Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn 2011, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ein strategaeth arloesol, Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy, a oedd yn cydnabod na fyddai ein systemau gofal a chymorth cyfredol, heb iddynt gael eu newid yn sylweddol, yn gynaliadwy o fewn cyd-destun demograffeg gymdeithasol sy’n newid, ac roedd yn codi disgwyliadau’r cyhoedd o ran ansawdd a diogelwch, yn ystod cyfnod o gyfyngu parhaus ar adnoddau.
Fe wnaethon ni bennu tasg uchelgeisiol i ni ein hunain o wireddu’r newidiadau a ddisgrifir yn Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy, a hynny o fewn un tymor Cynulliad. Er mwyn cyflawni hyn, rydyn ni’n gwybod bod rhaid diwygio fframwaith deddfwriaethol y gwasanaethau cymdeithasol. Dechreuwyd ar y gwaith yn 2013, pan osodais y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r Bil hwnnw’n nodi sut y bydd y ddarpariaeth o ofal a chymorth yn canolbwyntio ar fwy o lais a mwy o reolaeth gan y dinesydd, a hynny o fewn system ofal lawer mwy integredig ar draws Cymru.
Felly, rwy’n falch o gyhoeddi’r cam nesaf yn ein huchelgais i ddiwygio’r gwasanaethau cymdeithasol, sef cyhoeddi ein Papur Gwyn, “Dyfodol Rheoleiddio ac Arolygu Gofal a Chymorth yng Nghymru” heddiw, sy’n nodi ein dyheadau polisi. Mae’r Papur Gwyn hefyd yn disgrifio sut y bydd trefn reoleiddio ac arolygu, sydd wedi’i hadnewyddu a’u hailfywiogi, yn sicrhau y bydd y dull newydd o ddarparu gofal a chymorth a ddisgrifir yn Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy yn bodloni ein safonau disgwyliedig ac yn cynnig sicrwydd i’r cyhoedd, fel yr amlinellir yn y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.
Gwnaed llawer er mwyn codi safonau a phroffesiynoli’r sector gofal a chymorth.
Felly, hoffwn i ddiolch i’r rheoleiddwyr (Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Chyngor Gofal Cymru) am eu gwaith caled a’u hymroddiad. Maen nhw wedi gosod sylfaen gadarn o safonau ar gyfer y gweithlu a’r gwasanaethau gofal a chymorth ac mae’r rhain wedi gwella diogelwch y cyhoedd yng Nghymru. Fodd bynnag, mae’r sefyllfa’n newid drwy’r amser ac ni allwn orffwys ar ein rhwyfau. Rydyn ni o’r farn bod y sefyllfa gyfredol o reoleiddio ac arolygu’n gwneud yn dda, ond rydyn ni hefyd yn sylweddoli bod angen mwy o hyblygrwydd arni i fodloni’r gofynion a’r heriau sy’n ddisgwyliedig yn y dyfodol – lle mae pobl yn byw’n hirach ac yn disgwyl mwy gan y gwasanaethau cyhoeddus sy’n eu cynnal er gwaethaf yr hinsawdd economaidd sydd ohoni. Wrth i’r disgwyliadau hyn dyfu, felly hefyd mae’r modelau darparu gwasanaeth yn esblygu ac yn addasu i’w bodloni. Gall hyn arwain at fodelau newydd ac arloesol ond mae’r rhain yn eu tro’n creu anghysondebau o fewn y system bresennol. Rhaid inni sicrhau bod modd rheoleiddio’r modelau gwasanaeth newydd hyn wrth iddynt ddatblygu. Felly, oni bai ein bod yn gweithredu nawr i ddarparu’r hyblygrwydd angenrheidiol, byddwn yn canfod yn fuan bod ein trefniadau rheoleiddio ar ei hôl hi ac yn gyfyngol. Yn ein barn ni, bydd y polisïau yn y Papur Gwyn hwn yn cefnogi’r rheoleiddwyr i gyflawni eu swyddogaethau a’u dyletswyddau diwygiedig i helpu i wireddu’r uchelgeisiau rydyn ni wedi’u pennu ar gyfer gwella gofal a chymorth yng Nghymru.
Byddaf yn lansio'r ymgynghoriad heddiw, a bydd yn dod i ben ar 6 Ionawr 2014. Mae copi o’r Papur Gwyn wedi’i anfon atoch gyda’r datganiad ysgrifenedig hwn a bydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.