Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Bydd Rhentu Doeth Cymru, enw brand y gofynion cofrestru a thrwyddedu newydd o dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, yn cael ei lansio ar 23 Tachwedd 2015. O’r dyddiad hwn ymlaen, bydd y wefan (www.rentsmart.gov.wales) yn fyw. Os bydd angen i landlordiaid gofrestru ac os bydd angen i landlordiaid ac asiantau wneud cais am drwydded byddant yn gallu gwneud hynny o’r dyddiad hwnnw ymlaen. Rhaid imi bwysleisio, fodd bynnag, fod ganddynt ddigon o amser i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth newydd gan y byddwn, yn ystod y 12 mis cyntaf, yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth landlordiaid ac asiantau o’r gofynion  a’u hannog i gofrestru a/neu gael trwydded. Bydd hyn yn rhoi digon o amser iddynt ddysgu am y gofynion a chymryd y camau angenrheidiol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau newydd.

Aeth cryn dipyn o waith rhagddo i gyrraedd y pwynt hwn, a hoffwn ddiolch i bawb a fu ynghlwm wrth y gwaith, gan gynnwys yr Aelodau Cynulliad am graffu mor ofalus ar y ddeddfwriaeth, yn enwedig Aelodau’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a’r Pwyllgor Cyllid am helpu i lywio’r ddeddfwriaeth derfynol.

Bydd Rhentu Doeth Cymru yn gwella delwedd y sector rhentu preifat, sy’n dod yn gynyddol bwysig i lawer o safbwynt dewisiadau tai. Bydd o fudd i’r rhai sy’n rhentu eu cartref yn y sector a hefyd yn gwella arferion landlordiaid ac asiantau ac yn helpu i fynd i’r afael â’r landlordiaid gwael sy’n rhoi enw drwg i’r sector. Mae llawer un arall wedi bod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu’r polisi, y ddeddfwriaeth ac o roi’r fenter hon ar waith. Mae’r rhain yn cynnwys, ymhlith eraill, grwpiau o randdeiliaid allweddol gan gynnwys grwpiau sy’n cynrychioli landlordiaid, asiantau, tenantiaid ac Awdurdodau Lleol.  

Wrth gwrs, yn awr mae’r gwaith go iawn yn dechrau. Ar ôl lansio’r cynllun, bydd landlordiaid yn cofrestru eu manylion gyda Rhentu Doeth Cymru dros y 12 mis nesaf a bydd rhai ohonynt yn ystyried a ydynt am wneud cais am drwydded eu hunain ynteu a ydynt am drosglwyddo’r gwaith o reoli a gosod eu heiddo i asiant trwyddedig. Neu gallant ddewis bod mewn sefyllfa lle mae angen iddynt wneud y ddau.

Rwy’n siŵr y bydd yr asiantau gosod yn brysur hefyd, yn gweithio i sicrhau y bydd eu busnes yn cydymffurfio â’u rhwymedigaethau trwyddedu newydd. Er ein bod wedi rhoi cyfnod o 12 mis iddynt fodloni’r gofynion newydd,  gwn fod nifer o asiantau gosod yn awyddus i gydymffurfio â’u dyletswyddau newydd cyn gynted â phosibl gan y byddant am sicrhau’r landlordiaid y maent yn eu cynrychioli eu bod wedi’u trwyddedu ac, felly, yn cydymffurfio’n llawn â’r gyfraith.

Gwn y bydd yr Aelodau am gael gwybod am hynt y ddeddfwriaeth newydd a gwaith Rhentu Doeth Cymru. Byddaf yn comisiynu astudiaeth annibynnol i werthuso’r cynllun. Yn ogystal â hyn, bydd trefniadau ar waith i fonitro’r gwaith cofrestru a thrwyddedu ac i roi adborth ar y modd y mae’n gweithredu.    

O hyn tan y caiff y cynllun ei lansio, bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn www.rentsmart.gov.wales wrth i’r manylion ddod i law.