Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rwyf wedi cytuno i weithredu dyfarniad cyflog o 5% ar gyfer 2023/24 i’r rhai hynny a gyflogir gan y GIG ar delerau ac amodau Meddygol a Deintyddol. Mae’r rhain yn cynnwys meddygon ymgynghorol, meddygon a deintyddion o dan hyfforddiant, a’n meddygon SAS ar gontractau 2008. Ar gyfer meddygon SAS ar gontractau 2021, rwyf wedi cytuno i godiad o 1.5% yn ychwanegol at y cytundeb amlflwyddyn presennol sy’n cydnabod mai’r meddygon hyn yw’r unig grŵp i gael yr un telerau ac amodau contract ar draws Cymru a Lloegr.
Mae’r dyfarniad cyflog hwn i’n meddygon a’n deintyddion yn adlewyrchu’r dyfarniad cyflog a gadarnhawyd gennyf ym mis Mai i weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill y GIG gan gynnwys nyrsys, staff ambiwlans, porthorion, glanhawyr, staff cymorth gofal iechyd a nifer o rai eraill nad ydynt yn feddygon ysbyty.
Yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, ni allwn ariannu’n llawn yr argymhellion a wnaed gan y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion. Wrth gwrs, nid dyma’r sefyllfa rydym am fod ynddi yng Nghymru gan ein bod wedi ymrwymo i bartneriaeth gymdeithasol ac i gydnabod gwaith caled ac ymroddiad ein meddygon a’n deintyddion ac, yn wir, holl staff y GIG yng Nghymru.
Heb gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU, nid ydym mewn sefyllfa i allu cynnig dyfarniad cyflog uwch ar hyn o bryd. Pan wnaethom osod ein cyllideb ar gyfer 2023-24, gwnaethom ddefnyddio ein holl adnoddau oedd ar gael er mwyn diogelu gwasanaethau rheng flaen, a darparu cymorth costau byw wedi’i dargedu at gefnogi unigolion a’r economi. Er hyd yn oed ar ôl gwneud hynny i gyd, roedd ein sefyllfa ariannol ar ôl Cyllideb y Gwanwyn ar gyfer y DU ym mis Mawrth hyd at £900 miliwn yn is mewn termau real na phan gafodd y gyllideb honno ei gosod gan Lywodraeth y DU ar adeg yr adolygiad o wariant diwethaf yn 2021. Dyma’r sefyllfa ariannol anoddaf rydym wedi’i hwynebu ers datganoli. Er gwaethaf ein hymdrechion gorau, nid ydym ychwaith wedi derbyn unrhyw gyllid canlyniadol nac unrhyw awgrym y bydd cyllid canlyniadol ar gael inni gan Lywodraeth y DU yn sgil y dyfarniadau cyflog y maen nhw wedi’u rhoi i staff y GIG yn Lloegr.
Er fy mod yn cydnabod y bydd y cynnig rydym wedi’i wneud i feddygon a deintyddion yng Nghymru yn hynod o siomedig, ni allwn wneud cynnig gwell ar hyn o bryd. Byddwn yn gweithio dros yr haf i liniaru’r pwysau cyllidebol hyn a hynny ar sail ein hegwyddorion, sy’n cynnwys diogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen cymaint â phosibl, yn ogystal â thargedu cymorth at y rhai hynny sydd â’r angen mwyaf. Fodd bynnag, heb gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU, rhaid gwneud penderfyniadau anodd.
Rwy’n cydnabod bod Cymdeithas Feddygol Prydain yn siomedig ynglŷn â gwerth y cynnig cyflog a’i bod yn paratoi i ymgynghori â’i haelodau ynghylch y camau nesaf wrth geisio eu hawliad cyflog. Fodd bynnag, rwy’n trefnu i weithredu’r dyfarniad cyflog hwn cyn gynted â phosibl. Yn sgil yr argyfwng costau byw, mae’n well i bobl gael y cyflog uwch sydd ar gael iddynt i’w wario yn awr, hyd yn oed os nad yw’n bodloni eu dyheadau yn llawn.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo’n llawn i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol deirochrog drwy ein Fforwm Partneriaeth Cymru er mwyn sicrhau gwell bywyd gwaith i staff y GIG yn ogystal â gwell gwasanaethau cyhoeddus i’n pobl. Rydym yn parhau i fod ar gael i drafod â Chymdeithas Feddygol Prydain ar unrhyw adeg.
Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau. Os hoffai Aelodau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.