Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AC, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yr wyf wedi ystyried, ar y cyd ag aelodau eraill y Llywodraeth, yr holl weithgarwch presennol ar ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth, ac yr ydym wedi cytuno ar ddull gweithredu o ran ein deddfwriaeth yn dilyn yr achosion o COVID-19. 

O'r Biliau yn y rhaglen ddeddfwriaethol a gyhoeddwyd ar 16 Gorffennaf 2019 (https://llyw.cymru/datganiad-llafar-y-rhaglen-ddeddfwriaethol-3), Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a'r Bil Cwricwlwm ac Asesu yw ein prif flaenoriaethau. 

Mae'r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yng Nghyfnod 1 ar hyn o bryd. Rydym eisiau llywio hynt y diwygiadau allweddol yn y Bil hwn mewn ffordd amserol. Y rheswm dros hyn yw bod gweithredu ymestyn yr etholfraint i unigolion 16 a 17 oed mewn etholiadau llywodraeth leol yn dibynnu ar sefydlu is-ddeddfwriaeth dim hwyrach na chwe mis cyn etholiadau mis Mai 2022. 

Mae diwygio'r cwricwlwm ac asesu yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer y Llywodraeth. Mae'r sector wedi bod yn paratoi ers rhai blynyddoedd i gyflwyno'r newidiadau, a dim ond os bydd Bil yn cael ei basio gan y Senedd y gellir cyflawni hyn. 

Mae gweddill ein rhaglen ddeddfwriaethol yn parhau i gael ei adolygu'n barhaus.

Mae’r Llywodraeth wedi ystyried hefyd sut y mae am ddelio ag is-ddeddfwriaeth. Bydd angen blaenoriaethu is-ddeddfwriaeth i ymateb i COVID-19. Hefyd, bydd angen swm arwyddocaol o is-ddeddfwriaeth â blaenoriaeth i ymateb i ddiwedd y cyfnod pontio Ewropeaidd. A bydd yn rhaid cyfreithiol wrth beth deddfwriaeth p’run bynnag neu am resymau eraill.  

Ynghylch Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol, mae'r Llywodraeth yn dal i fwriadu sicrhau y caiff y Senedd y cyfle i ystyried a phleidleisio ar y rhain ac i argymell y cyfnodau craffu arferol lle bo amserlen Senedd y DU yn caniatáu. 

Yr wyf yn gobeithio y bydd y Senedd yn awr yn gweithio gyda’r Llywodraeth i sefydlu dull hyblyg o graffu ar ddeddfwriaeth, gan gynnwys ystyried ffyrdd newydd o graffu, er mwyn caniatáu i’r Llywodraeth fynd â’r rhaglen ddeddfwriaethol yn ei blaen i'r graddau y bo hynny’n bosibl o dan yr amgylchiadau presennol.