Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

O dan Ddeddf Addysg 2014, newidiwyd y trefniadau ar gyfer pennu dyddiadau tymhorau yng Nghymru. Bellach, er bod awdurdodau lleol, a chyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig, yn cadw’r hawl i bennu dyddiadau tymhorau ar gyfer eu hysgolion, mae dyletswydd arnynt i gydweithio er mwyn sicrhau bod y dyddiadau y maent yn eu pennu yn gyson â’i gilydd, neu o leiaf mor debyg â phosibl.

Cafodd y trefniadau newydd eu rhoi ar waith er mwyn ymateb i bryderon teuluoedd am broblemau lle mae mwy nag un plentyn yn y teulu, a bod y plant yn mynd i wahanol ysgolion sydd â gwahanol ddyddiadau tymhorau. Gallai sefyllfa felly beri anhawster i rieni o ran gorfod dod o hyd i ofal plant a thalu amdano.

Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol roi gwybod i Lywodraeth Cymru am y dyddiadau y maent yn cynnig eu pennu, a hynny erbyn y diwrnod gwaith olaf ym mis Awst, ddwy flynedd gyfan cyn y dyddiadau hynny.

Cafodd hysbysiadau eu cyflwyno gan bob un o’r 22 o awdurdodau lleol i ddweud pa ddyddiadau y maent yn cynnig eu pennu ar gyfer 2017/18. Hefyd daeth gwybodaeth i law ar ran 127 o ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig, sef cynnydd sylweddol ar yr 81 y daeth gwybodaeth i law ar eu rhan y flwyddyn gynt.

Rwyf yn gwerthfawrogi’n fawr yr holl waith caled a wnaed gan yr awdurdodau lleol, a’r ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir a’r ysgolion sefydledig, i sicrhau y bydd dyddiadau eu tymhorau yr un fath neu mor debyg â phosibl yn 2017/18.  
Canlyniad eu holl ymdrechion oedd eu bod wedi gallu cytuno ar ddyddiadau cyson ledled Cymru ar gyfer hanner tymor yr hydref 2017/18, gwyliau’r Nadolig a’r chwe wythnos adeg gwyliau’r haf.  Felly ni fydd y gwyliau hyn yn peri unrhyw anawsterau o ran gofal plant.  
Hefyd roedd yn galonogol gweld mai dim ond mewn dau grŵp yr oedd y dyddiadau a gyflwynwyd wedi eu rhannu, o gymharu â’r pedwar grŵp o ddyddiadau a gyflwynwyd gan awdurdodau lleol, ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig, ar gyfer 2016/17. Yn ogystal â hynny, cafwyd llawer mwy o gysondeb o fewn cwmpas daearyddol nag yn y flwyddyn flaenorol.

Fodd bynnag, roedd yna rai gwahaniaethau ar draws y ddau grŵp, sydd i’w gweld yn y tablau isod.

Grŵp A - Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful,  Casnewydd, Sir Benfro, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen, Bro Morgannwg ac Ynys Môn, ynghyd â 90 o ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig yr oedd eu dyddiadau’n gydnaws â’u hawdurdodau lleol o fewn Grŵp A.

Diwrnod cyntaf y flwyddyn ysgol: Dydd Llun 4 Medi 2017
Hanner tymor yr hydref: Dydd Llun 30 Hydref 2017 – Dydd Gwener 3 Tachwedd 2017
Gwyliau’r Nadolig: Dydd Llun 25 Rhagfyr 2017 – Dydd Gwener 5 Ionawr 2018
Hanner tymor y gwanwyn: Dydd Llun 19 Chwefror 2018 – Dydd Gwener 23 Chwefror 2018
Gwyliau’r Pasg: Dydd Gwener 30 Mawrth 2018 -  Dydd Gwener 13 Ebrill 2018
Hanner tymor yr haf: Dydd Llun 28 Mai 2018 – Dydd Gwener 1 Mehefin 2018
Y diwrnod olaf yn yr ysgol: Dydd Mawrth 24 Gorffennaf 2018

Grŵp B – Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Powys a Wrecsam, ynghyd â 35 o ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig yr oedd eu dyddiadau’n gydnaws â’u hawdurdod lleol perthnasol.

