Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Medi, cyhoeddais bumed adroddiad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (IWPRB), sy'n cynnwys argymhellion ar gyfer diwygio cyflog ac amodau athrawon o fis Medi 2024. Derbyniais yr holl argymhellion mewn egwyddor, yn amodol ar ymgynghoriad. Fodd bynnag, cyhoeddais y byddwn yn mynd ymhellach na'r dyfarniad cyflog a argymhellodd yr IWPRB, ac y byddwn yn hytrach yn ymgynghori ar gynnydd o 5.5% i gyflogau a lwfansau o fis Medi 2024. Mae hyn yn unol â'm hymrwymiad i sicrhau nad oes anfantais i gyflog ac amodau athrawon yng Nghymru.

Rwyf wedi ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw, ac nid oes unrhyw beth newydd wedi dod i'r amlwg sy'n cyfiawnhau ailystyried y dyfarniad cyflog arfaethedig. Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad hefyd yn dangos cefnogaeth eang i'r mwyafrif o'r argymhellion eraill ym mhumed adroddiad yr IWPRB, gan gynnwys yr argymhellion hynny yn Adolygiad Strategol yr IWPRB o Strwythur Cyflog ac Amodau Athrawon ac Arweinwyr yng Nghymru a oedd hefyd yn destun yr ymgynghoriad hwn. Os oes angen gweithredu'r argymhellion hynny drwy newidiadau i Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru), gwneir hynny drwy newidiadau i Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2024.

Af ati yn fuan, felly, i wneud Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2024 sy'n rhoi effaith i Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2024. 

Caiff y dyfarniad cyflog ei ôl-ddyddio i 1 Medi 2024. A'r cyflogwyr fydd yn gyfrifol am bennu amseriad gweithredu'r dyfarniad, gyda'r nod o drefnu i ad-daliad gael ei drosglwyddo cyn gynted â phosibl.

Mae arian i dalu cyflogau athrawon yn rhan o'r arian craidd a ddarperir gan awdurdodau lleol fel y'i cefnogir gan y Setliad Llywodraeth Leol. Os nad oes modd cynnwys symiau penodol ac annisgwyl yn y Setliad o ganlyniad i gyfyngiadau amser, yn y gorffennol mae Llywodraeth Cymru wedi darparu arian grant ychwanegol yn ystod y flwyddyn. Bydd disgwyl i Awdurdodau Lleol gynllunio eu cyllidebau i gynnwys codiad cyflog 2024/5 yn eu dyraniad o'r setliad. Fodd bynnag, o ystyried y gwahaniaeth rhwng y codiad cyflog arfaethedig a'r dyfarniad cyflog uwch, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cyllid ychwanegol i helpu awdurdodau lleol ac ysgolion i ymdopi ag effaith y codiad cyflog ar gyllidebau.

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y broses, drwy ein dull partneriaeth gymdeithasol ynghyd ag arbenigedd annibynnol yr IWPRB. Rwy wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn parhau i weithio gyda'n gilydd i wobrwyo a chydnabod y gwaith rhagorol y mae ein hathrawon yn ei wneud.