Neidio i'r prif gynnwy

Dafydd Elis-Thomas AS, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dros yr wythnosau diwethaf mae rhai o’n hathletwyr proffesiynol wedi dychwelyd i hyfforddi.  Chwaraeon yw eu bywoliaeth, a’r maes chwarae yw eu gweithle; rydym wedi byw mewn gobaith y buasai chwaraeon proffesiynol yn dychwelyd rhyw bryd yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud, er y tu ôl i ddrysau caeëdig yn y lle cyntaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir yn y canllawiau a gyhoeddwyd ynghylch y rheoliadau Coronafeirws yng Nghymru, ac mae ail-ddechrau chwaraeon proffesiynol y tu ȏl i ddrysau caeëdig yn cael ei ganiatáu o dan ein rheoliadau.  Rydym wedi bod yn gweithio gyda Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol chwaraeon i ddatblygu dull cyffredinol o ddychwelyd i bob math o chwaraeon yng Nghymru, o fewn y gymuned ac ar lefel elitaidd a phroffesiynol.  Rydym eisoes wedi gweld rasio ceffylau yn dychwelyd i Gymru gyda’r digwyddiad yng Nghas-gwent ddechrau’r wythnos hon, a bydd rhagor o chwaraeon yn ail-ddechrau, y tu ôl i ddrysau caeëdig ar y cychwyn, yn ystod yr wythnosau nesaf.   

Cyhoeddodd Cynghrair Pêl-droed Lloegr (EFL) y byddai tymor Pencampwriaethau 2019/20 yn ail-ddechrau y tu ȏl i ddrysau caeëdig ar 20 Mehefin.  Yn dilyn trafodaethau rhwng yr awdurdodau perthnasol, gan gynnwys Heddlu De Cymru ac Uned Heddlu Pêl-droed y Deyrnas Unedig (UKFPU), cytunwyd y byddai Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a Chymdeithas Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe yn ail-ddechrau eu tymor ar benwythnos 20/21 Mehefin.  Mae gan y ddau glwb naw o gemau yn weddill, pum gêm gartref yng Nghaerdydd a phedwar yn Abertawe.  Bydd Abertawe yn teithio i Middlesbrough ar 20 Mehefin, a Caerdydd yn croesawu Leeds y diwrnod canlynol.

Mae gan reolwyr stadiwm y ddau glwb asesiadau risg cynhwysfawr, a chynlluniau gweithredu a reolwyd a’u harolygu’n llym gan yr EFL.   Cytunwyd y byddai pob digwyddiad y tu ôl i ddrysau caeëdig yn lleoliad cartref arferol y clwb, ac y byddai hyn yn cael ei orfodi’n llym fel digwyddiad heb wylwyr, a staff hanfodol yn unig yn cael yr hawl i fynd i rannau penodol o bob stadiwm.   

Bydd chwaraewyr a staff ar ddiwrnod y gêm yn dilyn trefn profi tymheredd a Covid-19 rheolaidd gyda mesurau pellter cymdeithasol effeithiol.  Mae’r staff a’r chwaraewyr yn cael eu profi ddwywaith yr wythnos gyda’r gost yn cael ei dalu gan y clybiau hynny. Mae’n rhaid i bob clwb ddilyn rheolau fesul cam sydd wedi’u trefnu gan yr EFL o ran teithio i bob digwyddiad, gydag argymehllion megis chwaraewyr yn teithio yn annibynnol i bob digwyddiad yn eu cerbydau eu hunain ac i beidio â chyrraedd mwy na 60 munud cyn dechrau’r gêm.  Mae clybiau’n gwneud eu trefniadau eu hunain gyda gwestai ble y bydd angen llety dros nos a ble y gellir cadw pellter cymdeithasol. 

Bydd Heddlu De Cymru yn cefnogi pob clwb i weithredu eu cynlluniau diogelwch eu hunain ar gyfer y ddwy gêm gartref, a byddant yn edrych ar yr effaith ar yr heddlu lleol a’r gymuned yn ehangach wedi’r gemau hynny.   

Rwy’n gwybod y bydd nifer o bobl ledled Cymru wedi aros yn eiddgar i chwaraeon proffesiynol ddychwelyd i’n bywydau a bydd hynny yn rhywbeth y byddwn yn ei groesawu’n fawr yn ystod y pandemig  Coronafeirws.  Fodd bynnag, mae’n hollbwysig er diogelwch a lles pawb ac er mwyn cwblhau tymor Pencampwriaeth yr EFL yn llwyddiannus bod pobl yn cadw at y rheoliadau Coronafeirws presennol sy’n gwahardd ymgynnull torfol.  Ni ddylai cefnogwyr deithio i gemau i ffwrdd a dylent gadw i ffwrdd o’r stadiymau ar ddiwrnod gêm.  

I helpu i atal torfeydd rhag ymgynnull yn ystod y gemau sy’n weddill gan y ddau glwb, ac i annog cefnogwyr i gadw i ffwrdd o’r stadiymau, bydd nifer o’r gemau sy’n weddill yn cael eu darlledu ar y teledu, ac ar wasanaeth ffrydio y clybiau i ddeiliaid tocynnau tymor.  Cafodd Dinas Caerdydd eu dewis am y ddwy gêm gyntaf sydd i’w dangos yn fyw ar Sky Sports, a bydd y darlledwr yn dangos 30 o’r 108 o gemau’r Bencampwriaeth sy’n weddill, gan gynnwys y gemau ail-gyfle.    

Gyda’r ddau glwb yn parhau i chwilio, yn fathamategol, am ddyrchafiad, hoffwn ddymuno’n dda iawn iddynt a gobeithio y byddant yn ail-ddechrau eu tymor EFL yn llwyddiannus.