Jane Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Mae’n bleser gennyf gyhoeddi heddiw fy mwriad i estyn Cymorth i Brynu Cymru am 18 mis arall, hyd fis Medi 2026.
Ers ei lansio ym mis Ionawr 2014, mae Cymorth i Brynu Cymru wedi cefnogi mwy na 14,000 o aelwydydd i brynu cartref. Mae'r cynllun yn galluogi aelwydydd na allant fforddio prynu cartref fel arall i sicrhau perchentyaeth.
Er gwaethaf y ffaith bod Llywodraeth flaenorol y DU wedi dod â Chymorth i Brynu i ben yn Lloegr ym mis Mawrth 2023, yng Nghymru rydym wedi parhau â'r gefnogaeth hon i ddarpar berchnogion tai a'r diwydiant adeiladu tai. Bydd cam presennol cynllun Cymorth i Brynu Cymru yn cau i ymgeiswyr ar ddiwedd mis Mawrth 2025.
Bydd Cymorth i Brynu Cymru yn parhau heb newid am 18 mis. Yn ystod yr estyniad hwn, bydd fy swyddogion yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ystyried argymhellion ymchwil ynghylch anghenion prynwyr tai a sefyllfa Cynllun Cymorth i Brynu - Cymru a gyhoeddwyd eleni.
Wrth gyhoeddi’r estyniad yma heddiw fy nod yw rhoi sicrwydd i’r bobl sy’n gobeithio prynu cartref y bydd y cynllun yn parhau. Rwyf hefyd am roi sicrwydd i'r 50 o ddatblygwyr a busnesau bach a chanolig sydd wedi'u cofrestru gyda Cymorth i Brynu Cymru.
Byddwn yn parhau i weithio i gyflawni'r cynllun gyda'n partneriaid yn UK Finance, y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi, Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr a Banc Datblygu Cymru.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.