Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg
Rwy’n falch o gyhoeddi heddiw ein bod am wobrwyo ein hathrawon medrus a gweithgar yng Nghymru drwy godi eu cyflog.
Cyhoeddais ar 29 Gorffennaf fy mod, yn amodol ar ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol, yn cytuno mewn egwyddor i dderbyn pob un o argymhellion Corff Cyflogau Annibynnol Cymru ar gyfer 2020/21, ac i wneud mwy na hynny mewn rhai meysydd, gan gyflwyno dyfarniad cyflog o 1 Medi 2020 i ddarparu ar gyfer:
- cynnydd o 8.48% i isafswm prif raddfa gyflog athrawon;
- cynnydd o 3.75% i uchafswm statudol y brif raddfa gyflog;
- cynnydd o 2.75% i uchafswm ac isafswm statudol y raddfa gyflog uwch;
- cynnydd o 2.75% i uchafswm ac isafswm statudol ystod cyflog ymarferwyr arweiniol, graddfa gyflog athrawon heb gymhwyso a’r raddfa gyflog arweinyddiaeth (gan gynnwys grwpiau penaethiaid) a phob lwfans ar draws yr holl ystodau cyflog;
- graddfeydd cyflog cenedlaethol statudol ar gyfer pob pwynt cyflog ar brif raddfa cyflog athrawon, y raddfa gyflog uwch i athrawon, graddfa gyflog athrawon heb gymhwyso a’r raddfa gyflog arweinyddiaeth;
- yn unol â'u polisïau cyflog eu hunain, sicrhau cynnydd o 2.75% ar draws y pwyntiau cyflog interim yn ystod gyflogau ymarferwyr arweiniol a lwfansau athrawon mewn ysgolion i gyfateb i'r cynnydd yn y fframwaith cenedlaethol wrth wneud penderfyniadau ynghylch codi cyflog.
Rwyf bellach wedi ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw a gallaf gadarnhau nad oes dim wedi dod i'r amlwg sy'n gwarantu ailystyried y dyfarniad cyflog arfaethedig i athrawon ar gyfer 2020/21.
Felly, rydwyf wedi gwneud Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2020 a fydd yn rhoi effaith i Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2020.
Bydd y dyfarniad cyflog yn ôl-weithredol i 1 Medi 2020.
Dengys y cyhoeddiad heddiw y mantais o roi’r cyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru am y pwerau hyn, a bod hynny’n parhau. Wrth bennu cyflog athrawon am yr eildro, rydym wedi parhau i ddilyn trywydd gwahanol i’r cynigion yn Lloegr, drwy roi cyflog cychwynnol uwch i athrawon yng Nghymru a chyflwyno rhai o’r prif newidiadau y gofynnwyd amdanynt gan y proffesiwn, megis dilyniant cyflog ar sail profiad a graddfeydd cyflog statudol cenedlaethol. Bydd hyn yn help i hyrwyddo addysgu fel proffesiwn y mae graddedigion a’r rhai sy’n dymuno newid gyrfa am ei ddewis. Ochr yn ochr â’n ddiwygiadau i ddysgu proffesiynol, y cwricwlwm a hyfforddiant cychwynnol athrawon, bydd yn helpu i annog athrawon o’r safon uchaf i ymuno â’r proffesiwn yma yng Nghymru.
Rydym yn cydnabod bod cyflogau athrawon yn rhan sylweddol o gyllidebau ysgolion ac awdurdodau lleol. Rhagwelwyd y byddai’r cynnydd mewn costau yn sgil y dyfarniad hwn yn dod o’r cynnydd yn y cyllid a roddwyd i awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru drwy’r Grant Cynnal Refeniw, ynghyd â’r ddarpariaeth o bwerau codi refeniw yr awdurdodau lleol eu hunain. Fodd bynnag, yn sgil y pandemig, rydym hefyd yn ymwybodol iawn o’r pwysau o wahanol gyfeiriadau ar gyllidebau. Oherwydd hynny, yn dilyn trafodaethau â llywodraeth leol, byddwn yn darparu cyfanswm o £5.538miliwn i gefnogi’r dyfarniad cyflog yn y flwyddyn ariannol hon. Mae hyn yn cynnwys £3.981miliwn sy’n ychwanegol i’r cyllid a ddarparwyd i awdurdodau lleol yn barod trwy’r setliad llywodraeth lleol, ar gyfer blynyddoedd meithrin i blwyddyn 11, a £1.556miliwn arall i gydnabod y cynnydd llawn yn y dyraniad ôl-16.
Wrth gyhoeddi'r dyfarniad Cyflog Athrawon hwn, nodaf fod trafodaethau rhwng colegau Addysg Bellach ac undebau yn parhau. Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad hir-sefydlog i dalu cyflog cyfartal, a bydd cyhoeddiad pellach yn cael ei wneud yn y man.