Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Hydref 2015, cyhoeddodd cyn Lywodraeth Cymru Dyfodol byd-eang: Cynllun i wella a hyrwyddo ieithoedd tramor modern yng Nghymru 2015-2020. Y cynllun hwn oedd ymateb y llywodraeth i’r lleihad a welwyd dros y 10 mlynedd diwethaf yn y niferoedd sy’n astudio ieithoedd tramor modern yng Nghymru.

Heddiw, rwyf yn cyhoeddi adroddiad ar ail flwyddyn y cynllun. Gan weithio gyda phartneriaid o bob rhan o’r sector, gan gynnwys; y pedwar consortiwm addysg rhanbarthol, sefydliadau iaith, prifysgolion yng Nghymru, Estyn, British Council, y Brifysgol Agored, Sefydliadau Confucius, BBC Cymru, Llwybrau at Ieithoedd Cymru, a’r proffesiwn addysgu, mae cynnydd wedi cael ei wneud i wireddu gweledigaeth Dyfodol Byd-eang.  

Mae uchafbwyntiau penodol yr ail flwyddyn yn cynnwys:

  • llwyddiant Cynllun Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern, a noddir gan Lywodraeth Cymru ac a reolir gan Brifysgol Caerdydd. Mae gwerthusiad annibynnol wedi cadarnhau bod y cynllun mentora yn cynyddu nifer y disgyblion sy’n astudio ieithoedd ar lefel TGAU yn sylweddol. Gwelwyd cynnydd o 57% yn ystod cam 1. Yn ystod cam 2, y ganran oedd 50%, ond gyda charfan lawer mwy o ddisgyblion yn cael eu mentora. Er mwyn cydnabod eu cyflawniadau, enillodd y prosiect Gwpan Threlford y Sefydliad Siartredig Ieithyddiaeth ym mis Tachwedd, fel prosiect eithriadol sy’n cefnogi ieithoedd mewn ysgolion;
  • sefydlu presenoldeb Goethe-Institut a Swyddfa Addysg Llysgenhadaeth Sbaen yn Ysgol Ieithoedd Tramor Modern Prifysgol Caerdydd drwy gyllid gan Lywodraeth Cymru;
  • y cynnydd yn nifer y rhai sy’n dysgu Mandarin yng Nghymru o 5,261 yn 2015/6 i 6,941 o ddisgyblion ysgol yn 2016/17. Mae nifer yr Ystafelloedd Dosbarth Confucius yng Nghymru wedi cynyddu o 13 i 19. 
  • llwyddiant yng Ngwobrau Athrawon Almaeneg 2017, lle roedd dau o’r tri enillydd yn athrawon o Gonsortiwm EAS De Cymru, y cydnabuwyd eu bod wedi gwneud cyfraniad eithriadol ac ymroddedig i addysgu Almaeneg;
  • cymorth ysgol i ysgol yn parhau i bartneru ysgolion cynradd ac uwchradd o blith yr Ysgolion Arweiniol/Ysgolion Hwb Cwricwlwm; 
  • yr amrywiaeth o adnoddau ar gyfer ieithoedd tramor modern a grëwyd ac a rannwyd ar Hwb, a rhwydweithiau ieithoedd tramor modern rhithwir ar gyfer pob un o’r consortia addysg rhanbarthol. 

Mae copïau o gynllun ac adroddiad blynyddol Dyfodol Byd-eang ar gael drwy glicio ar y ddolen ganlynol:

http://gov.wales/topics/educationandskills/publications/guidance/global-futures-a-plan-to-improve-and-promote-modern-foreign-languages-in-wales/?skip=1&lang=cy