Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae gweithio mewn partneriaeth â'r diwydiant ffermio yn allweddol er mwyn gallu gwireddu ein nod cyffredin bod gan ffermio yng Nghymru ddyfodol hir, llwyddiannus a byrlymus.

Bydd y dyfodol llwyddiannus hwn i ffermio yng Nghymru yn seiliedig ar gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, gofalu am ein hamgylchedd a bod yn gartref i'n cymunedau gwledig, ac ar ddelio yr un pryd â'r argyfyngau hinsawdd a natur rydym ni a chenedlaethau'r dyfodol yn eu hwynebu.

Heddiw, dwi'n ymweld â fferm ym Mro Morgannwg i gyhoeddi cyflwyno Cam Paratoi ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) yn 2025 a dechrau'r cyfnod Pontio i'r SFS yn 2026.

Bydd yr amserlen newydd hon yn rhoi cyfle i ni wneud nifer o bethau pwysig.

Bydd yn gyfle imi gael y trafodaethau sydd eu hangen gyda Phlaid Cymru, fel rhan o'r Cytundeb Cydweithredu, a chydag aelodau'r Ford Gron Weinidogol. Dwi'n bwriadu gweithio'n gyflym i nodi'r meysydd y gallwn gytuno arnyn nhw er mwyn gallu canolbwyntio wedyn ar y materion sydd angen mwy o sylw. 

Rhaid i'r SFS roi'r lefel gywir o gefnogaeth i ffermwyr i sicrhau bod eu busnesau'n rhai cydnerth. Dyma pam rydym wastad wedi dweud y byddwn yn cynnwys taliad am y buddion ehangach y mae ffermwyr yn eu darparu, hynny ar ben y taliad am incwm a gollwyd a'r costau a ysgwyddwyd, i gydnabod gwerth cymdeithasol ffermio. Bydd y Ford Gron yn ein helpu i ddyfeisio dull talu addas a bydd yn ystyried yr asesiad economaidd newydd o'r Cynllun ar ôl ei ddiwygio ynghyd ag unrhyw gynigion posibl eraill ac ychwanegol er mwyn atafaelu rhagor o  garbon o fewn yr SFS.

Byddwn hefyd yn defnyddio'r amser hwn i gadarnhau data a fydd, gydag adborth ffermwyr, yn rhoi darlun cywir o'r cynefinoedd a'r gorchudd coed ar bob fferm. 

Dan Gynllun Cynefin Cymru, gwelsom gynnydd yn arwynebedd y tir cynefin sy'n cael ei reoli eleni. Dwi am adeiladu ar y llwyddiant hwn ac felly'n ystyried rhoi cyfle i fwy o ffermwyr geisio am y cymorth hwn yn 2025. 

Yn ystod y Cam Paratoi, byddwn yn gweithio hefyd gyda rhanddeiliaid i greu a datblygu cynigion ar gyfer rhagor o Weithredoedd Dewisol a Chydweithredol, a'r nod fydd eu cyflwyno cyn gynted â phosibl. 

Gan gydnabod bod ar bawb angen sicrwydd, dwi'n cadarnhau hefyd fy mwriad y bydd y BPS ar gael yn 2025, gyda'r cyfnod pontio i'r SFS yn dechrau yn 2026. Byddaf yn gwneud cyhoeddiadau ynghylch terfynau'r BPS ar gyfer 2025 cyn hir.

Dwi'n rhagweld y bydd y cynlluniau buddsoddi presennol yng nghefn gwlad, fel y cynlluniau grantiau bach, yn dal i ariannu newidiadau i seilwaith yn ystod y cyfnod hwn ac rydym yn gweithio ar gynllun newydd ar raddfa'r dirwedd a fydd yn adeiladu ar brofiad cynlluniau cydweithio blaenorol.

Gan weithio gyda Cyswllt Ffermio, byddwn hefyd yn dal ati i hyrwyddo manteision gorchudd coed a choetir ar ffermydd a chyfleoedd i drosglwyddo gwybodaeth, gan ganolbwyntio ar weithgaredd ar ffermydd sy'n eu gwneud yn fwy effeithiolon ac sy'n ategu'r canlyniadau a'r gweithredoedd sy'n cael eu datblygu ar gyfer yr SFS. Byddaf hefyd yn ystyried parhau i gefnogi ffermwyr organig y flwyddyn nesaf.

Fel y dywedais sawl gwaith, mae gweithio gyda'r diwydiant yn allweddol a dwi'n bwriadu symud yn gyflym i sicrhau ein bod yn datblygu Cynllun sy'n cefnogi diwydiant amaethyddol cynaliadwy a chydnerth yng Nghymru.