Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AC, Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf wedi siarad cyn hyn am gymhlethdod ein cyfreithiau, ac am y problemau y mae pobl yn eu cael wrth ddeall eu hawliau a'u rhwymedigaethau. Mae Aelodau ar draws y Senedd yn cytuno bod angen i'r gyfraith yr ydym yn gyfrifol amdani fod yn fwy hygyrch, ac rwyf wrth fy modd bod Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 wedi’i deddfu erbyn hyn.

Heddiw, rwy'n parhau â'n gwaith i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch drwy gyhoeddi mwy o fanylion cynigion y Llywodraeth ar gyfer categoreiddio, cydgrynhoi a chodeiddio'r gyfraith. Mae hon yn weledigaeth ar gyfer y dyfodol, un lle mae pob cyfraith sy'n dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd yn drefnus, yn hawdd ei defnyddio, ar gael ar y ffurf ddiweddaraf ac mor ddealladwy ag sy’n bosibl gan ystyried cymhlethdod y cynnwys.

Er mwyn cyflawni hyn mae angen ailwampio'r llyfr statud. Gwneir hyn drwy sefydlu system o gategoreiddio’r gyfraith bresennol fel y gellir ei threfnu drwy gyfeirio at ei phwnc; drwy gydgrynhoi’r gyfraith honno yn dilyn hynny yn unol â'r categori pwnc; ac, ar ôl cael trefn fel hyn, cynnal proses o godeiddio a gynlluniwyd i gadw trefn ar y gyfraith. Mae hyn hefyd yn golygu y bydd y modd y byddwn yn cyfathrebu ynglŷn â'r gyfraith yn gwella drwy gyhoeddi’n well a darparu mwy o ddeunydd esboniadol am ddeddfwriaeth.

Mae'r cynigion yr wyf yn eu cyhoeddi heddiw yn disgrifio ein cynigion ar gyfer cyflawni hyn. Rydym wedi nodi yr hyn yr ydym yn ei olygu yn union wrth sôn am gategoreiddio, cydgrynhoi a chodeiddio ac amlinellu prosiectau cysylltiedig eraill a fydd yn ein helpu i gyrraedd y nod. Rwy’n edrych ymlaen at glywed barn ymarferwyr cyhoeddus a defnyddwyr deddfwriaeth yng Nghymru.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma:

https://llyw.cymru/dyfodol-cyfraith-cymru-categoreiddio-cydgrynhoi-codeiddio