Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ym mis Mawrth, cyhoeddais fy ymateb cychwynnol i argymhellion gan Gorff Adolygu Cyflogau y GIG a'r Corff Adolygu Tâl Meddygon a Deintyddion ar gyfer 2014-15.
Roedd y datganiad yn nodi’r glir fod pwysau ariannol yn parhau i fod yn fater arwyddocaol i GIG Cymru ac na fyddai unrhyw godiad cyflog yn cael ei ariannu. Fodd bynnag, roedd hefyd fy mod yn bwriadu ystyried y ffordd orau o ddosbarthu dyfarniad – cyfwerth â chost gweithredu cynigion yr Adran Iechyd yn Lloegr – i staff sy’n gweithio yng Nghymru.
Roeddwn i wedi gobeithio y byddai modd i Gyflogwyr y GIG, yr undebau llafur, cyrff proffesiynol a chymdeithasau staff gynnal trafodaethau i gytuno ar argymhellion ynghylch dyfarniad i feddygon a deintyddion ar gyflogau a staff y GIG. Gofynnwyd i Gyflogwyr y GIG roi gwahoddiad pellach i BMA Cymru i drafod dosbarthu dyfarniad i ymgynghorwyr, ynghyd â chasgliad y cynigion oedd heb eu gweithredu ar y contract ymgynghorwyr. Yn anffodus, nid yw cynrychiolwyr staff wedi gallu cychwyn trafodaethau ffurfiol.
Yn eu habsenoldeb, bydd dosbarthiad y dyfarniad cyflogau ar gyfer 2014-15 i staff o dan y trefniadau Agenda ar gyfer Newid, ac eithrio’r uwch-reolwyr pennaf, yn ceisio cyflawni dau brif nod. Bydd hyn yn gyntaf yn cynnig rhywbeth i bawb: taliad arian parod gwastad o £160. Yn ail, bydd yn mynd i'r afael â chyflog isel drwy gynnig y cyflog byw yn y GIG yng Nghymru.
Mae’r penderfyniadau hyn yn dangos ein hymrwymiad i ddilyn trywydd gwahanol yng Nghymru, hyd yn oed mewn cyfnod heriol iawn.
Daw'r dyfarniadau hyn ar ben dilyniant cynyddrannol i staff sydd â hawl i gael cynyddran. Rwyf hefyd wedi penderfynu cywiro'r anghysondeb rhwng pwyntiau cyflog 15 ac 16, a fydd yn sicrhau y bydd dilyniant cynyddrannol yn rhoi codiad o 1% o leiaf.
Ni fydd dyfarniad cyflog ar gyfer yr uwch-reolwyr pennaf ar gyfer 2014-15
Yn achos y mwyafrif o staff meddygol, rwyf wedi penderfynu y dylid alinio'r dyfarniad â'r rheini a wnaed yn Lloegr ar gyfer 2014-15. Bydd staff sydd â hawl i gael cynyddran yn parhau ar eu dilyniant cynyddrannol.
Bydd meddygon arbenigol ac arbenigwyr cysylltiol a meddygon dan hyfforddiant ar frig eu graddfa yn cael dyfarniad ar wahân o 1%. Bydd ymgynghorwyr ar frig eu graddfa dyfarnu ymrwymiad hefyd yn cael taliad ar wahân o 1%.
Yn natganiad yr Adran Iechyd ym mis Mawrth 2013, amlinellwyd cytundeb dwy flynedd ar gyfer 2014-15 a 2015-16. Nid oes trafodaethau wedi cael eu cynnal yng Nghymru rhwng cyflogwyr a chynrychiolwyr staff am yr ail flwyddyn. Rwyf felly wedi gofyn i Gyflogwyr y GIG gynnal trafodaethau brys gydag aelodau'r Fforwm Partneriaeth yng Nghymru a BMA Cymru ynghylch y sefyllfa ar gyfer 2015-16 o fewn y swm cyfwerth â’r dyfarniad yn Lloegr. Rwy'n edrych ymlaen at weld yr argymhellion ym mis Medi 2014.