Diwrnod cyntaf y flwyddyn ysgol: Dydd Gwener 1 Medi 2017
Hanner tymor yr hydref: Dydd Llun 30 Hydref 2017 – Dydd Gwener 3 Tachwedd 2017
Gwyliau’r Nadolig: Dydd Llun 25 Rhagfyr 2017 – Dydd Gwener 5 Ionawr 2018
Hanner tymor y gwanwyn: Dydd Llun 12 Chwefror 2018 – Dydd Gwener 16 Chwefror 2018
Gwyliau’r Pasg: Dydd Llun 26 Mawrth 2018 – Dydd Gwener 6 Ebrill 2018
Hanner tymor yr haf: Dydd Llun 28 Mai 2018 – Dydd Gwener 1 Mehefin 2018
Y diwrnod olaf yn yr ysgol: Dydd Gwener 20 Gorffennaf 2018

Os na cheir consensws, mae’r gyfraith yn caniatáu i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol, ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig, o ran beth fydd dyddiadau eu tymhorau. Serch hynny, cyn i’r Gweinidogion benderfynu defnyddio’r pwerau hyn, mae dyletswydd arnynt i gynnal ymgynghoriad.

Cynhaliodd y cyn Weinidog Addysg a Sgiliau ymgynghoriad ar y dyddiadau yr oedd yn ystyried eu pennu, sef y dyddiadau yng Ngrŵp A.  Cyhoeddir crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwn ar wefan Llywodraeth Cymru.

Daeth cyfanswm o 55 o ymatebion i law. Dim ond naw o awdurdodau lleol a ymatebodd, ond gellir ei chymryd yn ganiataol y byddai unrhyw ymatebion eraill yn unol â’r dyddiadau a nodwyd yn hysbysiadau gwreiddiol yr awdurdodau.  

Fodd bynnag, dylid nodi bod awdurdod Ynys Môn wedi dweud yn ei ymateb nad oedd yn cytuno nac yn anghytuno â’r dyddiadau a gynigwyd, er bod ei hysbysiad gwreiddiol i Lywodraeth Cymru yn dweud ei fod yn cynnig pennu’r dyddiadau sydd yng Nghrŵp A. Awgryma hyn fod yr awdurdod wedi newid ei feddwl.

Wrth benderfynu a ddylid rhoi cyfarwyddyd o ran beth fydd dyddiadau’r tymhorau ar gyfer 2017/18, rwyf wedi ystyried yr hysbysiadau a gyflwynwyd gan bob un o’r 22 o awdurdodau lleol, ynghyd â’r wybodaeth a gafwyd gan y 127 o ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig. Maent yn cadw’r cyfrifoldeb am bennu dyddiadau eu tymhorau, ac rwy’n fodlon eu bod wedi gweithio'n galed i geisio sicrhau bod y dyddiadau mor debyg â phosibl.

Rwyf hefyd yn cadw mewn cof bod tair set o wyliau ysgol yn gyson ar draws Cymru o ganlyniad i’r holl ymdrechion a’r cydweithio. Rwyf wedi nodi bod y ddwy set o ddyddiadau a ddewiswyd gan awdurdodau lleol, ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig, o fewn cwmpasau daearyddol clir sydd wedi ei rannu rhwng awdurdodau’r De ac awdurdodau’r Gogledd a Phowys, (er bod Ynys Môn yn eithriad). Rwyf o’r farn y bydd hyn yn ddigon i leihau unrhyw effaith ar rieni o ran dod o hyd i ofal plant a thalu amdano.

Rwyf wedi penderfynu nad wyf am ddefnyddio fy mhwerau i roi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol, a chyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig, o ran beth fydd dyddiadau eu tymhorau.  

Rwy’n disgwyl i awdurdodau lleol, ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig, bennu dyddiadau eu tymhorau ar gyfer 2017/18 yn unol â’r dyddiadau yr oeddent wedi eu cyflwyno’n wreiddiol i Weinidogion Cymru, sef y dyddiadau yn y tablau uchod. Fodd bynnag, rwy’n disgwyl y bydd Ynys Môn yn awyddus i adolygu ei ddyddiadau er mwyn eu cysoni â’i ymateb i’r ymgynghoriad. Bydd ei ddyddiadau wedyn yn gydnaws â’i gymdogion yng Nghrŵp B.  Byddaf yn monitro’r camau a gymerir gan yr awdurdod i wneud hyn a hefyd i roi gwybod i athrawon a rhieni.

Ni fydd fy mhenderfyniad i beidio â rhoi cyfarwyddyd o ran pennu dyddiadau tymhorau ar gyfer 2017/18 yn effeithio ar y trefniadau ar gyfer pennu dyddiadau yn y dyfodol. Mae’r awdurdodau lleol a’r ysgolion perthnasol yn parhau o dan ddyletswydd statudol i gydweithredu ac i gysoni dyddiadau er mwyn sicrhau eu bod yr un fath neu o leiaf mor debyg â phosibl ar gyfer 2018/19.  Bydd fy swyddogion yn ysgrifennu i awdurdodau lleol ac ysgolion maes o law, i’w hatgoffa i gyflwyno eu hysbysiadau ynghylch y dyddiadau y maent am eu pennu ar gyfer 2018/19 i Lywodraeth Cymru erbyn diwrnod olaf Awst 2016.