Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
Mewn dyfarniad dyddiedig 26 Gorffennaf, dyfarnodd y Goruchaf Lys o blaid yr Undeb Llafur, Unison, a gefnogwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac Undeb Gweithwyr Annibynnol Prydain Fawr. Wrth gynnal her Unison mewn perthynas â chyflwyno ffioedd ar gyfer Tribiwnlysoedd Cyflogaeth gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, llwyddodd y Goruchaf Lys i sicrhau diweddglo i achos hirfaith trwy'r llysoedd a ddechreuodd yn 2013 ac sy'n dangos rôl hanfodol undebau yn ein cymdeithas fodern, gan sicrhau nad yw gweithwyr cyflogedig cyffredin yn cael eu hecsbloetio gan arferion anghyfreithiol.
Ers 2012 mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cyflwyno llawer o ddiwygiadau sydd wedi newid ein system gyfiawnder yn sylfaenol. Mae mesurau wedi cael eu rhoi ar waith er i ymatebwyr nodi llawer o effeithiau andwyol trwy brosesau ymgynghori.
Oherwydd gostyngiadau sylweddol yn argaeledd cymorth cyfreithiol, ac yn sgil cyflwyno rhai ffioedd llys a allai fod yn uwch na gwerth hawliad, mae mynediad i gyfiawnder yn ddrud dros ben erbyn hyn. Yn fwyfwy mae cyfiawnder yn fforddiadwy yn unig i'r rhai sydd â lefelau sylweddol o incwm gwario net.
Yn fy ymateb i adolygiad y Weinyddiaeth Gyfiawnder o ffioedd Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yn gynharach eleni, tanlinellais mai effaith net cynyddu ffioedd Tribiwnlysoedd Cyflogaeth oedd gwadu cyfiawnder i filoedd o weithwyr. Mynegais bryder y byddai'r cynigion yn creu anghydbwysedd pellach yn y berthynas rhwng y cyflogwr a'r gweithiwr cyflogedig, o gofio y gall cyflogwyr fforddio cynrychiolaeth gyfreithiol lawn fel arfer mewn Tribiwnlysoedd, ond na all gweithwyr cyflogedig fforddio hyn.
Nodais fod tystiolaeth Llywodraeth y DU ei hun yn dangos bod ffioedd yn rhwystr i geiswyr i'r Tribiwnlys Cyflogaeth a bod llawer o hawliadau yn rhai nad ydynt yn ariannol eu natur. Byddai gorfodi ffioedd yn golygu bod mynd ar drywydd rhwymedïau ar gyfer torri'r gyfraith cyflogaeth yn anymarferol yn ariannol i'r rhai sydd ar incwm isel a thrwy hynny'n llesteirio rheolaeth y gyfraith.
Nodais fod ffi'r tribiwnlys cyflogaeth bellach yn uwch na'r tâl net y mae pobl a gyflogir ar lefel y Cyflog Byw yn mynd ag ef adref ac nad oedd unrhyw dystiolaeth wedi'i chyflwyno i ddangos a oes gan y rhai ag enillion ar y lefel hon adnoddau ariannol digonol i fforddio ffioedd o'r fath, yn enwedig ar ôl ystyried costau hanfodol eraill, megis tai, trafnidiaeth, bwyd a dillad. Awgrymais y gallai fod yn ddefnyddiol cymhwyso ystyriaeth debyg i ddiwygiadau eraill yn achos ffioedd yn ogystal ag i gymorth cyfreithiol, er mwyn lleihau'r risg y byddai newidiadau i'r system gyfiawnder yn darparu gwahanol safonau o gyfiawnder yn dibynnu ar adnoddau ariannol unigolyn.
Yn ei ddyfarniad, esboniodd y Goruchaf Lys yn ofalus yr egwyddorion sy'n sail i'r rheswm paham yr oedd y gorchymyn ffioedd Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yn anghyfreithlon o dan y gyfraith ddomestig a chyfraith yr Undeb Ewropeaidd.
Yn sgil cyhoeddi Dyfarniad y Goruchaf Lys yn yr achos hwn, cadarnhaodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder y byddai'n cymryd camau ar unwaith i atal ffioedd rhag cael eu codi mewn tribiwnlysoedd cyflogaeth ac y byddai’n sefydlu trefniadau i ad-dalu'r rhai sydd wedi talu'r ffioedd hyn. Addawodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder hefyd ystyried manylion y dyfarniad ymhellach. Bydd hyn yn hanfodol. Efallai y bydd gan y dyfarniad hwn oblygiadau pellgyrhaeddol y tu hwnt i ffioedd Tribiwnlysoedd Cyflogaeth.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.