Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy’n croesawu'r cyfle i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am yr hyn sy’n cael ei wneud i sicrhau gwaith teg ac i ymateb i bryderon a godwyd yn ystod Cwestiynau Busnes yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad bod mwy a mwy o swyddi ysbeidiol yn cael eu creu. Codwyd materion penodol yng nghyd-destun y casgliadau a gyhoeddwyd yn yr adroddiad annibynnol Good Work: the Taylor review of modern working practices (Adolygiad Taylor).

Mae ein Rhaglen Lywodraethu, ‘Symud Cymru Ymlaen’ yn nodi ein huchelgais ar gyfer dyfodol gwaith yng Nghymru, gan gynnwys datblygu sgiliau a gyrfaoedd ar gyfer swyddi sy’n cyfoethogi bywydau, heb gamfantais na thlodi.  

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth gymdeithasol â chyflogwyr a’r undebau llafur i hyrwyddo arferion gwaith teg, gan gydnabod manteision siarad yn agored â phartneriaid cymdeithasol ar draws y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Yn unol â strwythurau partneriaid cymdeithasol presennol, mae’r Prif Weinidog wedi sefydlu Bwrdd Gwaith Teg. Ei dasg gyntaf fydd archwilio sut y gall Llywodraeth Cymru wneud mwy i sicrhau bod gwariant cyhoeddus ac arferion caffael yng Nghymru yn sbarduno gwaith teg.

Ym mis Gorffennaf, rhoddais ddatganiad llafar gan nodi fy agenda ar gyfer cyflogadwyedd.  Roedd yn cydnabod bod yn rhaid inni helpu’r rheiny sydd am weithio mwy o oriau a’r rheiny sydd mewn swyddi ansicr yn ogystal â helpu bobl sy’n anweithgar yn economaidd. Rydym yn cydweithio â’n partneriaid i fynd i’r afael â’r rhwystrau niferus sy’n atal pobl rhag ennill swyddi teg o ansawdd da a datblygu gyrfa ynddynt.  

Yn dilyn rhoi’r Cydsyniad Brenhinol yr wythnos ddiwethaf, mae Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) yn amddiffyn ein trefniadau partneriaeth gymdeithasol ar gyfer materion yng ngweithlu’r gwasanaethau cyhoeddus rhag agweddau niweidiol Deddf Undebau Llafur Llywodraeth y DU. Ar yr un pryd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ‘Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl’ sy'n nodi ein polisi lefel uchel ar gyfer mudo ar ôl i’r DU adael yr UE. Mae’n cynnwys cynigion i gryfhau’r ddeddfwriaeth orfodi er mwyn atal camfanteisio ar weithwyr cyflog isel. Mae cryn dipyn o gyfraith gyflogaeth y DU yn deillio o gyfraith yr EU gan gynnwys cyfreithiau sy’n diogelu hawliau gweithwyr i gael amgylchedd gwaith diogel, absenoldeb rhiant a thriniaeth gyfartal, ymhlith pethau eraill. Nid ydym am weld yr amddiffyniadau gwerthfawr hyn i gyflogaeth a’r gymdeithas yn cael eu tanseilio am fod y DU yn gadael yr UE.

Rydym yn cydnabod bod gan rai pobl bryderon ynghylch camfanteisio ar weithwyr mudol ac i ba raddau y mae hyn yn gallu effeithio’n negyddol ar gyflogau ac amodau gweithwyr yn fwy cyffredinol. Nid mewnfudo sy’n achosi camfanteisio ond cyflogwyr diegwyddor. Er bod rhai gweithwyr mudol yn fwy agored i gamfantais yn y gweithle, gall ddigwydd i unrhyw fath o weithiwr. Bydd mynd i’r afael â chamfanteisio drwy roi’r gyfraith ar waith yn gadarn yn sicrhau bod pob gweithiwr yn gallu elwa ar y cyflog a’r amodau gwaith y mae ganddo hawl iddynt.  

Llywodraeth y DU sydd â’r rhan fwyaf o’r pwerau ar gyfer mynd i’r afael â’r mater hwn. Rhaid iddi hi gymryd cyfrifoldeb dros sicrhau bod gweithwyr yn dod yn fwy ymwybodol o’u hawliau a bod digon o adnoddau ar gael i orfodi’r cyfreithiau sy’n diogelu’r hawliau hynny.  Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gwneud llawer i sicrhau bod cyflogwyr yng Nghymru yn cydymffurfio â deddfwriaeth ac arferion da, a byddwn yn ceisio gwneud mwy.

Ym mis Mawrth, lansiwyd ein Cod Ymarfer ar gyfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi yng Nghymru. Nod y cod yw gwella llesiant gweithwyr yng nghadwyni cyflenwi’r sector cyhoeddus yng Nghymru ac ar draws y byd. Mae’n canolbwyntio ar sicrhau arferion cyflogi da ac mae’n cynnwys ymrwymiad i ystyried talu’r Cyflog Byw i bob aelod o staff, yn unol â’r Sefydliad Cyflog Byw. Ar gyfer caethwasiaeth fodern, mae’r Cod yn mynd ymhellach na deddfwriaeth bresennol y DU drwy gynnwys bob sector a heb osod trothwy trosiant lleiaf. Bydd disgwyl i bob busnes a phob sefydliad yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru sy’n derbyn cyllid sector cyhoeddus Cymru gadw at y Cod. Mae llawer ohonynt eisoes yn gwneud hyn.  

