Neidio i'r prif gynnwy

Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Rhagfyr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Mae’r mater o ferlod yn cael ei gadael gan eu perchnogion a'r diffyg cydymffurfio gyda gofynion adnabod, ynghyd â phryderon sylweddol ynghylch lles wedi bod yn broblemau ar dir comin ledled Cymru er peth amser. Yn ddiweddar, rwyf wedi gweld â’m llygaid fy hun yr amodau gwael y mae’n rhaid i rai ceffylau a’r merlod eu goddef, yn enwedig yn ystod cyfnodau hir o dywydd garw. Felly, mae gwaith wedi dechrau i benderfynu beth ddylid ei wneud i fynd i’r afael â’r problemau hyn ac i sicrhau dyfodol merlod brodorol Cymru ledled y wlad. Yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y Grŵp Hollbleidiol ar Geffylau ac oherwydd ei gwybodaeth eang am y pwnc, rwyf wedi gofyn i Angela Burns AC gynnal adolygiad annibynnol o’r sefyllfa a chyflwyno adroddiad ynghylch ei chasgliadau a’i hargymhellion i mi yn ystod haf 2014.

Bydd y gwaith pwysig hwn yn cyd-fynd â’r Bil Rheoli Ceffylau (Cymru) a’r Cynllun Gweithredu cysylltiedig a gyhoeddwyd gennyf ar 14 Hydref 2013.

Rwyf wedi cyhoeddi cylch gorchwyl adolygiad annibynnol Angela yn y llyfrgell ac ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae amcan y gwaith hwn yn syml; sicrhau dyfodol cynaliadwy i’n merlod brodorol drwy reolaeth a chymorth effeithiol. Byddaf yn darparu adroddiad pellach i’r Cynulliad cyn ar ôl Toriad yr Haf 2014 o ran sut y bydd y llywodraeth hon yn bwrw ymlaen ag argymhellion Angela.