Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mehefin 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Hoffwn hysbysu’r Aelodau am ddyfarniad y Goruchaf Lys mewn perthynas ag achos Herio Ardoll Awdurdod y Diwydiant Pysgod Môr (yr awdurdod).

Corff Cyhoeddus Anadrannol yw'r awdurdod a sefydlwyd ar gyfer y DU o dan Ddeddf Pysgodfeydd 1981. Ei brif ddiben yw hyrwyddo effeithlonrwydd a diwallu anghenion diwydiant pysgota môr y DU. Ariennir ei weithgareddau drwy ardoll y mae'n ei gosod ar gynhyrchion pysgod a physgod môr sy'n 'glanio' yn y DU.

Heriodd mewnforwyr y dehongliad cyfreithiol o’r gair 'glanio' ('landed') yn adran 4 o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 a'r ardoll a gafodd ei gosod ar gynhyrchion pysgod a 'fewnforiwyd' i'r DU wedi hynny. Er bod yr awdurdod (a DEFRA) wedi ennill yr achos llys cyntaf, cafodd hyn ei wrthdroi gan y Llys Apêl a chyflwynodd DEFRA a'r awdurdod apêl i'r Goruchaf Lys a wrandawodd yr achos ym mis Mawrth 2011.

Heddiw, mae’r Goruchaf Lys wedi gwneud ei ddyfarniad a’i gasgliad oedd ei bod yn gyfreithlon casglu ardoll ar bysgod môr a chynhyrchion pysgod môr sy'n cael eu mewnforio i’r DU.

Bydd fy swyddogion ym maes Pysgodfeydd yn cydweithio'n agos â Gweinyddiaethau eraill y DU a'r awdurdod i ystyried manylion y dyfarniad.

Gellir gweld y dyfarniad yn

http://www.supremecourt.uk/news/latest-judgments.html