Rwy'n deall mai'r dymuniad yw cynnig dyfarniad wedi'i gydgrynhoi yn 2014-15, ond nid yw hyn yn fforddiadwy yn yr hinsawdd ariannol heriol presennol. Fodd bynnag, mae cyfle i Gyflogwyr y GIG a chynrychiolwyr staff drafod cydgrynhoi ar gyfer 2015-16.
Fy mhrif flaenoriaeth o hyd yw cadw swyddi ar y rheng flaen yn GIG Cymru a bwrw ymlaen â gwelliannau o ran ansawdd y gofal i gleifion.
Roedd fy natganiad ym mis Mawrth yn cadarnhau y byddem yn rhoi argymhellion y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion ar waith ynghylch y contract meddygon teulu yng Nghymru ac yn cynyddu gwerth contractau deintyddol gan 1.47%. Parthed meddygon teulu ar gyflog, sy’n cael eu cyflogi gan fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG, bydd Cyflogwyr y GIG yn ceisio cynnal trafodaethau gyda BMA Cymru i benderfynu ar ddyfarniad priodol ar gyfer 2014-15 yng nghyd-destun y dyfarniadau rwy’n eu cyhoeddi heddiw.
O ran y cynigion sydd heb eu gweithredu ar gyfer contract ymgynghorwyr Cymru, mae'n drueni mawr bod BMA Cymru yn teimlo nad yw wedi gallu dechrau trafodaethau gyda Chyflogwyr y GIG.
Fy nymuniad i fyddai cadw’r contract ar gyfer Cymru. Fodd bynnag, oherwydd nad oes cytundeb wedi’i sicrhau, rwyf wedi dod i'r casgliad nad oes gobaith ymarferol o gadw contract ar wahân i ymgynghorwyr yng Nghymru. Ymddengys bod trafodaethau’r contract ymgynghorwyr newydd ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon yn gyfle i sicrhau cydraddoldeb ar draws y rhan fwyaf o’r DU, fel yn achos meddygon dan hyfforddiant a meddygon arbenigol ac arbenigwyr cyswllt. Rwyf felly wedi gofyn i'm swyddogion sicrhau bod Cymru yn ymuno'n ffurfiol â thrafodaethau Lloegr a Gogledd Iwerddon ar y contract ymgynghorwyr.
Rwy'n gobeithio y bydd BMA Cymru yn derbyn gwahoddiad i ymuno â GIG Cymru yn y trafodaethau gyda gwledydd eraill ar lefel y DU. Drwy weithio mewn partneriaeth, bydd gan Gymru lais a dylanwad cryf, a phan fydd yn cael ei gyhoeddi gallwn sicrhau bod y contract ymgynghorwyr newydd yn adlewyrchu'n briodol anghenion ac amgylchiadau meddygon sy'n gweithio yng Nghymru.
Yn amlwg bydd yn cymryd amser i gwblhau a gweithredu’r trafodaethau hyn. Yn y cyfamser, mae'n anochel bod angen gwneud arbedion yn y bil cyflogau. Rwyf wedi gofyn i Gyflogwyr y GIG ystyried ymhellach sut gallwn addasu cyfraddau milltiredd ymgynghorwyr fel eu bod yn cyd-fynd â chyfraddau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi a chysoni graddfeydd cyflog ar gyfer meddygon newydd dan hyfforddiant yng Nghymru â'r rhai yn Lloegr. Rwy'n rhagweld y bydd y newidiadau hyn yn cael eu rhoi ar waith ym mis Medi 2014.
Hefyd rwyf wedi cytuno y bydd Cymru yn y Gwobrau Rhagoriaeth Glinigol ar gyfer 2014-15, ac rwyf wedi gofyn i’m swyddogion gynnal adolygiad o'r cynllun cyn 2015-16.
Mae'r dyfarniadau cyflog ar gyfer 2014-15 yn amodol ar ymrwymiad gan yr undebau llafur a chyrff proffesiynol i roi ar waith yn gynnar y newidiadau i delerau ac amodau yr Agenda ar gyfer Newid a drafodwyd ac a gefnogwyd gan fwyafrif o staff yn gynharach eleni. Rwy'n gobeithio y bydd modd rhoi'r rhain ar waith ym mis Medi 2014.