Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ni fu erioed amser pwysicach i Gymru hyrwyddo ei hun yn rhyngwladol a chyrraedd mannau y tu hwnt i'w ffiniau. Mae ein diwrnod cenedlaethol yn darparu llwyfan naturiol y gallwn godi ein llais ohono i ddweud wrth y byd am ein tir, ein gwerthoedd, ein talent, ein cyflawniadau a'r gwahaniaeth cadarnhaol yr ydym am ei wneud ym mywydau ein pobl a'n cyfraniad i'r byd ehangach.

Ein nod yw defnyddio Diwrnod Cenedlaethol Cymru i gefnogi'r gwaith o gyflawni ein Strategaeth Ryngwladol, gyda'i huchelgeisiau allweddol o godi proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol; tyfu'r economi drwy gynyddu allforion a denu mewnfuddsoddiad; a sefydlu Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang.

Rydym am i Gymru gael ei hystyried ymhlith gwledydd mwyaf cyfrifol y byd, gan adeiladu ar draddodiad hir o ryng-genedlaetholdeb a sicrhau tegwch gan ganolbwyntio ar bobl a'r blaned.  Yr amcan yw bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu hysbrydoli gan Gymru, ei phobl, ei lleoedd a'i chynnyrch, eu bod yn gweld Cymru fel cenedl o bobl dda sy'n gwneud pethau da i'w gilydd, eu gwlad a'r byd. O ganlyniad, rydym am iddynt brynu nwyddau o Gymru, gwneud cynlluniau i ymweld â Chymru neu astudio yma yn y dyfodol, buddsoddi yng Nghymru a rhannu cynnwys ar Gymru.

Yn ei bregeth olaf dywedodd Dewi Sant "Gwnewch y pethau bychain". Er bod yr uchelgais hwn yn un hanesyddol, mae’n berthnasol o hyd ac rydym am ei rannu â’r byd. Felly, yn 2021, ffocws Dydd Gŵyl Dewi fydd gwneud pethau da, boed yn rhai mawr neu fach – a byddwn yn estyn gwahoddiad i bobl ledled y byd ymuno â ni. Bydd gweithgarwch yn cael ei gyflawni drwy bedwar prif faes:

  1. Mae Gŵyl Dewi 2021 yn ddathliad digidol 72 awr uchelgeisiol a chyffrous ar gyfer defnyddwyr sy'n arddangos Cymru i'r Byd. Bydd rhannau helaeth o'r gyfres o gynnwys a digwyddiadau digidol wedi'u recordio ymlaen llaw a fydd yn mynd allan fel petaent yn fyw o ddydd Gwener 26 Chwefror – 1 Mawrth. Mae'n cynnwys perfformiadau cerddorol gan rai artistiaid newydd o Gymru a rhai sydd wedi ennill eu plwyf, stori wedi'i hailddychmygu o Dewi Sant a ddarllenir gan Cerys Matthews yn Gymraeg a Saesneg i blant ledled y byd, sesiynau llesol, gan gynnwys ioga bob bore a digwyddiad awyr dywyll bob nos a chynnwys wedi'i gyd-gynhyrchu a fydd yn dangos amrywiaeth o bartneriaid a rhanddeiliaid allweddol.

 

  1. Mae pecyn cymorth Digidol Dewi yn cynnwys casgliad o asedau digidol mewn amrywiaeth o wahanol ieithoedd i'w defnyddio mewn marchnadoedd rhyngwladol, gan gynnwys graffeg gymdeithasol, cynnwys fideo ac animeiddiadau. Rydym am i eraill ymuno i helpu i ehangu ein neges felly rydym wedi rhannu'r pecyn cymorth gyda'r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) a rhwydwaith byd-eang y British Council, ac ystod eang o randdeiliaid rhyngwladol ledled y byd ac yng Nghymru.

 

  1. Bydd y Rhaglen Digwyddiadau Digidol yn cyflwyno cyfres o ddigwyddiadau digidol ar gyfer cynulleidfaoedd pwrpasol sydd â chyrhaeddiad byd-eang. Bydd y digwyddiadau'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd, gwyddoniaeth ac arloesi, ymchwil fyd-eang, ein gallu academaidd, llesiant a chenedlaethau'r dyfodol.

 

  1. Bydd y Cyfryngau Cymdeithasol a chysylltiadau cyhoeddus yn canolbwyntio ar farchnadoedd targed allweddol a chysylltiadau blaenoriaeth ledled y byd. Bydd ymgyrch yn y cyfryngau yng Nghymru hefyd yn sicrhau bod yr ymgyrch hon yn cael ei hyrwyddo i gynulleidfaoedd yng Nghymru.

Mae ein hôl troed dramor yn hanfodol bwysig i gyflawni ein nodau. Mae ein Swyddfeydd Rhyngwladol wedi bod yn allweddol wrth lunio'r pedwar maes gweithgarwch a byddant yn cyflwyno cyfres o raglenni dwyochrog yn y wlad.

Mae'r gweithgarwch hwn hefyd yn ategu gwaith gwych sefydliadau yng Nghymru a chymdeithasau sydd ar wasgar ar draws y byd sy'n cynnal eu digwyddiadau Dydd Gŵyl Dewi eu hunain.

Bydd Gŵyl Dewi yn cael ei hyrwyddo ar @walesdotcom (Twitter, Facebook ac Instagram), a nifer o gyfrifon Llywodraeth Cymru a phartneriaid. Bydd digwyddiadau'n ymddangos ar wefan Wales.com

Byddaf i, a llawer ar draws y Cabinet, yn cymryd rhan mewn digwyddiadau yn ystod yr ymgyrch hon. Rwy'n annog holl Aelodau'r Senedd i rannu'r cynnwys ar draws y cyfryngau cymdeithasol yn y cyfnod cyn penwythnos Gŵyl Dewi 72 awr, ar y penwythnos a Dydd Gŵyl Dewi ei hun a'r wythnos ganlynol.

Rwyf am sicrhau bod dylanwad Cymru'n ymestyn y tu hwnt i ffiniau tir ein gwlad. Cofrestrwch ac ymunwch â mi yn 2021 i wneud y Dydd Gŵyl Dewi hwn yn un i'w gofio ac i arddangos Cymru i'r byd – cenedl dda sy'n gwneud pethau da.