Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r cyfrifoldeb i bennu cyflog athrawon yn mynd i roi’r gallu i Weinidogion Cymru greu system gyflog ac amodau sy’n fwy perthnasol i Gymru. Bydd y pŵer hwn yn cyd-fynd â’n newidiadau sylfaenol sy’n cael eu gwneud i’r system addysg ehangach ac sy’n cynnwys diwygiadau i Addysg Gychwynnol Athrawon a pharhau â’r gwaith o ddiwygio’r cwricwlwm.

Bydd y gallu i ddatblygu a chyflwyno, ochr yn ochr â’n partneriaid mewn awdurdodau lleol a’r proffesiwn, y pecyn tâl cyflawn sydd ar gael i’r proffesiwn addysg yng Nghymru yn sail ar gyfer ein dyheadau ar gyfer y system addysg gyfan yn y dyfodol.

Gan adeiladu ar ein trafodaethau blaenorol ynghyd â’r trafodaethau sydd ar y gweill yn awr â’r undebau a phartneriaid eraill, byddwn yn sicrhau bod system briodol yn cael ei rhoi yn ei lle er mwyn penderfynu ar gyflog ac amodau athrawon.  Oherwydd hynny, mae’n fwriad gen i i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn y flwyddyn newydd, gyda golwg ar drafod y broses.

Yn rhan o’r gwaith hwn, byddaf yn sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen Annibynnol o dan gadeiryddiaeth yr Athro Mick Waters bydd yn edrych ar Gyflog ac Amodau Athrawon yng Nghymru.

Bydd yr Athro Waters yn cynnal yr adolygiad gyda chymorth yr Athro Melanie Jones a Syr Alasdair Macdonald.

Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio’n bennaf ar ystyried sut y mae’r strwythur cyflog ac amodau yn cyfrannu at broffesiwn addysgu sydd wedi’i ysgogi, ac sydd yn ei dro yn cryfhau ein gallu i ddarparu system addysg o ansawdd uchel.

Mae datblygu proffesiwn addysgu o safon a chreu arweinwyr ysbrydoledig i helpu i godi safonau yn amcanion allweddol ein cynllun addysg cenedlaethol newydd, sef Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl.

Bydd y grŵp yn edrych ar y trefniadau ar gyfer cyflog ac amodau athrawon ac yn ystyried rhagoriaethau a rhwystrau’r system bresennol. Byddant hefyd yn nodi’r mannau lle y mae angen ystyried polisi penodol i fynd i’r afael â phroblemau.

Bydd y grŵp wedi adrodd ac yn rhoi argymhellion i Weinidogion Cymru erbyn yr hydref 2018, a bydd yr argymhellion hyn yn help i lunio cylch gwaith ar gyfer unrhyw drafodaethau a fydd yn ymwneud â Chyflog ac Amodau. Rwy’n disgwyl gweithredu ein system Cyflog ac Amodau penodol i Gymru o fis Medi 2019.

Rwyf wedi bod yn glir – ac yn croesawu’r cymorth rwyf wedi derbyn – nad yw bod yn glwm i system Lloegr yn addas, berthnasol neu at fantais y proffesiwn yng Nghymru bellach.  Mae ein system wedi’i seilio ar gwerthoedd o gyfiawnder a rhagoriaeth, ymrwymiad i addysg gwasanaeth cyhoeddus cynhwysol ac i gefnogi ein athrawon i godi safonau i bawb.  Bydd ein system Cylog ac Amodau yn ymgorffori’r dulliau a gwerthoedd hyn.