Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn dilyn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 05 Gorffennaf 2018, rwy'n falch o gyhoeddi bod y cytundeb cyflogau a diwygio'r contract dros sawl blwyddyn (2018/2019 - 2020/2021) o dan Agenda ar gyfer Newid wedi'i gytuno yn unfrydol gan undebau llafur Cymru.
Mae staff y GIG yn gwneud gwaith ardderchog yn darparu gofal o'r ansawdd flaenaf. Hyd yn oed gyda'r pwysau cynyddol ar y GIG yn sgil, ymysg pethau eraill, poblogaeth sy'n heneiddio a newidiadau o ran disgwyliadau'r cyhoedd, maent yn gweithio'n eithriadol o galed, gan roi cleifion yn gyntaf a'u cadw'n ddiogel wrth ddarparu'r gofal o ansawdd uchel rydyn ni i gyd yn ei ddisgwyl.
Bydd y cytundeb newydd yn arwain at weld staff y GIG yng Nghymru sy'n rhan o delerau ac amodau Agenda ar gyfer Newid yn elwa dros dair blynedd, ac yn sicrhau gwell gwerth am arian gyda rhai o'r newidiadau pwysicaf i arferion gweithio mewn degawd.
Mae'r cytundeb yn cynnwys amrywiol gynigion yn ymwneud â chyflog a materion eraill a fydd er lles staff a chleifion. Bydd y rhan fwyaf o staff y GIG nad ydynt ar frig eu band cyflog yn elwa ar godiadau cyflog yn sgil ailstrwythuro'r bandiau - cyflog cychwynnol uwch, dileu pwyntiau cyflog sy'n gorgyffwrdd a graddfeydd cyflog byrrach.
Mae'r cytundeb hefyd yn gwarantu dyfarniadau cyflog sylfaenol teg am y tair blynedd nesaf i staff sydd ar frig eu bandiau cyflog - 6.5% cronnus dros dair blynedd.
Bydd y cytundeb yn gosod dysgu a datblygu wrth galon arfarniadau blynyddol lleol, gan helpu i wella'r profiad i'r staff a sicrhau eu bod yn arddangos y safonau gofynnol ar gyfer eu rôl cyn symud ymlaen i'r pwynt cyflog nesaf. Rydym yn gwybod bod arfarniadau cywir yn helpu i wella ymgysylltiad â staff, a thrwy hynny sicrhau gwell canlyniadau i gleifion. Yng Nghymru, mae ymrwymiadau penodol gan Fforwm Partneriaeth Cymru i wella iechyd a llesiant staff y GIG er mwyn gwella lefelau presenoldeb, ac atal absenoldeb salwch, wedi galluogi staff y GIG i barhau i fanteisio ar daliadau oriau anghymdeithasol yn ystod cyfnodau o absenoldeb oherwydd salwch. Ar ben hynny, bydd undebau llafur a chyflogwyr hefyd yn cydweithio i helpu unigolion yn ein gweithlu os byddant yn wynebu diagnosis o salwch angheuol, gan fabwysiadu ymgyrch “Dying to Work” y TUC.
Yn fy natganiad blaenorol, dywedais nad yw cyfran Barnett yn ddigon i dalu am gost lawn y cytundeb hwn, felly rwyf wedi penderfynu buddsoddi cyllid ychwanegol er mwyn sicrhau y bydd y cytundeb hwn yn cael ei roi ar waith, gan gydnabod proffil gwahanol y gweithlu yng Nghymru a'r diwygiadau sylweddol i'r fframwaith. Mae'n iawn rhoi hyblygrwydd o ran cyflog yn gyfnewid am ddiwygiadau sy'n gwella elfennau fel recriwtio, cadw staff a hybu cynhyrchiant.
Yn gyffredinol, mae'r cytundeb cyflog hwn yn deg i staff a threthdalwyr. Bydd yn helpu i wella cynhyrchiant drwy systemau arfarnu cryfach, wedi'u seilio ar dystiolaeth, a thrwy hynny, gwell ymgysylltiad â staff y gwyddom sy'n sicrhau gwell canlyniadau i gleifion. Bydd gwaith yn mynd rhagddo ar unwaith er mwyn sicrhau bod staff yn gweld y buddion yn eu pecynnau cyflog cyn y Nadolig.