Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Heddiw, mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi cyhoeddi canlyniadau ail arolwg blynyddol y gweithlu gofal cymdeithasol. Daw hyn wedi arolwg peilot y llynedd ac mae'n ystyried materion gan gynnwys iechyd a llesiant, cyflog ac amodau, dilyniant gyrfa, anghenion hyfforddi, cymhellion i weithio ym maes gofal cymdeithasol a'r pethau y mae ein gweithlu yn eu gwerthfawrogi fwyaf.
Mae'r arolwg yn gyfle unigryw i aelodau'r gweithlu gofal cymdeithasol roi eu barn ar amrywiaeth o faterion sy'n effeithio arnynt ac yn helpu i ddylanwadu ar y ffordd rydym yn mynd i'r afael â'r hyn sydd bwysicaf iddynt. Cafodd yr arolwg ei gwblhau gan 8% o'r gweithlu o'i gymharu â 6.5% y llynedd. Er fy mod yn falch iawn o weld bod y gyfradd ymateb yn uwch eleni, mae'n rhaid inni barhau i adeiladu ar hyn i sicrhau bod llais y sector yn cael ei glywed.
Unwaith eto, mae'r canlyniadau yn tynnu sylw at ymrwymiad eithriadol ein gweithlu gofal cymdeithasol, a'u rôl anhygoel wrth ddarparu gwasanaethau yng Nghymru. Er ein bod wedi gweld rhai gwelliannau ers y llynedd, mae llawer mwy i'w wneud o hyd i sicrhau bod y gweithlu'n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod y gefnogaeth orau bosibl ar gael ar eu cyfer.
Rwy'n cyhoeddi'r datganiad hwn ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd ac mae iechyd a llesiant ein gweithlu gofal cymdeithasol yn flaenoriaeth. Mae'n egwyddor sylfaenol sy'n sail i Gynllun Cyflawni Strategaeth y Gweithlu ar gyfer Gofal Cymdeithasol 2024-2027, a lansiwyd yn gynharach eleni. Mae camau gweithredu wedi'u cymryd i gefnogi llesiant ein gweithlu, gan gynnwys sefydlu'r fframwaith iechyd a llesiant fel y gall cyflogwyr a gweithwyr fesur eu sefydliad yn erbyn set o safonau y cytunwyd arnynt. Mae camau eraill yn cynnwys sefydlu rhwydweithiau cymheiriaid newydd sy'n darparu cymorth a chefnogaeth ar y cyd i reolwyr i helpu i feithrin gwytnwch, a darparu cyllid i Canopi, sef gwasanaeth cymorth iechyd meddwl sy'n rhad ac am ddim i'r gweithlu cyfan ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae data gan Canopi yn awgrymu bod eu cefnogaeth amserol, o ansawdd uchel wedi arwain at dros 60% o gleientiaid yn teimlo eu bod wedi gallu parhau i weithio tra'r oeddent yn derbyn cefnogaeth, gan helpu i feithrin a chynnal gweithlu cynaliadwy a gwydn.
Mae telerau ac amodau yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r sector, ac rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i wella'r rhain. Gwnaethom sefydlu'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol fel grŵp partneriaeth gymdeithasol deirochrog, sydd wedi ymrwymo i wreiddio egwyddorion Gwaith Teg ac i wella telerau ac amodau ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru. I ddechrau, canolbwyntiodd y Fforwm ei ymdrechion ar welliannau i dâl. Rhoddodd gyngor ar sut i fwrw ymlaen ag ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i dalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru, sydd bellach yn ei drydedd flwyddyn ariannol. Erbyn hyn, mae'r Fforwm yn canolbwyntio ar ddatblygu a chyflwyno fframwaith Tâl a Dilyniant gwirfoddol sy'n gweithio i'r sector. Bydd y fframwaith hwn yn cefnogi darparwyr i gynnig tâl cyson a chyfleoedd datblygu a dilyniant clir y maent yn eu haeddu i weithwyr.
Mae’r Fforwm a Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU ar eu cynllun i gyflwyno Cytundebau Cyflog Teg i weithwyr yn y sector gofal cymdeithasol i oedolion. Rydym eisoes wedi datblygu perthynas waith agos â swyddogion Llywodraeth y DU dros y misoedd diwethaf, a byddwn yn parhau â'r cydweithio agos hwn i ddeall y potensial y gallai hyn ei gynnig i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Yn ddiweddar, datblygwyd Partneriaeth y Gweithlu Gofal Cymdeithasol, sef y bartneriaeth gyntaf o'i math yn y DU a'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol fu'n gyfrifol am ei sefydlu. Mae'r bartneriaeth yn dwyn ynghyd y llywodraeth, cyflogwyr ac undebau i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol i gytuno ar fodelau arferion gorau ar gyfer staff sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol annibynnol. Y gobaith yw y bydd cyflogwyr yn mabwysiadu'r rhain yn wirfoddol. Ar hyn o bryd, mae'r bartneriaeth yn llunio'r blaenoriaethau terfynol y byddant yn canolbwyntio arnynt dros y 12 mis nesaf ar ôl ymgynghori gyda'r gweithlu drwy undebau, a chyda darparwyr gofal cymdeithasol drwy arolwg. Mae hyn yn golygu bod y gweithlu a darparwyr wedi cael dylanwad a chyfle i rannu a chyflwyno'r blaenoriaethau sydd bwysicaf iddynt. Byddwn yn gwneud cyhoeddiad ar y blaenoriaethau hynny cyn bo hir.
Mae llwyth gwaith a staffio hefyd yn parhau i fod yn faes ffocws allweddol. Mae recriwtio a chadw staff yn flaenoriaeth, ac mae pob un o'n rhaglenni gwaith yn anelu at dargedu heriau yn y sector. Mae bob amser yn ysbrydoledig clywed am rai o'r dulliau arloesol o recriwtio a chadw staff sy'n cael eu defnyddio ledled Cymru. Law yn llaw â'r sector, byddwn yn parhau i ystyried sut y gallwn drosi a chyflwyno'r arferion arloesol hyn ar raddfa, a hynny wrth weithio o fewn cyfyngiadau'r pwysau ariannol parhaus. Mae ystyried ffyrdd eraill o wneud rolau yn y sector yn fwy deniadol drwy greu llwybrau dilyniant clir yn hanfodol. Gall gofal cymdeithasol fod yn yrfa am oes.
Drwy barhau i weithio'n agos gyda'r sector a chyda'n partneriaid, rwy'n hyderus y byddwn yn goresgyn yr heriau presennol ac yn mynd i'r afael â'r materion a amlygwyd yn yr arolwg. Hoffwn ddiolch i'n gweithlu gofal cymdeithasol am eu hymrwymiad, eu hymroddiad a'r cyfraniad gwerthfawr y maent yn ei wneud i'r unigolion mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Rydych chi'n cael eich gwerthfawrogi a byddaf yn parhau i gyflawni'r newid rydych chi i gyd yn ei haeddu am eich cyfraniad. Rwy'n gadarnhaol am y dyfodol, a gwn y gallwn barhau i gyflawni newidiadau cadarnhaol sy'n gwneud gwahaniaeth i'r gweithlu gofal cymdeithasol, ac i'r bobl sy'n dibynnu ar gefnogaeth gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.