Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig yn cadw’r hawl i bennu dyddiadau tymhorau ar gyfer eu hysgolion. Serch hynny, maent o dan ddyletswydd i gydweithio a chydgysylltu â’i gilydd i sicrhau bod dyddiadau tymor yr un fath neu mor debyg â phosibl (adran 32A o Ddeddf Addysg 2002). 

Mae’r trefniadau’n ymateb i bryderon ynghylch y problemau sy’n wynebu rhieni â mwy nag un plentyn wrth iddynt ganfod ac ariannu gofal plant pan fo’u plant yn mynychu ysgolion â dyddiadau gwahanol i’w tymhorau.

Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol hysbysu Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r dyddiadau y maent yn bwriadu eu pennu ar gyfer tymhorau erbyn diwrnod gwaith olaf mis Awst, ddwy flynedd gyfan cyn y dyddiadau dan sylw. Estynnwyd y terfyn amser ar gyfer y broses bresennol hyd ddiwedd mis Rhagfyr 2020 gan gydnabod y pwysau ychwanegol ar y sector yn sgil y pandemig a’r cyfyngiadau cysylltiedig. 

Mae pob un o’r 22 awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiadau ynglŷn â’r dyddiadau y maent yn bwriadu eu pennu ar gyfer tymhorau ysgol 2022/23, yn ogystal ag ar ran ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig. 

Er bod gwahaniaethau yma a thraw, roeddwn wedi fy nghalonogi i weld cysondeb bras ar draws Cymru.

Pan nad oes consensws, mae’r gyfraith yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdodau lleol ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir a rhai sefydledig ynglŷn â’r dyddiadau y dylid eu pennu (adran 32B o Ddeddf 2002). Cyn penderfynu defnyddio’r pwerau hyn, mae Gweinidogion Cymru o dan ddyletswydd i ymgynghori. 

Wedi ystyried gwaith yr awdurdodau lleol i geisio cysoni dyddiadau eu tymhorau, rwyf wedi penderfynu peidio â defnyddio fy mhwerau i gyfarwyddo awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig ynghylch y dyddiadau y dylent eu pennu ar gyfer y tymhorau. 

Rwy’n disgwyl felly y bydd awdurdodau lleol ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir a rhai sefydledig yn pennu dyddiadau ar gyfer tymhorau 2022/23 sy’n cyfateb â’r rhai y maent wedi hysbysu Gweinidogion Cymru amdanynt.

Ni fydd fy mhenderfyniad i beidio â chyflwyno cyfarwyddyd ar gyfer dyddiadau tymhorau 2022/23 yn effeithio ar drefniadau pennu dyddiadau tymhorau yn y dyfodol. Mae awdurdodau lleol a’r ysgolion perthnasol yn parhau i fod o dan ddyletswydd statudol i gydgysylltu a chydweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod dyddiadau tymor yr un fath neu mor debyg â phosibl.

Bydd fy swyddogion yn ysgrifennu at awdurdodau lleol ac ysgolion yn fuan i’w hatgoffa i gyflwyno hysbysiadau o’r dyddiadau y maent yn bwriadu eu pennu ar gyfer tymhorau 2023/24 i Lywodraeth Cymru erbyn diwrnod gwaith olaf mis Awst 2021.