Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cadw llygad manwl iawn ar y datblygiadau yn yr achos cyfreithiol hir ynghylch deddfwriaeth isafbris am alcohol yn yr Alban, ac yn falch tu hwnt bod y Goruchaf Lys heddiw wedi cyhoeddi dyfarniad unfrydol yn gwrthod yr apêl a ddygwyd ymlaen gan y Scotch Whisky Association ac eraill, a chynnal deddfwriaeth yr Alban.
Mae dyfarniad unfrydol y Goruchaf Lys yn cynnal canfyddiad Llys y Sesiwn fod cyflwyno isafbris am alcohol yn yr Alban yn cyd-fynd â chyfraith yr UE. Mae’n ystyried bod gosod isafbris yn ffordd gymesur o fynd i’r afael â niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol. Mae'r dyfarniad yn cadarnhau mai mater i'r ddeddfwrfa ddatganoledig sydd wedi'i hethol yn ddemocrataidd yw penderfynu sut i gydbwyso rhwng diogelu iechyd a materion masnachol, gan ddatgan yn gwbl glir na ddylai’r llysoedd geisio rhagdybio’r gwerth y mae deddfwrfa ddomestig yn ei roi ar iechyd.
Mae niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yn broblem sylweddol i iechyd y cyhoedd yng
Nghymru. Mae mynd i'r afael â goryfed alcohol yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd yn ddiweddar, cafwyd 504 o farwolaethau cysylltiedig ag alcohol yng Nghymru yn 2016, pob un ohonynt yn rhai y gellid bod wedi eu hosgoi.
Fel rhan o’n dull gweithredu cyffredinol i fynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol, rydym wedi cydnabod ers amser bod camau gweithredu i herio'r alcohol cryf, rhad sydd ar gael yn rhywbeth sydd ar goll o'n strategaeth. Dyma'r rheswm dros gyflwyno Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) - darn o ddeddfwriaeth sy'n ymwneud yn benodol ag amddiffyn bywyd ac iechyd.
Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn ystyried goblygiadau manwl y dyfarniad ar gyfer y Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru), a gyflwynwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 23 Hydref. Yn y cyfamser rydym yn croesawu’r dyfarniad clir, unfrydol hwn bod gosod isafbris yn ffordd briodol a chymesur o fynd i’r afael ag yfed peryglus a niweidiol.