Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Llywodraeth Cymru wastad wedi bod yn gefnogol at gryfhau’r ddeddfwriaeth i greu Dyfarnwr Côd Bwydydd. Yn fy nghobeiaeth â gweinidogion y Deyrnas Unedig yn yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau rwyf wedi parhau i bwyso am nifer o welliannau fyddai’n darparu’r Dyfarnwr gyda’r pwerau i draddodi rheolaeth effeithiol o’r gadwyn gyflenwi. Rwyf hefyd wedi dadlau ers tro y dylai’r corff feddu ar y pwerau i osod dirwyon pan geir tramgwyddau difrifol yn erbyn y Côd, a hynny o’r cychwyn cyntaf ac nid fel ateb olaf, fel ag y bu pethau tan yr wythnos hon. Rwy’n croesawu cydnabyddiaeth y Gweinidog Cystadleuaeth y Deyrnas Unedig fod angen i Ddyfarnwr y Côd Bwydydd gael y pŵer ar unwaith i ddirwyo adwerthwyr mawr yn briodol. Rwyf wedi cael ar ddeall y bydd y ddeddfwriaeth sy’n sefydlu’r Dyfarnwr bellach yn cynnwys y pwerau hynny, pwerau rwyf wedi’u cefnogi’n gyson.

Gobeithiaf y bydd y gwelliant hwn yn cael ei groesawu fel amddiffyniad ychwanegol gan y busnesau hynny sy’n cyflenwi’r adwerthwyr mawr. Ni ddylai dim fodd bynnag rwystro’r adwerthwyr rhag sicrhau’r fargen orau i’w cwsmeriaid, ond fe ddylent serch hynny orfod trin eu cyflenwyr yn deg.