Mae trin gweithwyr yn deg yn dda i fusnes ac mae’r rhan fwyaf o gyflogwyr yng Nghymru yn gwerthfawrogi’u gweithlu, yn parchu’r gymuned leol ac yn cydnabod pwysigrwydd cyflog teg. Mae camau gweithredu ar waith i hyrwyddo i fusnesau’r sector preifat fanteision defnyddio arferion busnes cyfrifol, gan gynnwys hyfforddi a datblygu sgiliau. Er enghraifft, mae gwaith yn parhau i archwilio sut i roi arferion cyflogi wrth wraidd y Siartr Datblygu Cynaliadwy. Byddai hyn yn annog busnesau i ddefnyddio arferion gweithio gwell a hyrwyddo datblygu gyrfa yn y gweithle fel rhan o nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.  

O ran hyrwyddo’r Cyflog Byw a mynd i’r afael â phryderon ynghylch sicrhau bod contractau dim oriau yn cael eu defnyddio’n deg yn fwy cyffredinol:

  • mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi egwyddorion a chanllawiau ar gyfer defnyddio contractau dim oriau yn deg yn y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig ar ôl i Gomisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus ystyried y mater.
  • mae Llywodraeth Cymru yn dadansoddi ar hyn o bryd ymatebion i’n hymgynghoriad ar gynigion ar gyfer defnyddio contractau dim oriau a diogelu amser gofal yn y sector gofal cymdeithasol. Byddwn yn cyhoeddi adroddiad ar y dadansoddiad hwn.
  • mae Llywodraeth Cymru yn gyflogwr y Cyflog Byw. Cafodd y Cyflog Byw ei gynnwys yn nyfarniad cyflog presennol y GIG (ar ôl cael ei gyflwyno yn 2015), ac mae llawer o gynnydd yn cael ei wneud mewn cysylltiad â chyflogwyr eraill y sector cyhoeddus a’r sector preifat.

Ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gynnig cymorth helaeth i’r gweithlu ddarparu gwasanaethau cyhoeddus cryf ac effeithiol. Mae Cod y Gweithlu Dwy Haen, a dynnwyd yn ôl gan Lywodraeth y DU ond a ailgyflwynwyd yng Nghymru, yn seiliedig ar driniaeth deg o staff sy’n trosglwyddo a staff sy’n gweithio ochr yn ochr â nhw yn y gwasanaethau dan gontract.

Wrth gydnabod y gall arferion gwaith mwy hyblyg ddod â manteision i gyflogwyr a gweithwyr mewn amgylchiadau penodol, mae’n glir y gall cyflog isel a gwaith ysbeidiol greu problemau i unigolion a thanseilio polisïau ar gyfer cynnal ffyniant drwy weithio.

Mae ystadegau diweddar yn dangos bod llai o bobl, fel cyfran, yn cael eu cyflogi ar gontractau dim oriau yng Nghymru na chyfartaledd y DU. Yn y tri mis hyd at Ragfyr 2016, roedd 37,000 o bobl yn cael eu cyflogi ar gontractau dim oriau yng Nghymru; llai na’r flwyddyn flaenorol.

Rwy’n cymeradwyo’r amcan gwaith da i bawb a nodwyd yn Adolygiad Taylor ac rwy’n annog Llywodraeth y DU i ymateb i gynigion sy’n cefnogi ein hagenda drwy ddefnyddio’r pwerau sydd ar gael iddi er mwyn hyrwyddo gwaith teg ac amddiffyn gweithwyr sydd mewn perygl o ddioddef camfantais. Fodd bynnag, mae’n ymddangos nad yw’r argymhellion yn cynnwys cryfhau’r ddeddfwriaeth orfodi sydd ei hangen i atal camfanteisio ar weithwyr cyflog isel. Mae’r Goruchaf Lys wedi penderfynu’n ddiweddar bod y ffioedd tribiwnlys a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU yn 2013 yn anghyfreithlon. Mae hyn yn gam cadarnhaol tuag at wella cyfleoedd y rheiny sydd wedi bod yn destun arferion cyflogi anghyfreithlon i gael cyfiawnder.

Bydd y Bwrdd Gwaith Teg yn nodi’r camau i’w cymryd i sicrhau bod Cymru yn gallu dod yn genedl gwaith teg. Bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio ag undebau llafur a gwasanaethau cynghori sy’n derbyn cyllid craidd i’w helpu i ganfod arferion sy’n camfanteisio, rhoi cyngor i weithiwyr a sicrhau mwy o gydymffurfiaeth yn y gweithle.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os yw aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hyn.