Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Ar 19 Mehefin eleni rhoddais y newyddion diweddaraf i Aelodau bod Future Valleys (FCC, Roadbridge, Meridiam, Alun Griffiths (Contractors) and Atkins) wedi eu penodi fel y Cynigydd a Ffefrir ar gyfer cynllun Gwaith Deuoli A465 Cerbyd â Sawl Teithiwr Dowlais i Hirwaun.
Rwyf bellach yn falch iawn o gadarnhau bod y contract terfynol wedi ei ddyfarnu i Future Valleys (FV) gyflenwi’r cynllun. Bydd y gwaith o glirio’r safle yn dechrau ar unwaith bron gyda’r gwaith adeiladu i ddechrau o ddifrif yn ystod gwanwyn 2021. Mae’r gwaith adeiladu i’w gwblhau erbyn canol 2025.
Mae’r prosiect y cyntaf i gael ei ddarparu gan ddefnyddio Model Buddsoddi Cydfuddiannol wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, pan fydd Future Valleys, yn gweithredu fel ein Partner o fewn y Sector Preifat, yn dylunio, adeiladu, cyllido a gweithredu’r cynllun. O dan y Model Buddsoddi Cydfuddiannol, bydd y sector cyhoeddus, drwy Fanc Datblgyu Cymru, yn cymeryd cyfran ecwiti yn Future Valleys, gan gynnig tryloywder ar lefel Bwrdd a chyfle am gyfran mewn unrhyw elw sy’n cael ei greu gan y cynllun.
Mae consortiwm Future Valleys yn cynnwys cwmnïau adeiladu rhyngwladol mawr, ochr yn ochr â buddsoddwyr ariannol sefydlog sydd â diddordeb mewn buddsoddi yng Nghymru. Mae’r consortiwm yn cynnwys contractwyr allweddol o Gymru a thimau dylunio sydd â gwybodaeth am yr ardal a’r gadwyn gyflenwi leol.
Mae’r A465 yn rhan bwysig o’r rhwydwaith ffyrdd strategol ac o bwysigrwydd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Yr 18km o’r ffordd rhwng Dowlais Top, Merthyr Tudful a Hirwaun (Rhannau 5 & 6) yw’r rhannau gorllewinol o’r rhaglen ddeuoli ac ar hyn o bryd maent yn gerbytffordd sengl tair lôn gyda chyffyrdd un-lefel sy’n cyfyngu ar lif y traffig ac yn cael effaith ar ddibynadwyedd. Mae gan y ffordd record diogelwch gwael, ychydig o gyfleoedd i oddiweddu a chyfleusterau teithio llesol gwael.
Bydd y cynllun yn cwblhau gwaith deuoli yr A465, ymrwymiad hirdymor Llywodraeth Cymru, ac yn sicrhau bod yr ystod llawn o fanteision yn cael eu gwireddu ar gyfer y rhanbarth. Bydd yn cwlbhau y ffordd barhaus, amgen o safon uchel i’r M4 ac yn gwella’r cyswllt gogleddol hollbwysig ar draws y Cymoedd ar gyfer Metro De Cymru, gan gynnnig mynediad dibynadwy at hybiau’r Metro, a chyfrannu at hyrwyddo’r newid mewn dulliau teithio. Bydd y cynllun yn gwella hygyrchedd at swyddi a gwasanaethau a chyfleusterau cyhoeddus pwysig ar gyfer teithio llesol yn y rhanbarth.
Yn ogystal â’r manteision i drafnidiaeth, bydd amrywiol Fanteision Cymunedol hefyd yn cael eu darparu drwy’r cynllun i gefnogi amcanion Tasglu’r Cymoedd, gan gynnwys targedau y contract ar gyfer hyfforddi a swyddi i bobl leol a chyfleoedd ar gyfer y gadwyn gyflenwi leol. Bydd amcangyfrif o £400 miliwn o wariant ar y prosiect yng Nghymru, gyda £170 miliwn o fewn rhanbarth Blaenau’r Cymoedd, gan greu gwerth rhagamcanol o £675 miliwn ar gyfer economi ehangach Cymru. Mae gan aelodau consortiwm y FV hanes blaenorol o gyflawni yn erbyn ymrwymiadau Manteision Cymunedol.
Bydd lefel y buddsoddiad sy’n cael ei gynhyrchu gan y cynllun hwn o bwysigrwydd tyngedfennol wrth i economi Cymru geisio adfer o heriau y pandemig parhaus, yn enwedig mewn ardal megis Blaenau’r Cymoedd sydd wedi gweld effaith mawr. Bydd gan brosiect seilwaith mawr o fewn y rhanbarth botensial gwirioneddol o gyflymu adferiad rhanbarthol.
Mae darparu’r cynllun drwy’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) yn cynnig y cyfle gorau i gwblhau’r cynllun mor gyflym â phosibl. O dan y MIM, ni fydd Llywodraeth Cymru yn dechrau gwneud Taliadau Gwasanaeth Blynyddol tan i’r gwasanaethau ddechrau. Mae hyn yn cymell y contractwr i ddarparu’r rhaglen ar amser gan gadw at y gyllideb. Bydd strwythur yr MIM hefyd yn sicrhau bod yr ystod llawn o fanteision cymunedol ac economaidd yn cael eu cyflawni gan y cynllun cyn i Lywodraeth Cymru ddechrau gwneud Taliadau Gwasanaeth Blynyddol, gan ganiatáu i gyllidebau gael eu blaenoriaethu mewn mannau eraill.
Mae’r MIM yn cynnwys gofynion llym ynghylch rheoli effeithiau negyddol yn ystod y gwaith adeiladu megis sŵn, llwch a dirgryndod. Mae’r contract hefyd yn cynnwys cyfyngiadau penodol ar reoli traffig wrth adeiladu’r ffordd, o ran nifer yr achosion o gau yr A465 a’r defnydd o ffyrdd lleol, gyda chosbau ariannol am beidio â chydymffurfio.