Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Tachwedd 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r Goruchaf Lys wedi cyhoeddi ei ddyfarniad unfrydol heddiw yn achos Cyfeirio Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) gan Dwrnai Cyffredinol Cymru a Lloegr. Roedd pob un o’r Ustusiaid yn cytuno â Llywodraeth Cymru bod y Bil o fewn cymhwysedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r achos hwn yn ymwneud â her gyfreithiol i’r Bil cyntaf a basiodd y Cynulliad o dan ei bwerau newydd i lunio deddfwriaethol sylfaenol.

Fe ystyriodd y Goruchaf Lys a oedd adrannau 6 a 9 o’r Bil yn mynd y tu hwnt i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad gan eu bod yn cael gwared ar, neu’n galluogi cael gwared ar, (yn y drefn honno) swyddogaethau cyn-gychwyn Gweinidogion y Goron Llywodraeth y DU heb ganiatâd yr Ysgrifennydd Gwladol i wneud hynny.  

Ymddangosodd Cwnsler Cyffredinol Cymru (gyda chymorth tîm cyfreithwyr Gwasanaethau Cyfreithiol Llywodraeth Cymru a Mr Clive Lewis CF) gerbron y Goruchaf Lys ar 9 a 10 Hydref ac fe amddiffynnodd yr her yn gryf. Dadleuodd y Cwnsler Cyffredinol fod y Bil yn creu gweithdrefn leol newydd er mwyn i awdurdodau lleol yng Nghymru wneud is-ddeddfau. Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol y farn, felly, nad oedd y gofyniad bod yn rhaid i is-ddeddfau gael eu cadarnhau gan Lywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU cyn dod i rym yn angenrheidiol bellach. Dadleuodd fod cael gwared ar y swyddogaethau hyn o fewn y cymhwysedd gan fod hynny’n gysylltiedig â’r darpariaethau yn y Bil oedd yn creu’r weithdrefn leol newydd, neu o ganlyniad iddynt, gan ddod felly o fewn cwmpas paragraff 6(1)(b) o Ran 3 o Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.


Yr Arglwydd Neuberger, Llywydd y Goruchaf Lys, a roddodd y prif ddyfarniad. Dywedodd:

Mae’n amlwg mai’r effaith y bwriedir i Adran 6 y Bil ei chael yw dileu’r angen i Weinidogion Cymru gadarnhau unrhyw is-ddeddf a wneir o dan y deddfiadau rhestredig. Mae hynny’n un o brif ddibenion y Bil, fel sy’n amlwg o ddarllen y darpariaethau a ddyfynnwyd uchod, a hynny ynddo’i hun ac i ddiben symleiddio a moderneiddio’r broses o lunio is-ddeddfau.

Aeth yr Arglwydd Neuberger yn ei flaen i ddweud fod y ffaith fod y Bil yn diddymu pwerau cadarnhau’r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â’r deddfiadau rhestredig yn gysylltiedig â’r prif ddiben hwn, ac yn digwydd o ganlyniad iddo.

Ychwanegodd Dirprwy Lywydd y Goruchaf Lys, yr Arglwydd Hope, a ganmolodd y modd y drafftiwyd y Bil yn ystod y gwrandawiad:

Mae’r cyfeiriad hwn at y Goruchaf Lys yn ddigwyddiad arwyddocaol yn hanes y gyfraith Gymreig. Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 oedd y Bil cyntaf i gael ei basio gan y Cynulliad. Mae hynny’n bwysig ynddo’i hun, gan mai dyma oedd y cyfle cyntaf i’r Cynulliad ddefnyddio ei bwerau i wneud deddfau.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dechrau dadansoddi goblygiadau’r dyfarniad. Mae’r dyfarniad yn un unfrydol ac yn cyfiawnhau penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod derbyn bod angen cydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol yn y mater hwn.

Bydd Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) yn cael ei gyflwyno i Ei Mawrhydi yn fuan er mwyn derbyn Cydsyniad Brenhinol.