Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Hydref 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cyflwynais ddatganiad llafar yn y Cyfarfod Llawn ar 23 Mehefin yn nodi sut y byddai Llywodraeth Cymru'n trawsnewid hyfforddiant ac addysg gychwynnol athrawon (HAGA) yng Nghymru yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad Addysgu Athrawon Yfory.  

Rwyf wedi gweld heddiw gopi o adroddiad arolygu Estyn ynghylch Canolfan Addysg Athrawon Gogledd a Chanolbarth Cymru ac mae’n destun cryn siom i mi. Mae Estyn wedi dod i'r casgliad fod perfformiad y Ganolfan ynghyd â’i rhagolygon ar gyfer gwella yn anfoddhaol. Yn ogystal, mae enghreifftiau o ddiffyg cydymffurfiaeth wedi'u nodi mewn perthynas â'r gofynion statudol ar gyfer achrediad y Ganolfan at ddibenion HAGA.

Mae tua dwy flynedd wedi mynd heibio ers i'r diffygion gael eu pennu ar draws y sector ac yn ystod y cyfnod hwnnw roedd disgwyl i’r Ganolfan ddatblygu ei darpariaeth er mwyn gallu bodloni gofynion Fframwaith Arolygu Estyn a'r gofynion statudol atodol. Heb unrhyw amheuaeth, nid yw hyn yn ddigon da.  

Mae angen gwneud mwy i gyflawni gwelliannau yn gyflymach o safbwynt ein darpariaeth HAGA ar draws Cymru gyfan er mwyn sicrhau bod y sector yn cyfrannu’n effeithiol at y gwaith o wella capasiti’r gweithlu. Wrth i ni baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd i Gymru bydd angen sicrhau y gallant gyfrannu'n effeithiol at system addysg a gaiff ei llywio gan addysgeg ac arweinyddiaeth sy'n seiliedig ar ymchwil. Rydym o dan gryn bwysau gan y sector ysgolion, y Consortia a'r cyhoedd i wella ein darpariaeth HAGA - ac mae hynny'n ddigon teg. Rwyf wedi nodi o'r dechrau'n deg fy mod yn disgwyl i'r sector dderbyn cyfrifoldeb am sicrhau newid ac mae rhai gwelliannau sylweddol wedi’u cyflawni o fewn rhai o’n canolfannau. Ni allaf aros dim mwy, fodd bynnag, am newid sylweddol yn y ddarpariaeth ac ni allaf ychwaith dderbyn bod rhai athrawon dan hyfforddiant mewn rhai ardaloedd yn cael profiadau gwael.

Mae'r Athro John Furlong yn arwain Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar gyfer adolygu ein meini prawf statudol presennol ar gyfer achredu a chyflwyno newid er mwyn sicrhau bod y system yn fwy cadarn ac yn fwy addas i'w diben. Bydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ynghylch y Meini Prawf Achredu yn ystyried meini prawf allweddol gan gynnwys ehangu rôl y consortia a'n hysgolion o safbwynt cyflenwi HAGA; y trefniadau presennol ar gyfer cymedroli a sicrhau ansawdd; a'r gofynion o ran staff y bernir eu bod yn briodol ar gyfer cynnal rhaglenni HAGA o safon uchel.

Byddaf yn cyfarfod â'r Is-Ganghellwyr ym mis Tachwedd, gan gynnwys y rhai sy'n arwain ein darparwyr HAGA presennol, a byddaf yn sicrhau bod HAGA a'r gwelliannau sy'n ofynnol ar frig fy agenda. Byddaf yn dirwyn y system bresennol o hyfforddiant ac addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru i ben erbyn 2018. Ochr yn ochr â’r broses achredu ddiwygiedig, byddwn yn datblygu ac yn dechrau gweithredu cynllun gweithredu penodol a gaiff ei gynllunio a’i gyflenwi gan bob rhan o’r system addysg. Byddaf yn pwysleisio i’r Is-Ganghellwyr y bydd gofyn i unrhyw sefydliad sy’n dymuno cynnig hyfforddiant cychwynnol i athrawon yng Nghymru yn y dyfodol fod yn barod i gydweithredu er mwyn cyflawni gwelliannau.
Fel rhan o'r broses honno byddwn yn cynnal dau ddigwyddiad ymgysylltu strategol (uwchgynadleddau) ym mis Rhagfyr a mis Ionawr. Y nod fydd ymgysylltu â'r sector a chlywed gan ddarparwyr hyfforddiant sy'n cyflenwi HAGA rhagorol mewn rhannau eraill o'r DU, gan rannu arferion gorau.

Bydd y trefniadau achredu newydd yn berthnasol i bob cwrs HAGA a fydd yn cael eu cynnal o fis Medi 2018 a bydd angen i'n Canolfannau HAGA presennol ddechrau ystyried yn awr sut y byddant yn ymateb i'r dull newydd a mwy heriol hwn.

Gwn fod modd cyflawni newid radical mewn cyfnod byr - rydym wedi derbyn newyddion positif yn ddiweddar ynghylch cynnydd Canolfan Hyfforddiant ac Addysg Athrawon De-ddwyrain Cymru ac mae angen dathlu hyn. Mae'n rhaid i ni barhau i wella, fodd bynnag. Rhaid cyflawni trefn fwy systematig ar draws Cymru er mwyn sicrhau'r effaith fwyaf bosibl ar gyfer y system addysg ehangach.

Mae'n rhaid i ni sicrhau rhagor o gydweithio effeithiol rhwng Canolfannau HAGA Cymru, gan ganolbwyntio ar gydweithredu gwirioneddol a fydd yn cyflawni gwelliannau cyflym ar draws y system gyfan. Ni ddylai'r cydweithredu hyn fod yn ynysig, eithr dylai greu partneriaeth ddilys sy'n cynnwys ysgolion, awdurdodau lleol a'r Consortia addysg. Mae'n hanfodol ein bod yn edrych ar arferion gorau mewn mannau eraill yn ogystal a'n bod yn croesawu her er mwyn sicrhau bod HAGA yng Nghymru'n cymharu'n ffafriol iawn â'r ddarpariaeth orau mewn mannau eraill.

Yn ddiamau bydd HAGA yng Nghymru'n wahanol iawn. Fy neges i ddarparwyr yw fod y drws ar agor iddynt os ydynt yn awyddus i gydweithio â ni a bod yn flaengar o ran eu hymarfer o fewn y sector cyfan ond ni fydd modd iddynt fod yn rhan o'n gweledigaeth ar gyfer HAGA yng Nghymru oni bai eu bod yn fodlon anelu'n uwch.