion yn gweithio gyda’u cymheiriaid o fewn Llywodraeth yr Alban a’r Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yng Ngogledd Iwerddon i wneud trefniadau newydd a pharatoi Memorandwm Dealltwriaeth i gyflawni’r swyddogaethau pwysig hyn ar y cyd ledled Prydain.  

Dwi’n falch nodi bod y gwaith o ddatblygu dull o weithio ar y cyd wedi ei gyflawni ar draws pob Gweinyddiaeth.  Mae’n hanfodol fod pob Gweinyddiaeth bellach yn cytuno ar fanylion Memorandwm Dealltwriaeth ar gyfer y dyfodol i sicrhau y manteision sylweddol sy’n deillio o drefnu bod ein coetiroedd a’n coedwigoedd yn cael eu rheoli’n gynaliadwy a’u diogelu ar gyfer y dyfodol.