Neidio i'r prif gynnwy

Y Prif Weinidog, Vaughan Gething AS
Eluned Morgan AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn ein datganiad ysgrifenedig ar 7 Mehefin, rydym yn falch o gadarnhau bod y cynigion cyflog a wnaethom i feddygon ymgynghorol, meddygon SAS a meddygon iau i ddod â'r streiciau i ben a setlo'r anghydfod cyflog yn 2023-24, wedi cael eu derbyn.

Pleidleisiodd pob un o dair cangen ymarfer y BMA o blaid derbyn y cynigion cyflog priodol, a hynny gyda mwyafrif llethol.

Byddwn nawr yn dechrau'r broses o weithredu'r dyfarniad cyflog, fel bod meddygon a deintyddion sydd wedi’u cyflogi yn y GIG yn cael y taliadau cyn gynted ag y bo'n ymarferol. 

Hoffem ddiolch i aelodau timau negodi'r BMA a Chyflogwyr GIG Cymru am natur adeiladol y trafodaethau. Bydd gweithredu'r cynigion hyn yn dod â'r anghydfod a'r gweithredu diwydiannol hwn i ben, sy'n golygu y bydd meddygon yn dychwelyd i'r gwaith yng Nghymru er budd y cyhoedd a gwasanaethau'r GIG.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llawn i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol i sicrhau gwell bywydau gwaith i holl staff y GIG a gwell gwasanaethau cyhoeddus i bobl yng Nghymru.