Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwy'n falch o gyhoeddi lansio ymgynghoriad pwysig ar ddyfodol yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru, ddydd Iau, 18 Gorffennaf.  Mae hyn yn cynnwys cynigion ar gyfer y ddeddfwriaeth gyntaf erioed ym maes treftadaeth sy'n benodol ar gyfer Cymru, fydd yn arwain y sector am flynyddoedd i ddod.    

Mae'r amgylchedd hanesyddol yn cyfrannu llawer at nodweddion unigryw lleol.  Mae yn creu naws cryf am le sy'n ysbrydoli parch a hyder yn y gymuned ac yn rhoi synnwyr o berthyn sy'n llesol yn sgil hynny.  Mae'n rhoi manteision economaidd gwirioneddol i Gymru.  Mae dros 30,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector ac mae'n cyfrannu oddeutu £1.8 biliwn o allbwn a £840 miliwn i werth ychwanegol crynswth cenedlaethol Cymru.  Mae'r amgylchedd hanesyddol yn ganolog i'r hyn yr ydym yn ei gynnig i dwristiaid, gyda threftadaeth yn un o'r prif resymau y mae pobl yn ei roi dros ymweld â Chymru, yn ôl gwaith ymchwil gan Croeso Cymru.  

Ar ben hyn, gall yr amgylchedd hanesyddol gyfrannu at ddysgu gydol oes, drwy addysg ffurfiol yn ogystal â datblygu sgiliau a hyder drwy fynd ati i ddysgu'n anffurfiol a dysgu fel teulu.  Mae hefyd yn chwarae rhan yn y frwydr yn erbyn tlodi, gan wneud cyfraniad pwysig at adfywio, hyder newydd yn y gymuned a buddsoddi mewnol.  

Mae treftadaeth Cymru yn adnodd gwerthfawr, ac ar y cyfan mae’r rheini sy’n gofalu amdano yn gwneud gwaith effeithiol. Serch hynny, mae’n adnodd sydd o dan fygythiad wrth i bobl ymateb i’r heriau sy’n codi yn sgil yr amodau economaidd digynsail, y newidiadau yn yr hinsawdd, a hefyd y newidiadau ym mhatrymau ymddygiad defnyddwyr a phatrymau addoli.  Er mwyn sicrhau bod yr amgylchedd hanesyddol yn parhau i ddod â manteision gwerthfawr i bobl Cymru, rhaid inni nodi yr hyn sy'n arwyddocaol, ac mae angen inni reoli newid mewn modd sensitif a chynaliadwy. Gyda gofal o'r fath, ac wedi sefydlu'r fframwaith trefnu cywir, bydd ein treftadaeth yn cael ei throsglwyddo i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau a thynnu ysbrydoliaeth ohonynt.

Mae ein Strategaeth Amgylchedd Hanesyddol Cymru yn pennu gweledigaeth o amgylchedd hanesyddol sy'n cael ei ddiogelu’n effeithiol ond hefyd sydd ar gael i bawb allu fanteisio arno, ac mae'r cynigion yn y ddogfen ymgynghori yn anelu at wneud cyfraniad sylweddol tuag at wireddu'r weledigaeth honno.  

Bydd y Bil Treftadaeth a mesurau cysylltiedig yn anelu at foderneiddio a symleiddio y rheolaethau tra'n sicrhau bod ein treftadaeth yn cael ei ddiogelu'n fwy effeithiol ble y bo angen hynny.  Cafodd pum prif ganlyniad dymunol eu nodi:

  1. Diogelu gwell — drwy sicrhau bod yr hyn sy'n bwysig i bobl Cymru yn cael eu nodi, eu deall, eu  gwerthfawrogi a'u cynnal.
  2. Cael mwy o hyblygrwydd yn y system — drwy gyflwyno dulliau newydd o reoli yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru yn bositif, gan ganiatáu ar gyfer parhau i ddefnyddio asedau hanesyddol i gynnal cymunedau llewyrchus yng Nghymru.
  3. Gwella atebolrwydd a thryloywder — drwy wneud y system ddynodi yn fwy eglur a mwy o gydnabod hawliau perchnogion.  
  4. Symleiddio a chysoni systemau — drwy gydgysylltu rhai darpariaethau sy'n rheoli adeiladau rhestredig a henebion rhestredig a dileu unrhyw amryfuseddau sy’n bodoli.
  5. Cryfhau y dull o ddarparu gwasanaethau yr amgylchedd hanesyddol — drwy sicrhau bod asedau hanesyddol Cymru yn cael eu rheoli a'u cadw yn effeithiol ac yn barhaus.

Bydd y canlyniadau hyn yn cael eu darparu drwy amrywiol ffyrdd gan gynnwys ymyriadau ym maes polisi, gwelliannau i ganllawiau a deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth.  
Rydym yn ymgynghori ar ystod eang o gynigion i wella'r ffordd o nodi a diogelu asedau hanesyddol o arwyddocâd cenedlaethol a lleol, a'r dull o reoli newidiadau sy'n cael effaith ar yr asedau hyn.  

Mae rhai o'r mesurau arfaethedig yn edrych ar sut y gallem symleiddio neu gael mwy o dryloywder yn y systemau presennol.  Mae'r ymgynghoriad hefyd yn ystyried mesurau ar gyfer symleiddio agweddau ar y system caniatâd adeilad rhestredig, gyda'r nod o ddatblygu system sy'n galluogi perchnogion ac awdurdodau i reoli newid i adeiladau rhestredig yn sensitif ac yn gynaliadwy, gan barhau i'w defnyddio, ond ar yr un pryd gadw'r nodweddion penodol sy'n eu gwneud yn arwyddocaol yn hanesyddol.  

Rydym hefyd yn edrych ar ffyrdd o gydnabod yn well werth parciau hanesyddol, gerddi a meysydd brwydrau, a safleoedd hanesyddol o bwysigrwydd lleol, a sut y gallwn sicrhau bod ein Safleoedd Treftadaeth y Byd yn cael eu diogelu'n well.  

Hefyd, mae'r ymgynghoriad yn gofyn am safbwyntiau ar fframwaith drefniadol gwasanaethau yr amgylchedd hanesyddol yn genedlaethol ac yn lleol yng Nghymru, gan gynnwys opsiynau ar gyfer uno Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
a Cadw.

Bydd y ddogfen ymgynghori ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru o ddydd Iau, 18 Gorffennaf 2013 a chynhelir yr ymgynghoriad tan 11 Hydref 2013.  Cyhoeddir adroddiad ar yr ymateb i'r ymgynghoriad yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn.