Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Hoffwn gymryd y cyfle hwn i roi’r diweddaraf i Aelodau’r Cynulliad ynghylch y gwaith rydym wedi bod yn ei wneud dros y misoedd diwethaf i ddechrau ad-drefnu ein gwaith ym maes cyflwyno a dysgu Ieithoedd Tramor Modern (ITM) yn ein hysgolion.
Mae’r economi fyd-eang newydd yn cynnig llawer o gyfleoedd cyffrous i Gymru, a bwriad y gwaith rydym yn ei wneud i godi safonau yn ein hysgolion, colegau a phrifysgolion yw manteisio ar y cyfleoedd hynny. Rydym eisiau bod gan Gymru, ei heconomi a’i gweithlu, y sgiliau a’r cymwyseddau i lwyddo yn yr unfed ganrif ar hugain. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i ni fod yn fentrus ac yn arloesol, ac mae adolygiad diweddar Donaldson yn dangos maint ein huchelgais.
Mae gan astudio Ieithoedd Tramor Modern le pwysig mewn addysg. Yn ogystal â bod yn beth da yn ei hun, mae dysgu iaith yn dod yn fwyfwy pwysig i bobl ifanc er mwyn cystadlu am swyddi yn yr economi fyd-eang newydd. Mae hyn yn bwysig hefyd i fusnesau yng Nghymru wrth iddynt fasnachu fwyfwy gyda phartneriaid tramor newydd.
Felly, mae’n bwysig sicrhau bod mwy fyth o’n pobl ifanc yn datblygu eu sgiliau iaith ac yn dysgu am ddiwylliannau gwahanol wledydd, a hynny drwy astudio Iaith Dramor Fodern.
Er bod y rheini sy’n astudio iaith yn gwneud dda ar lefel TGAU a Safon Uwch, mae angen i ni annog mwy o’n pobl ifanc i ddewis astudio Iaith Dramor Fodern fel rhan o’u haddysg yn yr ysgol. Ynghyd â gwledydd eraill y DU, mae nifer y bobl ifanc yn dewis cwrs Iaith Dramor Fodern wedi bod yn dirywio yn ddiweddar. Mae’r canfyddiad o ddysgu iaith, y gystadleuaeth gynyddol am amser dysgu a safle cryf Saesneg fel yr iaith fusnes fyd-eang oll wedi cyfrannu at y dirywiad hwn. Nid problem i Gymru yn unig yw hon.
Hoffwn ddiolch i CILT Cymru am ei gymorth yn hyrwyddo pynciau ITM dros y blynyddoedd diwethaf, ond rwy’n credu fwyfwy na allwn barhau â’r drefn bresennol a bod angen i ni fynd i’r afael â dysgu Ieithoedd Tramor Modern yng Nghymru mewn ffordd newydd. Dyma’r amser i feddwl o’r newydd ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo pynciau ITM yng Nghymru, ac rwy’n falch o gyhoeddi heddiw y camau cyntaf yn y cynllun newydd hwn i gefnogi a hyrwyddo addysgu pynciau Ieithoedd Tramor Modern yn ein hysgolion.
O ddiwedd y flwyddyn academaidd hon, byddaf yn gosod Cynllun Gwella a Hyrwyddo Ieithoedd Tramor Modern yn lle CILT Cymru, a fydd yn dod i rym o fis Medi 2015. Fel rhan o’r Cynllun hwn, bydd un ysgol uwchradd ym mhob consortiwm yn cael ei sefydlu fel Canolfan Ragoriaeth Ieithoedd Tramor Modern, gyda chyfrifoldeb dros weithio mewn partneriaeth gydag ysgolion uwchradd a chynradd yn eu rhanbarth.
Rwy’n bwriadu cysylltu hyn yn agos â’r gwaith rwyf wedi cychwyn ei wneud i roi ar waith y 'Fargen Newydd' ar gyfer y gweithlu addysg proffesiynol yng Nghymru, gyda gweithgareddau Datblygu Proffesiynol Parhaus yn cael eu cyflwyno i bob Canolfan Ragoriaeth ITM drwy bartneriaeth newydd gyda’n sefydliadau iaith Ewropeaidd presennol a’n prifysgolion i gefnogi ymarferwyr a gwella addysgu.
Bydd ysgolion ym mhob Canolfan Ragoriaeth ITM yn elwa o gael cymorth ysgol-i-ysgol, ac rwyf eisiau cyflwyno hyn fel model gwaith cynaliadwy a hunan-wella at y dyfodol. Mae’r Cynllun hefyd yn cynnwys sefydlu rhaglen fentora i dargedu disgyblion Cyfnod Allweddol 3, a fydd yn codi proffil pynciau ITM ac yn sicrhau bod dysgwyr yn ymwybodol o fanteision astudio ITM, o ran mynd ymlaen i addysg uwch ac o ran ennill cyflogaeth.
Rwy’n bwriadu i’r mesurau hyn fod yn ddechreuad newydd i ddysgu Ieithoedd Tramor Modern a fydd yn gwella profiad dysgwyr o bynciau ITM yn ein hysgolion, gan ein bod yn gwybod mai dyma yw un o’r prif resymau pam nad yw pobl ifanc yn astudio Ieithoedd Tramor Modern.
Rwy’n buddsoddi £480,000 yn 2015/16 i gefnogi’r Cynllun Gwella a Hyrwyddo Ieithoedd Tramor Modern. Ar ben hyn, gofynnwyd i’r consortia addysg rhanbarthol gyflwyno cynigion i Lywodraeth Cymru ynghylch sut gallant weithio mewn partneriaethau newydd a chreadigol i ddatblygu’r agenda hon.
Rwy’n falch o gyhoeddi y bydd grŵp llywio Ieithoedd Tramor Modern yn goruchwylio’r Cynllun, a fydd yn cynnwys arbenigwyr o ysgolion, prifysgolion, Estyn, sefydliadau iaith (Alliance Française, Institute Français, Goethe Institut, Sefydliad Conffiwsiws ac adrannau addysg Llysgenhadaeth Sbaen a swyddfa Prif Gonswl yr Eidal yn Llundain) a chonsortia addysg, dan gadeiryddiaeth Mr Glynn Downs, Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf. Bydd y grŵp yn goruchwylio’r broses o roi’r cynllun ar waith, gan gynnwys cytuno ar y strategaeth ar gyfer hyrwyddo pynciau ITM a gwaith y Canolfannau Rhagoriaeth. Cynhelir cyfarfod cyntaf y grŵp llywio ITM ar 4 Mehefin 2015.
Yn arbennig, byddaf yn gofyn i’r grŵp llywio ymchwilio a chyflwyno adroddiad i mi ynghylch pa gymelliannau y gallwn eu rhoi i israddedigion ac ôl-raddedigion weithio gyda’n Canolfannau Rhagoriaeth newydd, yn ogystal â sut gallwn ymgysylltu â phartneriaid fel y BBC a’r Brifysgol Agored i ddefnyddio technolegau digidol newydd mewn ffordd ddefnyddiol i wella dysgu iaith i ddisgyblion ac athrawon fel ei gilydd.
Yn olaf, mae’n bleser mawr gennyf gyhoeddi y bydd Cymru yn cynnal cynhadledd i benaethiaid am y tro cyntaf ynghylch yr angen am Almaeneg mewn ysgolion a deuddegfed Seremoni Wobrwyo Athrawon Almaeneg 2015. Caiff y digwyddiad ei drefnu ar y cyd gan Lysgenhadaeth Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, y Goethe Institut Llundain, Llywodraeth Cymru a’r British Council.
Nid oes unrhyw atebion hawdd i’r her rydym yn ei hwynebu o ran cynyddu nifer y bobl ifanc sy’n astudio Ieithoedd Tramor Modern. Ar adeg lle mae pwysau ar adnoddau, mae hyn yn golygu y bydd angen i ni ffurfio partneriaethau newydd ac arloesol gyda sefydliadau sydd eisoes yn gweithio yng Nghymru ac yn meddu ar y sgiliau, y profiad a’r crebwyll ym maes dysgu iaith.
Fel gwlad ddwyieithog, mae gennym gryn dipyn o wybodaeth eisoes yn ein sector ysgolion cynradd ac uwchradd ac yn adrannau iaith ein prifysgolion ynghylch y ffordd orau o ddysgu ac addysgu iaith newydd. Nawr, mae angen i ni ddefnyddio’r wybodaeth hon yn well ac mewn ffordd fwy cydlynus o fewn ein system i sicrhau ein bod yn creu mwy o ieithyddion hyderus a fydd o fudd mawr i’n heconomi a’n cymdeithas.