Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 10 Mehefin 2019, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig a oedd yn cadarnhau y byddai Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru yn parhau ar gyfer unigolion sy'n dechrau astudio ar raglen gofal iechyd gymwys yng Nghymru ym mlwyddyn academaidd 2020/2021. Roedd hynny'n golygu y byddai'r pecyn bwrsariaeth llawn yn parhau i fod ar gael i'r rhai sy'n ymrwymo i weithio yng Nghymru am hyd at ddwy flynedd ar ôl cymhwyso. 

Rwy'n falch o gyhoeddi heddiw fy mod yn ymestyn y trefniant hwn unwaith eto, ac y bydd pecyn bwrsariaeth GIG Cymru yn parhau ar gyfer y rhai a fydd yn dechrau astudio ym mlynyddoedd academaidd 2021/22 a 2022/23. Mae'r cyhoeddiad hwn yn rhoi sicrwydd y bydd Cymru yn parhau i ariannu a chefnogi darpar weithlu'r GIG dros y tair blynedd academaidd nesaf.

Dros y cyfnod hwn byddwn yn cynnal ymarfer cynhwysfawr er mwyn penderfynu ar y ffordd orau a mwyaf priodol o barhau i gefnogi'r rhai sy'n dewis astudio ar raglenni gofal iechyd yng Nghymru.              

Rwy'n falch o'r hyn y mae'r Llywodraeth hon wedi ei wneud er mwyn buddsoddi mewn addysg a hyfforddiant. Mae mwy o bobl yn gweithio i'r GIG heddiw nag a fu ar unrhyw adeg yn ei hanes, gyda phob un ohonynt yn ceisio atal problemau a gofalu am bobl ar draws pob cymuned yng Nghymru.

Cyhoeddais yn ddiweddar y bydd cyllid i gefnogi addysg a hyfforddiant gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru yn cynyddu am y chweched flwyddyn yn olynol - caiff £127.8m ei fuddsoddi yn 2020/21.

Drwy gyfuniad o fuddsoddiad cyson a chynyddol mewn darparu addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol, a pharhau i gynnig cymorth ariannol er mwyn annog unigolion i ystyried bod gyrfa o fewn gofal iechyd yng Nghymru yn un fuddiol sy'n cynnig boddhad, mae'r Llywodraeth hon yn dangos ymrwymiad clir i sicrhau bod gweithlu'r GIG yn gynaliadwy i'r dyfodol.